Ateb y Galw: Yr actor Owen Alun
- Cyhoeddwyd
Yr actor Owen Alun sy'n Ateb y Galw'r wythnos yma ar ôl iddo gael ei enwebu gan Iwan Fôn yr wythnos diwethaf.
Roedd Owen yn chwarae'r cymeriad Dyfan ar Rownd a Rownd ar S4C am flynyddoedd, ac mae hefyd yn actio mewn dramâu llwyfan. Bydd ei lais yn gyfarwydd i wylwyr ifanc S4C, fel un o leisiau'r rhaglen Arthur a Chriw y Ford Gron.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Hogyn 'ma yn hitio fi ar fy mhen efo rhaw blastig yn y twb tywod yn Ysgol Hendre. Dal heb fadda' idda fo - 'neud fi grïo o flaen pawb arall yn dosbarth derbyn...
Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?
Dawn o The Office.
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Mi 'nath y tro cyntaf i mi drio fflyrtio godi dipyn o gywilydd arna i. Amser chwara' yn Ysgol Bontnewydd oedd hi - ras rhwng rhei o hogia' fy nosbarth i ddangos i genod blwyddyn 1 pwy oedd y gora'.
Nes i roi gymaint o ymdrech mewn i'r rhedeg, 'nesi mistec bach yn fy nhrôns. O'ni ond tua 4 oed. Bechod ia. Nes i'm mentro fflyrtio eto am flynyddoedd, na rhedeg o ran hynny.
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?
Dwi wedi bod yn ail wylio Queer Eye yn ddiweddar.
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Bod yn flêr a byta gormod o hwmws.
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Ar ben yr Eifl - golygfa dros Ben Llŷn, Eryri a Bae Caernarfon. Llonydd.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Toss-up rhwng: Noson efo ffrindia' coleg yn Amersham Arms, New Cross pan oeddwn i'n flwyddyn gyntaf - rhyddid llwyr. Neu, pan ddo'th fy nheulu a nghariad i Lundain i weld sioe oeddwn i'n cymryd rhan ynddi flwyddyn ddwethaf, yn The Coronet Theatre yn Notting Hill.
Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Rhad i'w gadw.
Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?
Dibynnu pa mŵd dwi ynddo - Paris, Texas neu Tootsie ydi fy hoff ffilm.
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod?
Mam-gu. Sherry fach oedd hi'n licio, so Mam-gu a dau sherry plîs.
Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Dwi'n gallu cerdded reit dda mewn sodla uchel.
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Byta gormod o hwmws mwy na thebyg. Cael fy nheulu a ffrindiau i gyd mewn un tafarn yn ddelfrydol, a falla mynd am dro i Dinas Dinlle.
O archif Ateb y Galw:
Beth yw dy hoff gân a pham?
Newid yn aml. Noson arall efo'r drymiwr gan Steve Eaves ydi'r un rhan fwyaf o'r amser.
Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?
I gychwyn: Bechdan salmwn tun a ciwcymber oedd Nain yn 'neud ers talwm.
Prif gwrs: Cyri Mam a tarka dhal Dad.
Pwdin: Ma' Fron Goch yn gwerthu petha o'r enw mocha squares. Hwnna.
Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?
Y gath. Bywyd braf ma' honno'n cael.
Pwy sydd yn Ateb y Galw wythnos nesaf?
Emyr 'Himyrs' Roberts