Cwpan yr Enfys y Pro14: Gleision 17-16 Dreigiau
- Cyhoeddwyd

Llwyddodd y Gleision i drechu'r Dreigiau mewn gêm agos yng Nghwpan yr Enfys y Pro14 wrth i'r ddau dîm orffen gyda 14 dyn yn dilyn cardiau coch.
Dathlodd Josh Adams ei alwad i gynrychioli'r Llewod eleni drwy sgorio cais agoriadol yr ornest, gyda Ben Thomas yn trosi ac yna'n ychwanegu cic gosb i roi'r Gleision 10-0 ar y blaen.
Dim ond cic gosb gan Sam Davies oedd gan y Dreigiau i'w ddangos ar yr hanner, ond newidiodd pethau ar ôl yr egwyl wrth i ganolwr y Gleision Owen Lane weld cerdyn coch am dacl uchel.
Roedd hi'n gyfartal funudau'n ddiweddarach wedi i Davies drosi cais gan Rhys Lawrence, ac fe lwyddodd Davies gyda dau gic gosb arall i roi'r ymwelwyr ar y blaen.
Ond cipiodd y Gleision y fuddugoliaeth gyda chais Teddy Williams a throsiad Jarrod Evans, cyn i Lawrence hefyd weld coch am dacl uchel.