Covid-19: Dim marwolaethau newydd wedi eu cofnodi

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Swab a thiwb prawf coronafeirwsFfynhonnell y llun, Getty Images

Does dim marwolaethau yn gysylltiedig â Covid-19 wedi eu cofnodi yn ffigyrau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Fe gafodd 54 o achosion newydd o'r feirws eu cadarnhau yng Nghymru yn yr ystadegau newydd.

Mae cyfanswm y marwolaethau ers dechrau'r pandemig yn 5,558, a chyfanswm yr achosion positif yn 212,095, yn ôl y dull yma o gofnodi.

Erbyn hyn mae 1,990,783 o bobl yng Nghymru wedi derbyn dos cyntaf o'r brechlyn.

Mae 891,569 o bobl wedi derbyn y cwrs llawn o ddau ddos.

O edrych ar nifer yr achosion dros gyfnod o saith diwrnod fesul 100,000 o'r boblogaeth, Casnewydd (28.4) sy'n parhau â'r raddfa uchaf.

Mae'r gyfradd achosion isaf ym Mlaenau Gwent ac Ynys Môn - 2.9 i bob 100,000.

Mae'r gyfradd ar draws Cymru gyfan yn 9.

Pynciau cysylltiedig