Cyngor sir yn 'sicrhau dyfodol' Mart Caerfyrddin
- Cyhoeddwyd
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn dweud eu bod "wedi sicrhau dyfodol Mart Caerfyrddin, gyda les-ddeiliad newydd a'r addewid o fuddsoddiad newydd a swyddi newydd i'r ardal".
Daeth i'r amlwg y llynedd, wedi i'r safle fethu ag agor, bod y cyngor ddim wedi adnewyddu les y cwmni oedd yn gyfrifol am y mart ar y pryd.
Roedd ffermwyr lleol hefyd wedi mynegi pryderon ynghylch y ffordd roedd y safle'n cael ei redeg.
Cwmni Nock Deighton Agricultural LLP, sy'n rhedeg marchnad da byw "lwyddiannus" Castellnewydd Emlyn sydd wedi ennill y tendr i redeg y mart yn Nant-y-ci.
Dywed y cyngor y bydd y cwmni'n "gwneud buddsoddiad cychwynnol sylweddol i uwchraddio'r cyfleusterau, ac mae'n bwriadu creu 19 o swyddi lleol, yn ogystal â darparu gwaith i arwerthwyr lleol".
Dywedodd y Cynghorydd David Jenkins, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol sy'n gyfrifol am adnoddau bod y mart "yn elfen bwysig o economi wledig Sir Gaerfyrddin".
Mae gan gwmni Nock Deighton, meddai, "hanes hir a gwych o redeg marchnadoedd da byw mawr" ac "ymrwymiad cryf" i'r ardal leol.
Ychwanegodd: "Mae'r cwmni'n addas iawn i Mart Caerfyrddin ac edrychwn ymlaen at gysylltiad hir a llwyddiannus â nhw wrth i ni symud y mart yn ei flaen."
Ers dod yn gyfrifol am farchnad da byw Castellnewydd Emlyn yn 2018 mae wedi cynyddu'r defnydd dros 60%, medd y cyngor, "gan droi marchnad oedd yn dirywio yn farchnad ffyniannus".
Dywedodd llefarydd ar ran Nock Deighton eu bod yn "falch iawn" o'r cyfle i redeg Mart Caerfyrddin "yn y dyfodol agos iawn" ac "yn edrych ymlaen yn fawr at ddatblygu'r busnes".
Mae'r cwmni hefyd yn rhedeg canolfan da byw ac arwerthu fawr Bridgnorth yn Sir Amwythig.
Maen nhw'n anelu at "ddarparu cyflogaeth o ansawdd da i bobl leol [a] gwasanaeth o ansawdd uchel i'n holl gwsmeriaid, yn y prif gyfleuster da byw ar gyfer cymunedau gwledig gorllewin Cymru a thu hwnt".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Awst 2020