Cyflwyno newidiadau i atal problemau parcio Eryri
- Cyhoeddwyd

Cafodd nifer o ddirwyon eu rhoi y llynedd am barcio'n anghyfreithlon yn ardal Pen-y-Pass
Wedi'r golygfeydd o barcio peryglus yr haf diwethaf, mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn gobeithio atal ailadrodd yr anrhefn drwy gyflwyno cyfres o newidiadau eleni.
Maen nhw'n cynnwys system archebu parcio o flaen llaw, sgriniau gwybodaeth a rhagor o wasanaethau bws.
Wrth i ymwelwyr gael dychwelyd i ardaloedd fel gogledd Cymru, prysuro fydd hi rŵan ym mynyddoedd Eryri.
Roedd y golygfeydd o geir wedi'u gadael yn anghyfreithlon ar hyd ochr y lôn ar odrau'r mynyddoedd yn gur pen i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a'r cymunedau lleol.

Roedd pryderon am ddiogelwch gyrwyr a cherddwyr wrth i bobl barcio ar ochr y ffordd rhwng Pen-y-Pass a Gwesty Pen-y-Gwryd
Un o'r prif gynlluniau eleni ydy'r system archebu parcio o flaen llaw ym Mhen-y-Pass, man cychwyn rhai o'r llwybrau mwya' poblogaidd i fyny'r Wyddfa.
Bydd y cynllun yn rhedeg drwy gydol yr haf yn dilyn peilot llwyddiannus dros ychydig fisoedd y llynedd.
Dywedodd Angela Jones, rheolwr partneriaethau Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri: "'Da ni'n gweithio efo cwmni o'r enw JustPark felly mae'n rhaid i chi gael yr ap, neu mi fedrwch chi wneud o'n syth dros y we hefyd.
"Mae'n rhaid bwcio o flaen llaw. Mae'n rhaid ei wneud o cyn y diwrnod 'da chi'n teithio, felly dydych chi ddim yn cael ei wneud o fewn 24 awr i'r diwrnod 'da chi am ddod."

Bydd yn rhaid trefnu o flaen llaw, medd Angela Jones o Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri
Ychwanegodd: "Felly mae'n rhaid cynllunio o flaen llaw.
"'Da ni eisiau i bobl feddwl be' maen nhw'n mynd i wneud yma yn Eryri cyn bo' nhw'n dod, lle maen nhw'n mynd i barcio, lle maen nhw'n mynd i aros a be' maen nhw'n mynd i weld.
"Mae'n mynd i gostio ychydig bach yn fwy - ond yn llai na'r peilot yr ha' diwetha'.
"Ond mae'r gost ychwanegol yn mynd tuag at y bysus sherpa ychwanegol 'da ni wedi'u rhoi ymlaen efo Cyngor Gwynedd, a hefyd mae'n cyfrannu at dalu'r swyddogion diogelwch sydd angen eu cael yma dros nos.
"Mae 'na rywun ar y safle yma 24 awr y dydd."

"Ry'n ni wedi addasu'r ffordd ry'n yn rhannu gwybodaeth," medd Catrin Glyn
I lawr y dyffryn o Ben-y-Pass, mae 'na newidiadau hefyd ar y safle parcio a theithio yn Nant Peris, fel y sonia Catrin Glyn o Bartneriaeth Yr Wyddfa.
"Un o'r pethau eraill 'da ni wedi'u rhoi mewn lle y flwyddyn yma ydy'r sgrin ddigidol yma," meddai.
"Er bod ni wedi gorfod tynnu'r elfen gyffwrdd o'r sgrin am y tro oherwydd Covid, mae pobl yn dal i allu gweld y negeseuon crai, er enghraifft bod Hafod Eryri - yr adeilad a chaffi ar gopa'r Wyddfa - wedi cau a'i bod hi'n well i bobl ddefnyddio cyfleusterau toiled cyn mynd fyny ac ati.
"Mae 'na hefyd amserlen bws fel bod pobl yn gallu gweld yn union pryd mae 'na fysus i'w cludo nhw i Ben-y-Pass neu Lanberis."

"Bydd llwyth o wybodaeth i ymwelwyr," medd Partneriaeth Yr Wyddfa
Ychwanegodd Ms Glyn: "'Da ni wedi gorfod addasu'r ffordd 'da ni'n rhannu gwybodaeth efo'r cyhoedd yn ystod y pandemig - mae 'na lawer mwy ar y we erbyn hyn.
"Mae ganddon ni hefyd wirfoddolwyr yn rhoi gwybodaeth i ymwelwyr ar y llwybrau i gyd ac yn casglu sbwriel, ac mi fydd 'na fan wybodaeth fydd yn teithio o gwmpas troed Yr Wyddfa yn cynnig llwyth o wybodaeth hanfodol i ymwelwyr."
Mae digon ar droed felly wrth i gerddwyr o bell ac agos ddod i Eryri eleni ac os bydd cynlluniau fel y system archebu parcio'n llwyddiant, fe allai gael ei ehangu i faes parcio Cwm Idwal yn Ogwen.
Y gobaith ydy y bydd pobl yn gallu crwydro'r copaon heb ailadrodd anhrefn y llynedd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd23 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd19 Gorffennaf 2020