Ymateb cymysg i'r syniad o greu parc cenedlaethol
- Cyhoeddwyd

Croeso cymysg sydd i awgrym gan y Blaid Lafur i sefydlu Parc Cenedlaethol newydd yn ardal Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.
Mae'r syniad wedi ei gynnwys ym maniffesto'r blaid ar gyfer etholiad Senedd Cymru yr wythnos nesaf.
Mae'r ardal eisoes wedi ei dynodi'n Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol ac mae rhai trigolion lleol yn amheus o'r syniad o greu parc cenedlaethol.
Mae'r Cynghorydd Merfyn Parry yn cynrychioli Llandyrnog ar Gyngor Sir Ddinbych.
"Mae statws parc cenedlaethol yn dod â chyfyngiadau gyda fo a pethau 'efo cynllunio a rhwystro busnesau mewn rhai llefydd," meddai.

Mae gan y Cynghorydd Merfyn Parry amheuon ynghylch yr awgrym
"Mae'r ffyrdd yn gul yma, dydyn nhw ddim wedi eu gwneud i dorf o bobl droi i fyny.
"Dyna'r drwg fysen ni'n gael wrth greu parc cenedlaethol, bod ni'n cael gormod o bobl yn dod yma ac yn andwyo'r lle."
'Lot o drefi'n elwa'
Roedd 'na broblemau parcio difrifol ym Mharc Cenedlaethol Eryri y llynedd wrth i'r cyfnodau clo ddod i ben, ac mae trefniadau parcio newydd mewn grym erbyn hyn.
Roedd prysurdeb mawr ym Mryniau Clwyd hefyd, yn enwedig ger Moel Famau.
Er hynny, mae rhai'n gweld cyfle economaidd o greu parc newydd a chyfle i reoli'r pwysau y gall gormod o dwristiaeth ei achosi.

Fe allai trefi'r ardal elwa o farchnata effeithiol, medd Gavin Harris
Mae Gavin Harris yn rhedeg dau westy yn Rhuthun a Llangollen.
"Mae'n bwysig iawn bod y marchnata'n cael ei wneud i bwysleisio llefydd ar wahân i'r rhai adnabyddus fel Moel Famau," meddai.
"Mae angen ehangu effaith twristiaeth cynaliadwy yn yr ardal a dod â budd economaidd i lefydd fel Corwen, Rhuthun a'r Wyddgrug sydd gyrion yr ardal.
"Mae 'na lot o drefi fyddai'n elwa'n fawr iawn."

Moel Famau ydy'r uchaf o Fryniau Clwyd ar y ffin rhwng Sir Ddinbych a Sir y Fflint
Y Blaid Lafur sy'n cynnig yn eu maniffesto i greu parc cenedlaethol ym Mryniau Clwyd.
Mae Plaid Cymru yn dweud na ddylid brysio, ac y dylai twristiaeth yng Nghymru fod yn gynaliadwy ac yn fuddiol i'r economi leol.
Yn ôl y Ceidwadwyr mi allai tawelwch naturiol yr ardal gael ei ddifetha gan ormod o ymwelwyr.
Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol yn dweud nad oes ganddyn nhw gynlluniau i greu parc cenedlaethol newydd.

Mae'r naturiaethwr Gethin Jenkins Jones yn gweld potensial i fyd natur a'r economi leol
Pan gafodd Ardal Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd ei hymestyn yn 2011 i gynnwys Dyffryn Dyfrdwy, roedd 'na bryderon ymhlith rhai ffermwyr.
Ond mae'r naturiaethwr Gethin Jenkins Jones yn gweld potensial i fyd natur a'r economi leol.
"Yn gyntaf does dim llawer o swyddi yng nghefn gwald ar hyn o bryd ac yn ail mae bywyd gwyllt really wedi dirywio yn ddiweddar," meddai.
"Gallwn ddatrys y ddwy broblem yma trwy droi y lle'n barc cenedlaethol, ond dim ond os ydyn ni'n rhedeg parc yn wahanol i barciau eraill.
"Os gallwn ni dalu ffermwyr i reoli'r tir ar gyfer bywyd gwyllt a chreu bwyd, mae 'na botensial i ddod swyddi eco-tourism yn ôl i'r ardal."

Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Ebrill 2021
- Cyhoeddwyd5 Ebrill 2021