Amaeth a'r etholiad: Beth ydy barn ffermwyr?
- Cyhoeddwyd
Rheolau atal llygredd a'r diciau mewn gwartheg - rhai o brif bryderon ffermwyr ar drothwy'r etholiad.
Mae Iola Wyn wedi bod yn asesu'r pryderon a'r gobeithion mewn cymunedau amaethyddol.
Un o weithredoedd olaf y llywodraeth Lafur ym Mae Caerdydd oedd cyflwyno cynlluniau i warchod afonydd a nentydd rhag llygredd drwy gyfyngu ar y cyfnod y gall amaethwyr wasgaru slyri a gwrtaith, gan sicrhau bod cyfleusterau digonol i storio gwerth pum mis o slyri.
Mae'r cynllun NVZ ar gyfer Cymru gyfan, ac mae hynny wedi cythruddo ffermwyr o Fôn i Fynwy a hollti'r byd gwleidyddol.
"Ma'r diwydiant yn teimlo fod na gam 'di bod, ma' pobl yn teimlo'n ddolurus am y peth," meddai Hefin Jones o NFU Cymru.
"Heb os nag oni bai, fi'n credu bydd pobl yn edrych ar ddefnyddio eu pleidlais mewn ffordd wleidyddol, er mwyn uno'r cam sy' di digwydd gyda'r NVZs.
"Hyd yn oed mewn ardaloedd lle nad oes achos o lygru ers degawd a rhagor, ma' nhw'n cael eu cosbi yn yr un ffordd ag ardaloedd lle ma 'na lygredd wedi digwydd.
"Ma' annhegwch yr holl beth a'r ymateb i'r rheoliadau hynny yn mynd i gael effaith ar yr etholiad."
Mae Mary Richards, cyn-bennaeth Coleg Amaethyddol Gelli Aur hefyd o'r farn taw hwn yw un o brif bynciau llosg yr ymgyrch etholiadol ymhlith ffermwyr.
"Ni fel ffermwyr yn edrych ar ôl yr amgylchedd - 'na'n job ni," meddai
"'Drych ar y cloddie o'n hamgylch ni - ni sy'n torri nhw, ni sy'n talu amdano fe, ond ni' sy'n cael ein beio am beidio edrych ar ôl yr amgylchedd."
POLISÏAU: Cymharwch addewidion y pleidiau
DWY GROES MEWN DAU FLWCH: Pam bod gennych chi ddwy bleidlais?
PWY SY'N SEFYLL YN FY ARDAL I?: Rhowch eich cod post yn y blwch
WEDI DRYSU?: Dysgwch fwy gyda BBC Bitesize
PODLEDIAD: Pwy sy'n pleidleisio?
BLOG VAUGHAN RODERICK: Cic o'r smotyn
'Cadw llygad ar drac record pleidiau'
Mae sefyllfa'r diciau mewn gwartheg a bywyd gwyllt yn dal i barlysu ardaloedd penodol yn y de orllewin a'r canolbarth.
Mae Iestyn Davies yn ffermwr llaeth a chig eidion yn Nhrelech, un o'r ardaloedd yn llygad storm TB.
"Mae'r Senedd 'di bod yn mynd nawr ers 20 mlynedd a dyw'r diciau ddim di gwella dim, a fi'n credu bod yr NVZs nawr wedi towlu dwst dros ben y sefyllfa TB, a falle bod y pleidiau ddim yn edrych ar bethe fel ddylen nhw.
"Edrychwch chi ar y Covid - pa mor gyflym ma nhw wedi meddwl am brawf a hefyd y vaccine - trueni nad yden nhw'n rhoi'r un ymdrech i mewn i wella sefyllfa TB."
Mae craffu ar bolisïau'r pleidiau wedi hen ddechrau gyda sawl cyfarfod hystings amaethyddol eisoes wedi eu cynnal yn rhithiol.
"Bydd y diwydiant amaeth a chymunedau gwledig yn edrych ar record y gwahanol bleidiau yn y gorffennol, o ran yr hyn ma' nhw wedi addo ei gyflawni a phethe sy ddim wedi eu cyflawni," yn ôl Hefin Jones.
"O ran addo dilyn gwyddoniaeth a hynny falle ddim yn digwydd bob tro. Yn ogystal â gwrando ar yr addewidion presennol, mi fydd yna lygad ar drac record.
"A'r hyn ry'n ni fel diwydiant ac fel undeb mo'yn ydy bod gynnon ni lywodraeth allwn ni weithio gyda nhw fel partneriaid, a llywodraeth sy'n eirwir yn yr hyn ma' nhw'n ei gynnig, a'r hyn ma' nhw'n ei weithredu."
Effaith Covid a Brexit
Y teimlad yn gyffredinol yw fod prisiau'r farchnad yn galonogol ar hyn o bryd.
"Gyda chig oen a chig eidion, mae'r prisie ar eu gore ers tro byd", eglura Iestyn Davies.
"Fi'n credu bod bach o bopeth ynghlwm i'r peth - Brexit, sefyllfa Covid. Fi'n credu bod gwledydd dramor ddim yn allforio gymaint o gig yma.
"Ac ym Mhrydain nawr, gyda gymaint o ffermwyr wedi gadael y diwydiant, a llai o ffermwyr i gael, mae llai o gig yn y farchnad , felly supply and demand yw popeth."
Mae Brexit wedi bod yn ddiddorol, yn ôl Mary Richards, gyda phobl yn "aros i weld" beth fydd y drefn o daliadau i ffermwyr yn y dyfodol.
"Fi'n credu licen nhw w'bod nawr be' yn union sy'n mynd i ddigwydd gyda'r arian o'dd gydag Ewrop.
"Be' ma' llywodraeth nesa' Cymru yn mynd i 'neud da'r taliadau sy'n mynd i ddod mewn trwy'r llywodraeth yn Llundain o bosib."
Beth mae'r pleidiau'n addo?
Cyflwyno Bil Amaeth i Gymru gan gynorthwyo'r sector i fuddsoddi mewn technoleg newydd yw un o addewidion y Ceidwadwyr Cymreig.
Drwy'u Bil Amaeth, mae Plaid Cymru yn addo cyflwyno taliad cymorth sylfaenol er mwyn cynnig sefydlogrwydd economaidd i'r diwydiant.
Sicrhau bod ffermwyr yn cael cytundeb teg, a chefnogi newydd ddyfodiaid yw rhai o addewidion y Democratiaid Rhyddfrydol.
Ac mae Llafur Cymru yn addo cefnogi amaeth, drwy gynorthwyo ffermwyr i fod yn rhan o'r sector mwyaf amgylcheddol gyfeillgar yn y byd.
Mae pleidlais y ffermwyr yn un bwysig yn ôl Mary Richards.
"Bydden i'n gweud taw'r gymuned amaethyddol yw'r un mwya' passionate a'r un sydd â fwyaf i golli bron, os nag y'n nhw'n cael eu llais yng Nghaerdydd.
"S'neb arall yn mynd i siarad drostyn nhw.
"Mae'r rhan fwyaf o bobl - ma' nhw'n cerdded rownd, a ma' popeth yn ok. Ma' digon o fwyd yn y siope.
"Ond ma' popeth sy'n digwydd yn San Steffan a Chaerdydd yn effeithio ar fywyd ffarmwr - pris llaeth, pris lloi, pris wyn, pris gwrtaith, mewnforion bwyd.
"Ma' gwleidyddiaeth a ffermio mor agos. Dyw e ddim mor agos i gymunedau eraill a fi'n credu taw dyna pam ma' ffermwyr yn teimlo mor gryf a mor emosiynol am bopeth."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd27 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd8 Ebrill 2020