Johnson yn galw cynhadledd i drafod Covid a datganoli

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Boris Johnson, Nicola Sturgeon a Mark DrakefordFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Boris Johnson wedi gwahodd Mark Drakeford i gynhadledd yn trafod datganoli a'r adferiad yn dilyn Covid.

Bydd arweinwyr y gwledydd datganoledig hefyd yn cael gwahoddiad i ddod yno i drafod sut i oresgyn heriau'r pandemig.

Dywedodd Prif Weinidog y DU ei fod ef a Mr Drakeford yn "credu ym mhotensial anferth" y Deyrnas Unedig.

Mae Mr Drakeford eisiau gweld Senedd Cymru'n cael mwy o bwerau, ond nid yw'n credu mewn annibyniaeth fel mae arweinydd yr SNP yr yr Alban, Nicola Sturgeon.

Alban am annibyniaeth?

Dywedodd Llywodraeth Cymru na fydden nhw'n gwneud sylw ar lythyr Mr Johnson i Mr Drakeford.

Daw hynny wedi i Lafur sicrhau 30 o'r 60 sedd yn etholiad y Senedd, gyda'r Ceidwadwyr yn dod yn ail ar ôl cipio 16 sedd.

"Rydw i'n edrych ymlaen at gydweithio gyda chi yn y blynyddoedd i ddod mewn ysbryd o gydweithrediad a pharch at ein gilydd, i wasanaethu pobl Cymru," meddai Mr Johnson.

"Mae'r ddau ohonom yn credu ym mhotensial anferth ein Teyrnas Unedig, i fod yn rym o ddaioni yn y byd, ac i sicrhau diogelwch a ffyniant i'n dinasyddion yma."

Dywedodd y byddai'r un gwahoddiad yn cael ei estyn i Brif Weinidog yr Alban, a Phrif Weinidog a Dirprwy Brif Weinidog Gogledd Iwerddon.

"Fyddwn ni ddim wastad yn cytuno, ond rydw i'n hyderus wrth ddysgu o'n gilydd y bydd modd i ni ailadeiladu'n gryfach er lles y pobl rydyn ni'n eu gwasanaethu."

Ffynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Mae Boris Johnson wedi galw cynlluniau Nicola Sturgeon i gynnal refferendwm arall ar annibyniaeth yn "anghyfrifol a byrbwyll"

Gyda'r SNP wedi ennill etholiad Senedd yr Alban, a'r Ceidwadwyr wedi perfformio'n gryf yn etholiadau lleol Lloegr, mae Mr Drakeford wedi dweud bod angen "dechrau eto" gyda'r berthynas â San Steffan.

"Mae angen ail-wneud y berthynas rhwng y bedair gwlad, a gwneud hynny mewn ffordd sy'n parchu pob cwr o'r Deyrnas Unedig," meddai.

Ychwanegodd: "Nid hedfan mwy o faneri Jac yr Undeb o doeau adeiladau yw'r ateb, ond perthynas barchus go iawn sy'n cydnabod bod sofraniaeth nawr wedi ei rannu ar draws pedair senedd, a'n bod ni'n dewis dod at ein gilydd ar gyfer pwrpas cyffredin."

Llwyddodd yr SNP i ennill pedwerydd tymor mewn grym yn dilyn etholiad ble gipion nhw 64 sedd - un yn brin o fwyafrif, ond cynnydd ar eu nifer yn 2016.

Gyda'r Gwyrddion yn yr Alban hefyd yn ennill seddi mae'n golygu bod mwyafrif gan y pleidiau sydd o blaid annibyniaeth.

Dywedodd Ms Sturgeon y byddai'n bwrw ymlaen â chynlluniau i gynnal refferendwm unwaith roedd pandemig Covid-19 wedi pasio, gan fynnu nad oedd gan Mr Johnson nag unrhyw un arall gyfiawnhad democrataidd dros eu rhwystro.