Arestio dau arall mewn ymchwiliad llofruddiaeth

  • Cyhoeddwyd
Tomasz WagaFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Aelod o'r cyhoedd ddaeth o hyd i gorff Tomasz Waga ar stryd yn ardal Pen-y-lan, Caerdydd

Mae dau ddyn wedi cael eu harestio ar amheuaeth o lofruddio dyn 23 oed a fu farw ar ôl iddo gael ei ganfod ar stryd yng Nghaerdydd.

Cafodd Tomasz Waga o Wlad Pwyl, ond oedd yn byw yn Essex, ei ganfod yn anymwybodol ar Ffordd Westville, Pen-y-lan, ar 28 Ionawr tua 23:30.

Dywed Heddlu De Cymru eu bod yn holi dyn 24 oed o Enfield yn Llundain a dyn 41 o ardal y Tyllgoed Caerdydd.

Eisoes, mae tri dyn wedi eu cyhuddo o lofruddio Mr Waga.

Mae'r heddlu hefyd yn parhau i chwilio am dri dyn arall ar amheuaeth o lofruddiaeth - Josif Nushi, 26, Mihal Dhana, 27, a Gledis Mehalla, 19.

Mae ganddyn nhw gysylltiadau â Lushnje yn Albania a'r gred ydy eu bod wedi ffoi o Gaerdydd.

Pynciau cysylltiedig