Etholiad y Senedd: Ciwiau'n achosi trafferthion yn y gorsafoedd pleidleisio

  • Cyhoeddwyd
Ciw i bleidleisio yn ardal Leckwith, Caerdydd
Disgrifiad o’r llun,

Ciw i bleidleisio yn ardal Lecwydd, Caerdydd

Bu trafferthion mewn nifer o orsafoedd pleidleisio gyda chiwiau hir o bobl yn aros am oriau i fwrw pleidlais.

Roedd hon yn broblem mewn sawl man, yn cynnwys Caerdydd ac Abertawe.

Rheolau cadw pellter oedd yn gyfrifol.

Roedd rhai gorsafoedd wedi gorfod aros ar agor yn hwyrach na'r 22:00 arferol.

Yn y cyfamser, bydd y pleidleisiau'n cael eu cyfri ddydd Gwener, i weld pwy fydd y 60 aelod fydd yn cael eu hethol i'r Senedd, ynghyd â phedwar Comisiynydd Heddlu a Throsedd.

Mae disgwyl y bydd y canlyniadau yn dechrau cael eu cyhoeddi yn y prynhawn neu gyda'r nos.

Am y tro cyntaf roedd gan bobl 16 ac 17 oed bleidlais yng Nghymru, ond ar gyfer Etholiad y Senedd yn unig.

Yn Etholiad y Senedd mae dau bapur pleidleisio - un ar gyfer yr etholaeth ac un arall ar gyfer aelodau rhanbarthol.

Agorodd y gorsafoedd pleidleisio am 07:00 fore Iau ac fe welwyd prysurdeb mewn ambell le.

Roedd trefn bleidleisio ychydig yn wahanol oherwydd cyfyngiadau coronafeirws, a bu'n rhaid i bobl giwio i bleidleisio mewn gorsafoedd prysur.

Fe fydd y pleidleisiau ar gyfer y Comisiynwyr Heddlu a Throsedd yn cael eu cyfrif ddydd Sul.

Disgrifiad o’r llun,

Bu'n rhaid i bobl giwio yn yr orsaf bleidleisio yma yng Nghaerdydd

Sut mae Etholiad y Senedd yn gweithio?

Bydd pleidleiswyr yn ethol 40 aelod o'r Senedd i gynrychioli etholaethau lleol, tra bod 20 yn cael eu hethol i gynrychioli rhanbarthau mwy - Gogledd Cymru, Canolbarth a Gorllewin Cymru, Gorllewin De Cymru, Canol De Cymru a Dwyrain De Cymru.

Fe fydd gan etholwyr ddwy bleidlais - un i gefnogi ymgeisydd yn eu hetholaeth nhw, ac un arall i gefnogi plaid neu unigolyn ar gyfer y rhestr ranbarthol.

Ar gyfer yr etholaethau, yr ymgeisydd sydd â'r nifer fwyaf o bleidleisiau sy'n ennill - yr un system â'r hyn sy'n cael ei ddefnyddio mewn etholiadau cyffredinol.

Ond mae'r bleidlais ranbarthol yn cael ei benderfynu gan system fathemategol sy'n ethol aelodau yn seiliedig ar y gyfran o'r bleidlais maen nhw wedi ei dderbyn.

Mae'r system honno yn ystyried pwy sydd wedi ennill y seddi etholaethol o fewn y rhanbarth hwnnw, gan olygu bod gan bleidiau sydd wedi ennill llai, neu ddim, o'r seddi etholaethol fwy o obaith ennill sedd ranbarthol.

Beth am y Comisiynwyr Heddlu a Throsedd?

Disgrifiad o’r llun,

Fe fydd y pleidleisiau ar gyfer y Comisiynwyr Heddlu a Throsedd yn cael eu cyfrif ddydd Sul

Yn yr etholiad yma mae modd rhoi pleidlais i'ch dewis cyntaf ac ail ddewis.

Os nad oes yr un ymgeisydd yn cael mwy na 50% o'r bleidlais, mae pawb oni bai am y ddau fwyaf poblogaidd yn cael eu diystyru.

Os ydy eich dewis cyntaf wedi cael ei ddiystyru yna bydd eich ail bleidlais yn cael ei gyfrif os ydy hwnnw yn y ddau uchaf.

Pa etholiadau eraill sy'n digwydd?

Cafodd etholiadau hefyd eu cynnal ddydd Iau ar gyfer Senedd Yr Alban a chynghorau yn Lloegr.

Bydd meiri yn cael eu dewis ar gyfer rhai dinasoedd hefyd, fel Llundain, ac mae Comisiynwyr Heddlu a Throsedd yn cael eu hethol yn Lloegr.

Cafodd un isetholiad San Steffan ei gynnal hefyd yn Hartlepool.