Nodi can mlynedd o gyfraniad Coleg Llysfasi
- Cyhoeddwyd
Mae un o sefydliadau amlycaf y byd ffermio Cymreig wedi dechrau dathlu ei ganmlwyddiant.
Agorwyd Coleg Llysfasi yn Sir Ddinbych ym 1921, ac mae bellach yn cynnig cyrsiau mewn sawl maes tu hwnt i amaeth fel gofal anifeiliaid a choedwigaeth.
Tra bod y pandemig wedi gorfodi'r coleg i addasu'r dathliadau, mae gobaith am ddigwyddiadau fel "cyngerdd mawreddog" yn ddiweddarach eleni.
Yn ôl y darlledwr a'r ffermwr Gareth Wyn Jones, "mae'n rhaid i ni gefnogi" sefydliadau sy'n addysgu pobl ifanc a'u "cadw yng nghefn gwlad".
Denu myfyrwyr o bell ac agos
Dyn o'r enw Isaac Jones oedd pennaeth cyntaf Llysfasi, sydd ger Pentrecelyn ar gyrion Rhuthun. Bechgyn ifanc oedd yno'n astudio ar y cychwyn, meddai'r pennaeth presennol, Elin Roberts.
"Pan brynwyd fferm Llysfasi yn 1919, roedd hi'n benodol er mwyn dysgu hogia' ifanc sut i amaethu," meddai.
"Felly roedd y mwyafrif o'r myfyrwyr bryd hynny yn hogia' ifanc yn dysgu sut i ffermio. Erbyn heddiw, 'dan ni'n goleg tir seiliedig, ac wrth gwrs mae gynnon ni gymaint o ferched â sy' 'na o fechgyn yma yn astudio."
Y dyddiau hyn, mae'r coleg yn denu myfyrwyr o bell ac agos, gyda rhai yn lletya ar y campws.
Mae Glyn Evans, sy'n ddarlithydd peirianneg, wedi bod yn rhan o'r coleg ers 38 mlynedd.
"Y dechnoleg sydd wedi newid fwyaf," esboniodd, gan gyfeirio at gombein newydd.
"Pan nes i ddechra', rhyw gombein wyth troedfedd o led [oedd yma], rŵan 'dan ni'n gweithio ar gombein 20 troedfedd o led. Hefyd, y dechnoleg sy'n gweithio'r peirianna' 'ma - yn aml iawn mae eisiau cyfrifiadur i'w trwsio nhw."
Yn ôl Gareth Wyn Jones, mae'r ffordd mae colegau fel Llysfasi yn cyflwyno technolegau newydd i ddiwydiannau'r tir yn "bwysig iawn i'r dyfodol".
"'Dan ni i gyd yn sôn am gynhyrchu bwyd yn gynhaliol, yn dymhorol, a dwi'n meddwl bod technoleg yn rhan mawr o hwnna. Dwi'n teimlo bod y colegau 'ma yn dda am roi o drosodd."
Pwysleisiodd y cyflwynydd, sydd â chysylltiad teuluol â Llysfasi, bwysigrwydd meithrin gwahanol sgiliau fel peirianneg a choedwigaeth ochr yn ochr ag amaeth.
"Mae'r rhain i gyd yn bethau mae'r to ifanc yn medru ei ddysgu yn y colegau 'ma. Ac mae hwn yn bwysig i ni eu cadw nhw yng nghefn gwlad, yn eu plwy', yn eu cynefin."
Gan edrych tua'r dyfodol, mae Coleg Llysfasi - sydd bellach yn rhan o Goleg Cambria - yn gobeithio arloesi gyda phrosiectau fel fferm garbon niwtral.
'Nabod y teidiau bellach!
Ond drwy gydol 2021, bydd cyfle hefyd i edrych yn ôl gyda llu o ddigwyddiadau. Y gobaith yw y bydd modd cynnal "cyngerdd mawreddog" fydd yn tanlinellu cyfraniad Llysfasi i ddiwylliant Dyffryn Clwyd a thu hwnt.
"Cyn fyfyrwyr a chyn-staff fydd yn cynnal yr adloniant," meddai Elin Roberts.
"Mae o'n dangos, mewn ffordd, pa mor gadarn mae'r diwydiant amaeth ac addysg tir seiliedig o fewn y diwylliant Cymreig."
Ac i Glyn Evans, sydd yno ers bron i bedwar degawd, mae rhywbeth arbennig am Lysfasi.
"Mae o'n gymuned yn ei hun, dwi'n meddwl. Mae'r myfyrwyr 'ma i gyd yn cymdeithasu a dod i 'nabod ffrindiau trwy ffrindiau, ac yn y blaen.
"Dwi ar yr ail genhedlaeth a ddim yn bell o'r drydedd erbyn hyn, felly dwi'n 'nabod y teidiau yn aml iawn! Os 'di hynny'n dda neu'n ddrwg, dwi ddim yn siŵr!"
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Ebrill 2021
- Cyhoeddwyd3 Mawrth 2021