Trafferthion cwsg a breuddwydion rhyfedd yn sgil Covid
- Cyhoeddwyd
Mae pryder sy'n deillio o'r pandemig a'r cyfnodau clo wedi gwneud hi'n anoddach i bobl gysgu a chadw trefn arferol eu bywydau, yn ôl arbenigwyr.
Dywed prif weithredwr yr elusen Sleep Charity, Vicki Dawson, bod gweithio o adref a chymdeithasu ar-lein wedi amharu'n ddrwg ar batrymau cwsg ac achosi pryderon iechyd ac ariannol.
"Mae yna gysylltiad rhwng gweithgaredd ar sgrin a thrafferthion mynd i gysgu gyda'r nos," meddai.
"Mae sgriniau'n wirioneddol gynhyrfiol ac mae yna farn eu bod o bosib yn atal melatonin, yr hormon cwsg ry'n ni'n ei gynhyrchu yn y tywyllwch, oherwydd mae sgriniau i bob pwrpas yn ffynhonnell o olau."
Mae straen a gorbryder ynghlwm â'r pandemig wedi amharu ar ein harferion cwsg arferol, medd Yr Athro Emeritws Gus Baker - athro niwroseicoleg clinigol ac ymddiriedolwr gyda The Brain Charity.
"Pan nad ydym mewn pandemig, byddwn ni fel arfer yn mynd allan i weithio, ymarfer corff, bwyta prydau rheolaidd, "meddai. "Byddwn yn gofalu am ein hunain ac yn cymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol.
"Beth mae'r pandemig wedi ei wneud yw ymyrryd â hynny oll... mae hynny'n effeithio ar ein cwsg."
Cafodd Libby Nolan, nyrs 57 oed mewn ysbyty yn ne Cymru, ei heintio gyda Covid ar ddechrau'r pandemig.
Yn fuan wedi hynny, yng nghanol 10 wythnos ofod adref yn sâI o'r gwaith, fe ddechreuodd gael yr un freuddwyd dro ar ôl tro.
"Rwy' mewn parti neu rywle ble mae pawb heblaw fi'n ymlacio, ac rwy' wedi dychryn am fy mywyd. Rwy'n rhedeg o gwmpas yn ceisio cael pawb i weld bod yna berygl...
"Maen nhw'n gwybod bo fi yno ond maen nhw jest yn fy anwybyddu a dwi methu cael unrhyw un i ymateb."
'Methu anadlu dan ofn'
Wedi hynny, mae'n dweud iddi gael hunllef ble mae'n rhedeg i ystafell arall ble roedd person heb wyneb ond â chorff hir a main yn gorwedd ar wely ysbyty ac yn sownd i beiriant anadlu hen-ffasiwn.
Dywed ei bod "methu anadlu dan ofn" yn yr hunllef, ac yn rhedeg i ystafell arall ble mae cath fawr yn gorchuddio'i hwyneb gan ei hatal rhag anadlu.
Mae Ms Nolan ymhlith naw o bobl sydd wedi rhannu breuddwydion cynhyrfiol yn ystod y pandemig fel rhan o brosiect Dreams ID Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.
Cafodd y breuddwydion a'r hunllefau hynny eu rhannu gyda'r athro seicoleg, Mark Blagrove a chynulleidfa ar-lein fyd-eang.
Cafodd pob breuddwyd eu paentio gan yr artist Dr Julia Lockheart, sydd hefyd yn bennaeth arferion cyd-destunol Coleg Celf Abertawe a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.
Bydd y delweddau'n cael eu harddangos yn Amgueddfa Freud Llundain o 19 Mai, ac yn Oriel Science Abertawe o 22 Mai.
"Dywedodd Mark [Blagrove] wrtha'i, pe byddwn yn rhannu'r freuddwyd fe fyddai'n stopio, ac mae hynny wedi digwydd," medd Ms Nolan.
Roedd yna drafodaeth, meddai, ynghylch hyd a lled ei phryder a hithau'n weithiwr iechyd, yn arbennig yng nghyfnod cynnar y pandemig.
"Ni allai'i ddisgrifio'r arswyd yn yr ysbyty," meddai. "Roeddan ni gyd yn meddwl fysan ni'n marw petasen ni'n dal [Covid]...
"Doedd neb yn cysgu. Roedd y gwaith mor ddychrynllyd, ac roedd yn anodd gweld rhai pethau, ond mae eich tîm yn fel eich teulu a dydych chi ddim mo'yn eu siomi.
"Doeddwn i ddim ar ben i hun. Roedd pawb nes i siarad â nhw yn cael breuddwydion afiach am farwolaeth."
Dywedodd yr Athro Blagrove: "Cawson ni naw trafodaeth ar-lein gyda gweithwyr iechyd neu weithwyr allweddol ble wnaethon nhw drafod breuddwyd neu hunllef ddiweddar yn fanwl.
"Roedd yna gysylltiad gwirioneddol agos rhwng y freuddwyd a'r hyn fu'n digwydd ynddyn nhw yn eu bywydau."
Effaith prinder cwsg
Mae arbenigwyr yn cytuno y gall diffyg cwsg rheolaidd amharu ar ein hiechyd corfforol a meddyliol, ac mae ymchwil yn ei gysylltu â risg uwch o strôc a chlefyd y galon.
"Mae diffyg cwsg yn cael effaith enfawr ar bob agwedd ar fywyd," medd Vicki Dawson o'r Sleep Charity.
"Mae yna gryn ymchwil i sut mae'n effeithio ar ein hiechyd meddwl, ac mi wyddwn, o golli ychydig nosweithiau [o gwsg] pa mor sydyn mae'n cymryd i deimlo'n isel ac yn orbryderus, hyd yn oed, o'r herwydd.
"Os rydych wedi colli cwsg, mae'n anoddach i wneud penderfyniadau a gallech chi fod yn fwy pigog.
"Mae llawer o ymchwil hefyd ynghylch yr ochr gorfforol... mae gorflinder yn effeithio ar ein system imiwnedd, felly ry'n i'n tueddu i ddal pethau na fyddwn ni fel arall.
"Mae yna ymchwil ar gysylltiadau gyda chlefydau'r galon, trawiadau, gordewdra, ac mae'n ddarlun trist iawn."
Mae manteision patrymau cwsg iach yn "anferthol", meddai. "Ry'n ni'n edrych yn well, teimlo'n well, perfformio'n well. Mae yna bob math o sgil-effeithiau positif, ac eto dyw cwsg ddim yn cael y flaenoriaeth mae'n ei haeddu yn ein bywydau."
Ychwanegodd: "Mae cael o leiaf saith awr yn eithaf pwysig i bobl o safbwynt golchi tocsinau o'r ymennydd.
"Dengys ymchwil bod yna risg o ddementia i'r rhai sy'n cael llai na chwe awr o gwsg yn gyson, dros ddegawdau."
Sut mae cael gwell gwsg?
Mae'r cynghorion yn cynnwys:
Osgoi cael teledu ac offer electroneg mewn ystafell wely
Peidio gwneud eich gwaith ar eich gwely
Osgoi yfed alcohol, te a choffi am o leiaf awr cyn ceisio mynd i gysgu
Mynd i'r gwely tua'r un amser bob nos a chodi tua'r un pryd bob bore.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Chwefror 2021
- Cyhoeddwyd1 Chwefror 2021
- Cyhoeddwyd25 Medi 2020