Canolfan newydd i hyfforddi mecanics ceir trydan
- Cyhoeddwyd
Mae canolfan i hyfforddi peirianwyr ar gyfer ceir trydan a hybrid yn cael ei agor yn Wrecsam.
Gobaith y ganolfan ar safle Coleg Cambria ar Ffordd Bersham yw cynorthwyo'r diwydiant ceir i ateb y galw wrth symud tuag at y targed o dorri allyriadau carbon erbyn 2030.
Fe ddywed cymdeithas foduro'r RAC mai dim ond 5% o'r 202,000 o beirianwyr ceir yn y DU sy'n gymwys i weithio ar geir trydan, a hynny er bod 239,000 o geir trydan ac oddeutu 900,000 o gerbydau hybrid ar y ffyrdd.
Fe wnaeth Coleg Cambria fuddsoddi mewn technoleg hyfforddi newydd, ac er y bu'n rhaid gohirio agor y ganolfan newydd oherwydd Covid, fe fydd yn cynnig cymhwyster trwsio ceir Lefel 3 o fis Medi.
Un o'r rhai fydd yn gwneud yr hyfforddiant yw Alex Woodward.
Dywedodd: "Mae pobl yn y diwydiant angen bod yn barod. Fel gyda cheir petrol a diesel, pan fydd gwarant y cerbyd yn dod i ben fe fydd gyrwyr am fynd at garej annibynnol yn lleol.
"Ar hyn o bryd, dydyn nhw ddim mewn sefyllfa i allu gwneud y gwaith yna."
Ychwanegodd fod diogelwch yn flaenoriaeth uchel wrth hyfforddi, a bod myfyrwyr yn gallu dysgu gweithio ar y cerbydau yn rhithiol heb y risg o sioc drydanol.
Mae Sam Conway yn brentis peiriannydd ceir yn Sir y Fflint, ond mae'n gobeithio cofrestru ar y cwrs newydd ym mis Medi.
Dywedodd: "Fe fyddai'n fecanic wedi cymhwyso erbyn hynny a gobeithio y gallai fynd ymlaen i wneud y cwrs trydan a hybrid. Dyna'r dyfodol, ac ry'n angen angen gwybod y math yma o stwff.
"Mae'n beth newydd i ddysgu ac yn beth da. Gwell i'r amgylchedd a gwell i ni."
Dywedodd Alex Woodward mai'r bwriad oedd hyfforddi tua chwech o fyfyrwyr i ddechrau, ond mae'n rhagweld y bydd y galw'n cynyddu.
"Fe wnes i ddechrau yn 1974 yn gweithio ar fysus... mae'r hyn y'n ni'n gweld nawr yn gêm hollol wahanol.
"Fy ngobaith i yw perswadio'r diwydiant. Nawr yw'r amser... mae'n gyfnod cyffrous i'r diwydiant, ac fe ddaw ag arian i mewn i economi Cymru."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Mai 2021
- Cyhoeddwyd22 Medi 2020
- Cyhoeddwyd6 Medi 2020