Rheolau ailagor sinemâu yng Nghymru'n 'anymarferol'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Popcorn mewn sinemaFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywed cynrychiolwyr y sinemâu bod rheolau Cymru'n wahanol i rai Lloegr a'r Alban

"Lleiafrif bach" yn unig o sinemâu Cymru fydd yn gallu ailagor wythnos nesaf dan y cyfyngiadau presennol, yn ôl corff sy'n eu cynrychioli.

Mae disgwyl cadarnhad ddydd Gwener y bydd sinemâu'n cael ailagor o 17 Mai.

Ond mae'r UK Cinema Association yn dweud bod y rheolau yng Nghymru'n wahanol i'r rhai mewn gwledydd eraill, gan ddilyn yr un rheolau, llymach â'r sector lletygarwch dan do.

Dywedodd Llywodraeth Cymru y bydd sinemâu'n ailagor "pan fydd yn ddiogel i wneud hynny".

Mae'r gymdeithas yn cynrychioli 90% o'r diwydiant, gan gynnwys y sinemâu cadwyn mawr.

Dywed ei phrif weithredwr, Phil Clapp bod llawer o sinemâu â thrwydded gwerthu alcohol, a'u bod o'r herwydd wedi eu rhoi yn yr un categori â thafarndai a bwytai.

Dan reolau Llywodraeth Cymru:

  • Rhaid i gwsmeriaid fod ar eistedd wrth archebu a bwyta bwyd a diod;

  • Hyd yn oed os yw cwsmeriaid yn defnyddio'r system cod QR i nodi eu presenoldeb a'u manylion, bydd rhaid i staff y lleoliad gasglu eu manylion hefyd;

  • Mae disgwyl i'r staff hefyd wirio manylion trwy ofyn am weld pasbort neu drwydded yrru, er enghraifft;

  • Rhaid nodi pa bryd mae cwsmeriaid yn gadael y sinema.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae sinemâu Cymru ar gau ers 4 Rhagfyr

Mae'r rheolau'n "anymarferol ac yn ddiangen", medd Mr Clapp.

"Hyd yn oed os yw cwsmer ond yn cerdded at stondin i brynu twb o bopcorn, mae'n rhaid iddyn nhw fod yn eistedd," meddai.

"Yn achos llawer o'r canolfannau llai does dim gofod ar gyfer y math yma o seddi.

"A bydd yn achosi ciwio a phob math o broblemau ry'n ni'n cymryd y mae'n fwriad i'r cyfyngiadau eu hosgoi."

Dywed Mr Clapp bod yna "rwystredigaeth" ond hefyd "cryn gyffro ac optimistiaeth" ynghylch ailagor am y tro cyntaf ers mis Rhagfyr.

Mae sinemâu'n dechrau gwerthu tocynnau ar gyfer dangosiadau ffilm o wythnos nesaf ymlaen, ond mae cwmnïau Cineworld a Showcase wedi dweud na allen nhw ailagor, ac mae Vue ac Odeon yn "ailystyried yn ddwys".

Mae'r rheolau, meddai, yn "nonsens" i lawer o sinemâu llai Cymru, ac mae'n "ofni [taw] dim ond lleiafrif bach o sinemâu Cymru fydd yn teimlo bod hi'n werth ailagor".

'Capasiti sinema yn 30% llawn'

Dywedodd cadeirydd canolfan Chapter yng Nghaerdydd mai llacio ar reolau pellhau cymdeithasol fyddai'n gwneud y gwahaniaeth mwyaf i'r diwydiant.

"Bydd Chapter yn agor cyn gynted ag y gallwn ni ar 17 Mai, os gawn ni ganiatâd," meddai Elin Wyn wrth raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru.

"Ry' ni'n lwcus yn Chapter, dy' ni byth wedi caniatáu bwyd a diod yn y sinemâu eu hunain, felly dy' ni ddim o dan yr un cyfyngiadau â'r cwmnïau mawr 'ma sy'n gwerthu popcorn a diodydd a phob mathau o bethau.

"Y bwriad 'da ni yw cynnig rhaglen lawn yn y ddwy sinema sydd gyda ni, ond wrth gwrs bydd llai o bobl yn cael mynd mewn i eistedd yn y sinema oherwydd rheolau pellter cymdeithasol. Felly bydd capasiti'r sinema rhywbeth fel 30% o'r maint yw e fel arfer."

Ffynhonnell y llun, Google

Ychwanegodd: "Ni'n teimlo bod rhaid i ni ailagor er mwyn dangos ein bod ni'n cynnig adloniant i bobl.

"Y peth fyddai'n gwneud y newid mwyaf i ni yw pe tase nhw'n llacio ar y rheol dau fetr. Pe tase fe'n mynd lawr i fetr neu hyd yn oed cael gwared â'r rheol ymbellhau cymdeithasol - dyna fydda'n gwneud gwahaniaeth i ni. Fydden ni wedyn yn gallu cael llawer mwy o bobl i mewn i'r sinema.

"Pan wnaethon ni ailagor nôl ym mis Tachwedd am gyfnod - rhyw bum i chwe wythnos yn yr hydref - mi oedd y sinema yn boblogaidd iawn. Mi wnaethon ni werthu allan yr holl docynnau i bron bob dangosiad ffilm."

'Olrhain cysylltiadau'n bwysig'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym wedi bod yn gweithio'n agos gyda Ffilm Cymru a'r UK Cinema Association i baratoi ar gyfer ailagor sinemâu pan mae'n ddiogel i wneud hynny.

"Mae olrhain cysylltiadau'n rhan bwysig ac effeithiol o gadw pobl yn ddiogel.

"Mae sinemâu wedi derbyn ac yn parhau i dderbyn cefnogaeth gan Gronfa Adferiad Diwylliannol Llywodraeth Cymru.

"Fe allai'r rheiny o fewn y canolfannau celfyddydol mwyaf hefyd fod wedi derbyn cymorth y Gronfa trwy Cyngor Celfyddydau Cymru.

"Bydd y prif weinidog yn amlinellu canlyniadau'r adolygiad nesaf o'r cyfyngiadau coronafeirws ddydd Gwener ac yn cadarnhau a all sinemâu ailagor yng Nghymru wythnos nesaf."

Pynciau cysylltiedig