Araith y Frenhines: Sawl newid posib yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Mae'r Frenhines wedi amlinellu rhaglen Llywodraeth y DU ar gyfer y tymor nesaf yn San Steffan yn ei haraith wrth ailagor y Senedd yn swyddogol.
Mae'r araith yn amlinellu 30 o ddeddfau y mae gweinidogion Ceidwadol yn bwriadu eu cyflwyno trwy'r Senedd o fewn y flwyddyn nesaf - y mwyafrif yn berthnasol i Loegr yn unig.
Ond mae yna rai newidiadau a fyddai'n dod i rym yng Nghymru hefyd, gan gynnwys y bwriad i wahardd therapi sydd yn ceisio newid cyfeiriadaeth rywiol pobl.
Mae hefyd yn fwriad i orfodi pobl i ddod â rhyw fath o gerdyn adnabod gyda llun wrth fwrw pleidlais mewn etholiadau cyffredinol.
Cyhoeddodd y Frenhines fanylion mesur hefyd a fydd yn creu rheolau y byddai'n rhaid i bob un o lywodraethau'r DU eu dilyn wrth roi cymhorthdal i ffermwyr neu fusnesau.
Bydd hynny'n codi cwestiynau ynghylch pa mor hyblyg y gallai gweinidogion Cymru fod wrth roi cymorthdaliadau.
Un peth sy'n absennol o'r araith yw deddf i ariannu newidiadau i'r drefn gofal cymdeithasol. Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi datgan "yn bendant" fwriad i fwrw ati i newid system gofal cymdeithasol Cymru os nad oedd Llywodraeth y DU yn cyhoeddi newidiadau yr araith ddydd Mawrth.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru wedi'r araith: "Mater i'r gweinidogion sy'n dod i mewn [wedi etholiad Senedd Cymru] fydd ystyried manylion cynlluniau diwygio gofal cymdeithasol Llywodraeth y DU, unwaith y maen nhw ar gael, cyn ystyried y ffordd ymlaen yng Nghymru."
Dywedodd arweinydd Plaid Cymru yn y Senedd, Liz Saville Roberts bod yr achlysur yn emosiynol o safbwynt gorchwyl mawr cyntaf y Frenhines ers marwolaeth Dug Caeredin.
Ond roedd yr araith ei hun, meddai, sydd wedi ei hysgrifennu gan weinidigion, "yn ddi-gyffro ac anymrwymol".
Dywedodd bod Boris Johnson wedi addo mynd i'r afael â gofal cymdeithasol "unwaith ac am byth" ond wedi methu darparu'r cyllid angenrheidiol i'r llywodraethau datganoledig.
Ychwanegodd bod y lywodraeth Geidwadol "yn canoli fwy nag erioed o'r blaen" yn groes i'r addewid i fuddsoddi i sicrhau cyfartaledd ymhob rhan o'r DU.
'Araith feiddgar i sicrhau adferiad cenedlaethol'
Ond yn ôl llefarydd economi'r Ceidwadwyr yn y Senedd, Russell George fe fydd yr araith "feiddgar... yn sicrhau'r adferiad cenedlaethol y mae taer angen ar ein gwlad i fod yn gryfach ac yn fwy ffyniannus".
"Mae creu mwy o swyddi a chyfleoedd i Gymru a'r DU wrth galon y cynllun uchelgeisiol yma.
"Bydd ymrwymiadau Llywodraeth Geidwadol y DU yn sicrhau bod Cymru ar reng flaen Prydain byd-eang wedi'i hadfywio wedi'r pandemig."
'Annemocrataidd ac annheg'
Byddai mynnu cardiau adnabod gyda llun er mwyn bwrw pleidlais mewn etholiadau cyffredinol yn "annemocrataidd, diangen ac annheg", yn ôl arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig.
"Mae pleidleisio yn hawl rydym oll yn ei fwynhau ac mae'r llywodraeth yn ceisio tanseilio hynny trwy gyflwyno rhwystrau newydd fydd yn rhwym o leihau faint o bobl sy'n pleidleisio," medd Jane Dodds.
"Mae yna sawl ffordd y gall, ac y dylai Llywodraeth y DU gryfhau democratiaeth, fel diwygiadau pleidleisio a lleihau'r oedran pleidleisio i 16.
"Ni ddylai Llywodraeth Cymru ddilyn Llywodraeth y DU yn y mater yma."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Mai 2021
- Cyhoeddwyd9 Mai 2021