Y Gynghrair Genedlaethol: Maidenhead 2-2 Wrecsam
- Cyhoeddwyd
Cafodd Wrecsam ergyd i'w gobeithion o sicrhau lle yng ngemau ail gyfle'r Gynghrair Genedlaethol er iddyn nhw ddod 'nôl o 2-0 i sicrhau gêm gyfartal ym Maidenhead ar ddydd Llun Gŵyl y Banc.
Aeth y tîm cartref ar y blaen ar ôl chwarter awr, gyda Sam Barratt yn sgorio gydag ergyd o bron i'r llinell hanner.
Dyblwyd mantais Maidenhead wedi 32 munud o chwarae wrth i James Comley fanteisio ar ôl i Wrecsam fethu â chlirio'r bêl o'r amddiffyn.
Fe wnaeth yr ymwelwyr daro 'nôl ar ddechrau'r ail hanner pan lwyddodd Jordan Davies i rwydo gyda pheniad o gic gornel Luke Young.
Llwyddodd Wrecsam i ddod yn gyfartal gyda 10 munud yn weddill, gyda'r eilydd yn rhwydo heibio i'r golwr Rhys Lovett.
Mae'r canlyniad yn golygu bod y Cymry yn aros yn y chweched safle yn y tabl - yn safleoedd y gemau ail gyfle o ddau bwynt yn unig gyda phum gêm yn weddill o'r tymor arferol.