Y Gynghrair Genedlaethol: Wrecsam 3-0 Yeovil
- Cyhoeddwyd
Cafodd Wrecsam hwb i'w gobeithion o gadw eu lle yn safleoedd y gemau ail gyfle gyda buddugoliaeth hawdd yn erbyn Yeovil ar y Cae Ras ddydd Sadwrn.
Aeth y Cymry ar y blaen o fewn 10 munud wrth i'r capten Shaun Pearson benio i'r rhwyd o gic gornel.
Dyblwyd y fantais 10 munud yn ddiweddarach gan Luke Young, ac roedd hi'n dair cyn hanner amser wedi i Jordan Davies sgorio o gic rydd.
Mae'r canlyniad yn golygu bod Wrecsam yn aros yn y chweched safle yn y Gynghrair Genedlaethol - yn safleoedd y gemau ail gyfle o ddau bwynt gyda phedair gêm yn weddill.