Chwilio am dri dyn yn achos llofruddiaeth Pen-y-lan
- Cyhoeddwyd
Mae ditectifs sy'n ymchwilio i lofruddiaeth dyn ifanc yng Nghaerdydd wedi arestio dau ddyn yng ngogledd Llundain, ac maen nhw'n apelio am wybodaeth ynghylch trydydd person sydd dan amheuaeth o fod yn rhan o'r achos.
Cafodd dyn 25 oed ei arestio ar amheuaeth o lofruddio Tomasz Waga, 23, yn ardal Pen-y-lan ddiwedd Ionawr, ac mae bellach wedi ei ryddhau dan ymchwiliad.
Cafodd dyn 35 oed ei arestio ar amheuaeth o roi cymorth i droseddwr ac mae'n parhau yn y ddalfa.
Mae dau ddyn eisoes yn y ddalfa ar ôl bod o flaen llys wedi eu cyhuddo mewn cysylltiad â'r farwolaeth - Damjan Velo, 23, sydd wedi ei gyhuddo o lofruddiaeth, a Behar Kaci, 29, o droseddau cyffuriau a glanhau arian.
Dywed yr heddlu mai'r gred yw bod y llofruddiaeth wedi'i chysylltu â grŵp troseddol sydd â chysylltiadau ag Albania, gogledd Llundain, Huddersfield a Bradford.
Mae'r heddlu eisoes wedi cyhoeddi manylion dau ddyn sydd dan amheuaeth o lofruddiaeth - Josif Nushi, 26, a Mihal Dhana, 27 - ac maen nhw nawr wedi ychwanegu enw trydydd dyn 19 oed at y rhestr, sef Gledis Mehalla.
Dywed yr heddlu bod cysylltiad rhwng y tri dyn ac eiddo yn Ffordd Casnewydd ble daethpwyd o hyd i ffatri ganabis yn fuan wedi i aelod o'r cyhoedd ddarganfod corff Tomasz Waga ar Ffordd Pen-y-lan tua 23:30 nos Iau, 28 Ionawr.
Mae'r tri â chysylltiadau gyda dinas Lushnje yn Albania, ac fe wnaethon nhw ffoi o Gaerdydd ar 29 Ionawr.
Roedd Mr Waga, oedd o Wlad Pwyl ond yn byw yn Essex, wedi teithio o Dagenham ar 28 Ionawr i 319 Ffordd Casnewydd yng Nghaerdydd ble roedd yna gythrwfl tua 22:30.
Bu farw wedi'r hyn sy'n cael ei ddisgrifio'n "ymosodiad hir". Clywodd cwest yr wythnos diwethaf bod archwiliad post-mortem wedi canfod anafiadau i'r pen a'r bron.
"Gallai'r unigolion hyn fod â chysylltiadau â threfi a dinasoedd eraill ar draws y DU," meddai'r uwch swyddog ymchwilio, y Ditectif Prif Arolygydd Mark O'Shea.
"Rhaid hefyd ystyried y posibilrwydd bod yr unigolion dan amheuaeth wedi ffoi o'r DU, ac am y rheswm hwnnw rydym yn cydweithio'n agos gydag asiantaethau gorfodi'r ddeddf rhyngwladol."
Mae teulu Mr Waga wedi cael gwybod am y datblygiadau diweddaraf ac maen nhw'n dal i gael cymorth gan swyddogion heddlu arbenigol.
Mae'r llu'n parhau i ofyn am wybodaeth gan y cyhoedd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Chwefror 2021
- Cyhoeddwyd31 Ionawr 2021