Enw ymgeisydd wedi'i hepgor o bapurau pleidleisio

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Michelle Brown
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Michelle Brown yn arfer bod yn aelod UKIP yn y Senedd, ond ymddiswyddodd yn 2019 i sefyll fel ymgeisydd annibynnol

Mae ymgeisydd yn etholiad y Senedd, yr oedd ei henw wedi'i adael oddi ar bapurau pleidleisio yng ngogledd Cymru oherwydd camgymeriad argraffu, yn dweud bod y sefyllfa yn sarhad ar ddemocratiaeth.

Nid oedd enw'r ymgeisydd annibynnol Michelle Brown wedi ei gynnwys ar y papurau pleidleisio yn ardaloedd Arfon ac Ynys Môn ar y rhestr ranbarthol.

Dywedodd swyddogion canlyniadau fod etholwyr wedi cael cyfle i bleidleisio i'r rhestr llawn o ymgeiswyr yn y gorsafoedd pleidleisio.

Ond dywed Ms Brown y bydd hi'n "archwilio'r canlyniadau'n ofalus iawn" ac nad "hyn oedd diwedd y mater".

Rhybuddio etholwyr

Digwyddodd y camgymeriad ar bapurau'r rhestr rhanbarthol yn Arfon ac Ynys Môn, pan gafodd enw'r ymgeisydd annibynnol Michelle Brown ei hepgor.

Roedd etholwyr yn cael rhybudd llafar wrth fynd i fwrw eu pleidlais, bod enw ar goll oddi ar y rhestr, tra bod y papurau'n gywir mewn rhannau eraill o'r gogledd.

Mewn datganiad ar y cyd dywedodd swyddogion canlyniadau gogledd Cymru, Gwynedd ac Ynys Môn, Colin Everett, Dilwyn Williams ac Annwen Morgan: "Oherwydd camgymeriad argraffu lleol nid yw papurau pleidleisio rhanbarthol gogledd Cymru yn ardal Arfon yng Ngwynedd, ac Ynys Môn, yn cynnwys enw'r ymgeisydd olaf ar y rhestr - Michelle Brown, Annibynnol.

"Mae etholwyr yn cael eu rhybuddio o'r camgymeriad wrth iddynt fynychu eu gorsafoedd pleidleisio lleol, ac maent yn dal i gael cyfle i bleidleisio dros yr ymgeisydd o'u dewis hwy o'r rhestr llawn o bleidiau enwebedig ac ymgeiswyr."

Mewn datganiad i BBC Cymru dywedodd Michelle Brown, a wasanaethodd fel Aelod o'r Senedd ar gyfer gogledd Cymru yn ystod tymor diwethaf y Senedd: "Mae'r sefyllfa yma'n sarhad ar seiliau democratiaeth, yn nhermau arwyddocâd y camgymeriad a hefyd yn yr ymateb ddinod sy'n cael ei wneud i'w gywiro.

"Er enghraifft, roedd y pleidleisiau post eisoes wedi cael eu hanfon yn ôl cyn i'r camgymeriad gael ei ganfod a does dim yn cael ei wneud i gywiro hynna.

"Fi yw'r unig ymgeisydd annibynnol sy'n sefyll yng ngogledd Cymru ac mae miloedd o bleidleiswyr wedi colli'r cyfle i bleidleisio i rywun sy'n gallu ac a fyddai'n blaenoriaethu anghenion pobl o flaen gwleidyddiaeth pleidiol.

"Byddaf yn archwilio'r canlyniadau'n ofalus iawn a gallaf eich sicrhau chi mai nid dyma ddiwedd y mater.

"Mae pobl Cymru'n haeddu gwell," meddai.

Pynciau cysylltiedig