Newidiadau i ofal cymdeithasol yng Nghymru 'yn bendant'
- Cyhoeddwyd
Bydd Llywodraeth Cymru "yn bendant" yn bwrw ati i newid system gofal cymdeithasol Cymru os nad yw Llywodraeth y DU yn cyhoeddi newidiadau'r wythnos nesaf.
Dywedodd y Gweinidog Llywodraeth Leol, Julie James y byddai'n "amlwg yn well petai Llywodraeth y DU yn newid y system yn ei chyfanrwydd".
Ond dywedodd y byddai gweinidogion Cymreig yn gweithredu os nad oedd gofal cymdeithasol ar restr flaenoriaethau San Steffan ar gyfer y flwyddyn nesaf.
Bydd Araith y Frenhines gyda deddfau newydd posib yn digwydd ddydd Mawrth.
'Cynllun yn barod'
Yn eu maniffesto ar gyfer etholiad y Senedd, dywedodd Llafur Cymru y bydden nhw'n "chwilio am ateb cynaliadwy ar draws y DU fel bod gofal cymdeithasol am ddim i bawb pan fo angen".
Ychwanegon nhw y bydden nhw'n edrych am ateb "Cymru yn unig" petai Llywodraeth Geidwadol y DU ddim yn gwneud hynny.
Cyn yr etholiad fe ddywedodd Mark Drakeford eu bod am aros gyntaf i weld cynlluniau Llywodraeth y DU am na fyddai'n ddoeth "gwario symiau mawr o arian" os oedd San Steffan wedyn am gyhoeddi system wahanol yn fuan wedyn.
Gyda Llafur wedi ennill 30 o'r 60 sedd yn y Senedd, mae disgwyl iddyn nhw nawr fwrw ymlaen i lywodraethu ar eu pen eu hunain.
"Fe wnaethon ni llawer o waith yn y Senedd diwethaf ynglŷn â beth i'w wneud gyda gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae gennym ni gynlluniau'n barod i fynd," meddai Ms James ar raglen BBC Politics Wales.
"Byddai'n amlwg yn well petai Llywodraeth y DU yn diwygio'r system yn ei chyfanrwydd, ond os ddim, wedyn byddwn [ni'n gweithredu]."
Roedd maniffesto'r blaid Lafur hefyd wedi addo "adeiladu ar waith pwyllgor y Senedd ar ddiwygio etholiadol" a datblygu ffyrdd o "wella cynrychiolaeth pobl Cymru yn eu Senedd".
Ymhlith argymhellion y pwyllgor hwnnw roedd cynyddu nifer yr Aelodau Senedd o 20 i 30, a chael system etholiadol mwy cyfrannol.
Dywedodd Julie James y byddai hi o blaid cynyddu maint y Senedd ond y byddai'n rhaid gwneud hynny'n "bwyllog".
"Mae'n rhaid i ni ddod allan o'r pandemig gyntaf," meddai. "Byddwn ni'n edrych i sicrhau bod gennym ni'r system etholiadol gorau ar gyfer Cymru."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Mai 2021
- Cyhoeddwyd9 Mai 2021
- Cyhoeddwyd8 Chwefror 2021