Y Rhondda, Brexit a fi
- Cyhoeddwyd
Bum mlynedd wedi refferendwm Brexit mae Siôn Tomos Owen yn dal i bendroni dros y bleidlais yn ei fro enedigol yn y Rhondda ond gyda'r emosiwn wedi tawelu mae'n gallu edrych yn fwy gwrthrychol ar y farn yn y Cymoedd.
Mae'r cyflwynydd a'r cartwnydd ar daith i ddeall beth mae'r bleidlais dros adael yr Undeb Ewropeaidd yn ei feddwl i Gymru yn y gyfres radio Beth yw'r ots gennyf i am Brexit? sy'n dechrau drwy drafod hunaniaeth.
Gyda 52.5% o'r bleidlais o blaid Brexit yng Nghymru roedd cymoedd de Cymru ymysg yr ardaloedd â'r bleidlais gryfaf i adael yr UE, er gwaetha'r ffaith mai dyma'r ardaloedd mwyaf difreintiedig oedd hefyd yn cael cefnogaeth ariannol uchel gan UE.
Mae hyn wedi rhoi penbleth i nifer o sylwebwyr gwleidyddol ond mae hunaniaeth y Cymoedd yn gymhleth, meddai Siôn, sy'n byw gyda'i deulu yn Nhreorci.
"Fi'n cweryla lot gyda pobl yn enwedig pobl sy'n edrych mewn ar y Rhondda yn lle edrych mas," meddai.
"'Na beth oedd un o'r prif resymau dros y gyfres Pobl y Rhondda [cyfres ar S4C], i weld y bobl yn lle'r stereoteips, yn enwedig pobl sy'n darllen ffeithiau am bethau a wedyn seilio popeth ar yr un ffaith yna; pethau fel erthyglau yn y Daily Mail yn sôn am life-expectancy yn y Cymoedd ac yn barnu'r ffaith fod hyn i gyd yn self-inflicted a bod pob un yn smygu lot a yfed lot, a ddim yn gweithio etc - ac yn barnu pob un wedyn yn y Cymoedd yr un peth - sy'n dafft."
Mae'r un peth yn wir am bleidlais 2016 hefyd, meddai Siôn - 'dyw pawb yn y Cymoedd ddim yn rhannu'r un farn ac roedd bron i hanner y pleidleiswyr wedi pleidleisio i aros, meddai.
"Achos y margins tynn 'na oedd y Cymoedd i gyd wedyn yn cael eu barnu fel bod nhw 'run peth.
"Ond mae pob cwm yn gwbl wahanol - er enghraifft, yn Blaenau Gwent roedd y niferoedd lot lot uwch o blaid Brexit."
'Bois yn becso am swyddi'
Cyn y bleidlais roedd Siôn yn rhan o grŵp WhatsApp o gyfoedion roedd yn eu hadnabod ers blynyddoedd. Aeth y dadlau am Brexit mor boeth nes i'r grŵp ddod i ben yn y diwedd ond mewn ardal lle mae diweithdra yn uchel, pryder am waith roedd Siôn yn ei weld fel prif reswm pobl dros bleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd.
"Oedd rhai yn jyst dweud pethau fel soundbites oedden nhw wedi eu clywed a'u hailadrodd ond wedyn oedd rhai eraill efo rhesymau ... roedd rhai o'r bois yn gweithio mewn ffatrïoedd ac yn becso am eu swyddi.
"Oedd un o'r bois yn gweithio mewn ffatri ym Mhen-y-bont a oedd e o blaid Brexit a'i resymeg oedd bod lot o'r gwaith o'n nhw'n gwneud yn mynd i Ewrop; roedd elfennau o'r ffatri yn cael eu symud yno so roedd y gwaith yn mynd yn llai ac yn llai a llai o shiffts ac yn y blaen, a dyna ei reswm e.
"Roedd e eisiau mas achos oedd e'n meddwl byse hwnna'n stopio. Er, ychydig fisoedd ar ei ôl e roedd y gwrthwyneb yn digwydd, o'n nhw jyst yn symud y ffatri i gyd mas.
"Wedyn, oedd un yn gweithio yn [gwaith dur] Tata ac oedd e ddim yn siŵr.
"Ond oedd e'n bendant i wneud gyda achub ei swydd, ddim byd i wneud gyda unrhyw beth arall.
"Nes i ddim dod ar draws nifer o bobl oedd yn brwydro am ffiniau a 'cymryd rheolaeth nôl' a pethau fel'na, oedd e bron yn uniongyrchol i wneud gyda cadw swyddi.
"Oni'n gweld elfennau o beth o'n nhw'n sôn ond oedd e'n anodd i geisio gweld y rhesymeg pan oedd pobl yn dechrau gweiddi a cweryla a galw enwau."
Roedd ei gyfoedion oedd o blaid aros, meddai, yn gweithio mewn swyddi nad oedd dan fygythiad, fel mewn ysbytai ac ysgolion, felly doedden nhw ddim yn teimlo'r un bygythiad i'w bywoliaeth.
Arian Ewrop
Beth am yr arian a ddaeth i'r Cymoedd drwy grantiau gan yr Undeb Ewropeaidd?
"Os chi'n gofyn i bobl ar y stryd sut mae wedi effeithio arnyn nhw, bydden nhw methu dweud, hyd yn oed nawr, mae'n mynd i gymryd amser hir i sylweddoli beth oedd wedi cael ei golli, beth sydd ddim yn mynd i gario 'mlaen i mynd."
Ar y rhaglen mae Siôn yn cael sgwrs gyda Catrin Ashton sy'n dod o Bedlinog yn Merthyr ac sydd wedi ysgrifennu erthygl i O'r Pedwar Gwynt, dolen allanol yn esbonio pam ei bod yn credu bod pleidlais Brexit y Cymoedd yn "naid radical" tuag at rywbeth positif.
Mae hi hefyd yn dweud ei bod hi'n teimlo'n grac am y ffordd roedd pobl y Cymoedd yn cael eu portreadu: "Pan oedd y Cymoedd ac ardaloedd ôl-ddiwydiannol eraill Prydain wedi pleidleisio i adael o'n i rili wedi synnu y ffordd roedd pobl yn cael eu trafod yn y wasg a'r ffordd roedden nhw'n cael eu galw yn dwp," meddai Catrin.
"Fi wastad wedi teimlo falle bod ni yng Nghymru ddim wir yn deall ein gilydd a ddim yn adnabod ein gilydd."
Mae Catrin yn dadlau nad oes cydnabyddiaeth wedi bod i hanes a diwylliant y Cymoedd a sut mae wedi newid yn sgil cau'r pyllau glo. Mae'r diffyg cydnabyddiaeth hwnnw yn parhau, meddai, yn y ffordd mae pleidleiswyr Brexit y Cymoedd yn cael eu hystyried yn "dwp" am geisio gwneud rhywbeth i newid eu sefyllfa a "meiddio cael barn wahanol."
Yn ôl Siôn fe wnaeth rhai pobl ddarganfod beth roedden nhw'n pleidleisio amdano ar ôl y bleidlais - ond nid pawb.
"Fi'n credu bod lot o bobl yn gwybod beth o'n nhw'n 'neud," meddai.
Llai o drafod?
Er bod y gymuned ddiwydiannol wedi mynd mae'r teyrngarwch i'r Blaid Lafur, ac yn erbyn y Ceidwadwyr, yn dal yn gryf, meddai Siôn, fel y gwelwyd yn etholiad Senedd Cymru ar 7 Mai.
Pyllau glo y Cymoedd nawr yw'r 'call centres' tu allan i Gaerdydd
"Er bod y teimlad a'r egwyddor sosialaidd dal yma dyw e ddim mor gryf ag oedd pan oedd pob un yn gweithio mewn pyllau glo achos mae'r swyddi wedi newid - does dim pwll glo 'di bod yma ers i fi gael fy ngeni so dyw e ddim fel bod pobl yn mynd lawr i weithio mewn swydd lle maen nhw'n edrych ar ôl ei gilydd, mae'r swyddi nawr yn wahanol iawn.
"Pyllau glo y cymoedd nawr yw'r call centres tu allan i Gaerdydd - maen nhw'n byw a gweithio mewn dau le hollol wahanol, mae meddylfryd pobl lot mwy anodd ei ddeall.
"Hefyd fi ddim yn credu bod chi'n cael lot o drafodaeth am wleidyddiaeth chwaith - ni ddim fel y dark philosophers yn eistedd mewn caffi yn trafod - mae'n cael ei wneud nawr naill ai yn echo chamber Facebook a Twitter neu battle ground arlein lle mae pawb yn sgrechian ar ei gilydd, sy'n ei wneud lot anoddach i gael trafodaeth."
Angerdd wedi tawelu
Bum mlynedd ers pleidlais Brexit mae'n haws cael trafodaeth ddi-emosiwn, meddai Siôn, sef beth oedd ei angen ar y pryd efallai.
"Fi'n deall lot mwy nawr nag o'n i. Ar y pryd falle o'n i ddim eisiau gwrando ar rai dadleuon gan dismissio nhw fel rhywbeth o'n i ddim mo'yn eu clywed.
"Roedd llawer o'r dadlau ar y pryd yn bobl yn gweiddi ar ei gilydd - roedd 'na lot o emosiwn ac oherwydd hynny roedd yn anodd egluro barn a theimladau pobl am Brexit achos oedd pobl mor angerddol am bethau.
"Nawr efo bach o breathing space, chi'n gallu deall mwy - fi wedi dysgu lot mwy drwy wneud y gyfres hon, pethe o'n i byth wedi cysidro.
"Fi wastad yn dweud chi angen deall eich hanes chi er mwyn symud ymlaen, ond symud ymlaen yw'r gôl!"
Mae Beth yw'r ots gennyf i am Brexit? yn dechrau ddydd Sul, 16 Mai am 18.30 ar Radio Cymru
Hefyd o ddiddordeb: