Pwy yw Aelodau Senedd Cymru?

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
ASau newydd
Disgrifiad o’r llun,

Aelodau newydd o Senedd Cymru; Altaf Hussain, Jane Dodds, Mabon ap Gwynfor a Sarah Murphy

Mae aelodau newydd Senedd Cymru'n dechrau setlo i'w swyddi newydd, yn trefnu staff ac yn dod yn gyfarwydd ag arferion bywyd mewn gwleidyddiaeth.

Yn dilyn Etholiadau Senedd 2021 mae 30 aelod Llafur, 16 i'r Ceidwadwyr, 13 i Blaid Cymru, ac un i'r Democratiaid Rhyddfrydol.

Ond pwy yw'r 60 aelod? Dyma ddarlun bras o'r holl aelodau, a'r pleidiau maent yn eu cynrychioli.

Aberafan

David Rees - Llafur

Cafodd David Rees ei ethol gyda 10,505 o bleidleisiau. Plaid Cymru oedd yn ail gyda 4,760 pleidlais, a'r Ceidwadwyr gyda 2,947.

Mae Llafur wedi ennill y sedd ym mhob etholiad ers 1999, gyda Plaid Cymru hefyd yn dod yn ail ym mhob un o'r etholiadau hynny.

Aberconwy

Janet Finch-Saunders - Y Ceidwadwyr

Fe enillodd Janet Finch-Saunders y sedd gyda mwyafrif o 3,336 - 7% yn uwch na 2016. Roedd Plaid Cymru yn targedu'r sedd fel un i'w hennill.

Alun a Glannau Dyfrdwy

Jack Sargeant - Llafur

Cafodd Jack Sargeant ei ethol i'r Senedd yn 2018 mewn is-etholiad yn dilyn marwolaeth ei dad, Carl. Cafodd Jack Sargeant 12,622 o bleidleisiau yn etholiad 2020, gyda'r Ceidwadwyr yn ail gyda 8,244.

Arfon

Sian Gwenllian - Plaid Cymru

Cafodd Sian Gwenllian ei hail-ethol i'r Senedd gyda mwyafrif o 8,642. Cafodd cyn-gynghorydd Y Felinheli ei hethol am y tro cynta i'r Senedd yn 2016.

Disgrifiad o’r llun,

Enillodd Sian Gwenllian 63.3% o'r bleidliais

Blaenau Gwent

Alun Davies - Llafur

Enillodd Alun Davies y sedd gyda mwyafrif o 6,638, i fyny 9.4% ar Etholiad 2016. Fe aeth pleidlais Plaid Cymru lawr 19.4% ym Mlaenau Gwent.

Bro Morgannwg

Jane Hutt - Llafur

Fe ddaliodd Jane Hutt ei gafael ar sedd Bro Morgannwg er gwaethaf ymdrechion y Ceidwadwyr oedd wedi ei thargedu. Yn wir fe aeth mwyafrif Jane Hutt i fyny o 777 i 3,270.

Mae Ms Hutt wedi cynrychioli'r etholaeth ers 1999.

Brycheiniog a Sir Faesyfed

James Evans - Y Ceidwadwyr

Roedd Kirsty Williams wedi dal y sedd yma i'r Democratiaid Rhyddfrydol ers 1999, ond wedi iddi benderfynu roi'r gorau iddi fe ddymchwelodd pleidlais ei phlaid.

Yn 2016 cafodd Ms Williams 52.4% o'r bleidlais, ond y tro hwn cafodd William Powell 28% (8,921 pleidlais).

Caerffili

Hefin David - Llafur

Enillodd Hefin David y bleidlais yng Nghaerffili gyda 46% yn ei gefnogi. Aeth ei gefnogaeth i fyny 10% o'i gymharu â phum mlynedd yn ôl.

Daeth Delyth Jewell o Blaid Cymru yn ail gyda 8,211 pleidlais.

Canol Caerdydd

Jenny Rathbone - Llafur

Fe gynyddodd Jenny Rathbone ei mwyafrif i 7.5% o'i gymharu â phum mlynedd yn ôl.

Mae hi wedi cynrychioli'r etholaeth ers 2011, gan ennill 13,100 o bleidleisiau y tro hwn - 46% o'r cyfanswm wnaeth bleidleisio.

Ffynhonnell y llun, Matthew Horwood
Disgrifiad o’r llun,

Jenny Rathbone, Aelod Seneddol Llafur Canol Caerdydd

Castell-nedd

Jeremy Miles - Llafur

Cadwodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg newydd ei sedd gyda 11,666 o bleidleisiau - mwyafrif o 5,221.

Ceredigion

Elin Jones - Plaid Cymru

Cafodd Elin Jones ei hethol gyntaf yn 1999, ac fe gododd ei chanran o'r bleidlais o 40.7% yn 2016 i 55.1% eleni.

Ffynhonnell y llun, Matthew Horwood
Disgrifiad o’r llun,

Elin Jones, Aelod Seneddol Ceredigion ers 1999

Cwm Cynon

Vikki Howells - Llafur

Mae Cwm Cynon wedi bod yn gadarnle i'r Blaid Lafur ers 1999. Cynyddodd Vikki Howells ei chanran o'r bleidlais o 51.1% pum mlynedd yn ôl i 55.7% eleni.

De Caerdydd a Phenarth

Vaughan Gething - Llafur

Cafodd Vaughan Gething 18,153 o bleidleisiau yn Ne Caerdydd a Phenarth - 49.9% o'r sawl bleidleisiodd. Daeth y Ceidwadwyr yn ail gyda 20.7%, ac yna Plaid Cymru gyda 13.6%.

De Clwyd

Ken Skates - Llafur

Daliodd Ken Skates a Llafur ymlaen i Dde Clwyd gyda mwyafrif o 2,913. Cafodd Skates 10,448 o bleidleisiau - mae wedi cael mwyafrif o 13% yn y ddwy etholiad ddiwethaf.

Delyn

Hannah Blythyn - Llafur

Fe gafodd Hannah Blythyn fwyafrif o 3,711, gan ennill cyfanswm o 12,846 o bleidleisiau.

Dwyfor Meirionnydd

Mabon ap Gwynfor - Plaid Cymru

Dafydd Elis-Thomas oedd yn cynrychioli'r etholaeth yma o 1999 hyd eleni. Ond gyda'r Arglwydd Elis-Thomas yn sefyll lawr, Mabon ap Gwynfor enillodd y sedd dros Blaid Cymru. Fe enillodd gyda mwyafrif o 7,096 o bleidleisiau.

Dwyrain Abertawe

Mike Hedges - Llafur

Enillodd Mike Hedges yn gyfforddus yn Nwyrain Abertawe gyda 12,950 pleidlais.

Daeth Plaid Cymru'n ail gyda 3,250 pleidlais a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn drydydd gyda 2,947 pleidlais.

Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr

Adam Price - Plaid Cymru

Enillodd arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, ei sedd gyda 15,261 pleidlais - 46% o'r cyfanswm, ond lawr 2.5% o 2016.

Rob James o Lafur daeth yn ail gyda 8,448 (25%) pleidlais a'r Ceidwadwr Havard Hughes yn drydydd gyda 7,751 (23%).

Ffynhonnell y llun, Matthew Horwood
Disgrifiad o’r llun,

Er i Blaid Cymru gynyddu eu nifer o seddi o 12 yn 2016 i 13 eleni, roedd hi'n noson siomedig iddynt gan fethu dorri tir newydd mewn seddi targed

Dwyrain Casnewydd

John Griffiths - Llafur

Enillodd John Griffiths yn Nwyrain Casnewydd gyda 10,899 pleidlais.

Fe gynyddodd ei gyfanswm o'r bleidlais i 47% - i fyny bron 2.5% o 2016.

Dyffryn Clwyd

Gareth Davies - Y Ceidwadwyr

Gareth Davies oedd llwyddiant cynnar yr etholiad i'r Ceidwadwyr, gan ennill Dyffryn Clwyd gyda 10,792, dros Jason McLellan o Lafur gafodd 10,426.

Safodd yr Aelod Llafur, Ann Jones, i lawr wedi iddi gynrychioli'r etholaeth ers 1999.

Gogledd Caerdydd

Julie Morgan - Llafur

Mae gyrfa wleidyddol hir Julie Morgan yn parhau wedi iddi gael ei hail-ethol i gynrychioli Gogledd Caerdydd. Mae hi'n gyn Aelod Seneddol yn San Steffan ac wedi cynrychioli Gogledd Caerdydd yn Senedd Cymru ers 2016.

Gorllewin Abertawe

Julie James - Llafur

Cafodd ei hail-ethol gyda mwyafrif o 6,521 o bleidleisiau, gan gynyddu ei chanran o'r bleidlais ers 2016.

Gorllewin Caerdydd

Mark Drakeford - Llafur

Roedd hi'n fuddugoliaeth glir i'r Prif Weinidog yng Ngorllewin Caerdydd. Cafodd Mr Drakeford 17,665 o bleidleisiau, gyda'r Ceidwadwyr yn ail gyda 6,454 a Phlaid Cymru yn y trydydd safle gyda 5,897.

Ffynhonnell y llun, Matthew Horwood
Disgrifiad o’r llun,

Mae Mark Drakeford wedi bod yn Brif Weinidog Cymru ers 13 Rhagfyr, 2018

Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro

Samuel Kurtz - Y Ceidwadwyr

Gyda Angela Burns yn sefyll i lawr roedd Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro am gael AS newydd. Cafodd Samuel Kurtz ei ethol gyda 11,240 o bleidleisiau, mwyafrif o 936. Riaz Hassan o'r Blaid Lafur oedd yn ail.

Gorllewin Casnewydd

Jayne Bryant - Llafur

Cafodd Jayne Bryant ei hethol unwaith eto i gynrychioli Gorllewin Casnewydd, gyda 14,259 (48%) o'r bleidlais. Roedd hyn yn gynnydd o bron i 4.5% ar ei chyfanswm yn 2016.

Gorllewin Clwyd

Darren Millar - Y Ceidwadwyr

Daliodd Darren Millar ymlaen i'w sedd yn Ngorllewin Clwyd gyda 11,839 o bleidleisiau.

Ond fe gafodd ei fwyafrif ei leihau o 5,063 i 3,685. Llafur oedd yn yr ail safle gyda 8,154 pleidlais.

Ffynhonnell y llun, Matthew Horwood
Disgrifiad o’r llun,

Mae Darren Millar wedi bod yn Aelod o'r Senedd ers 2007

Gŵyr

Rebecca Evans - Llafur

Enillodd Rebecca Evans yn gyfforddus yn y diwedd, o ystyried bod hon yn sedd roedd y Ceidwadwyr wedi ei thargedu.

Cynyddodd mwyafrif Llafur ers 2016, o 1,829 i 4,795 eleni.

Islwyn

Rhianon Passmore - Llafur

Cafodd Rhianon Passmore ei hethol i gynrychioli Islwyn am yr ail dro. Fe enillodd hi 9,962 o'r pleidleisiau (40.7% o'r cyfanswm).

Llanelli

Lee Waters - Llafur

Roedd hon i fod yn sedd ymylol rhwng Lee Waters a Helen Mary Jones o Blaid Cymru. Ond buddugoliaeth hawdd oedd hi i Mr. Waters yn y diwedd, gan ennill 13,930 (46%) o'r bleidlais, gyda Helen Mary Jones yn ail gyda 8,255 pleidlais.

Maldwyn

Russell George - Ceidwadwyr

Cafodd Russell George ei ethol unwaith eto gyda mwyafrif swmpus o 7,528. Aeth pleidlais y Democratiaid Rhyddfrydol i lawr yn sylweddol, ac fe roddodd Elwyn Vaughan o Blaid Cymru berfformiad cryf gan orffen yn yr ail safle gyda 4,485 (17.95%) o bleidleisiau.

Merthyr Tudful a Rhymni

Dawn Bowden - Llafur

Cafodd Dawn Bowden ei hail-ethol i gynrychioli Merthyr a Rhymni gyda mwyafrif gyfforddus o 9,311.

Mynwy

Peter Fox - Ceidwadwyr

Peter Fox oedd arweinydd Cyngor Mynwy cyn yr etholiad. Enillodd yr etholiad gyda 43% o'r bleidlais.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Peter Fox yn arweinydd ar Gyngor Mynwy am 13 mlynedd

Ogwr

Huw Irranca-Davies - Llafur

Cafodd Huw Irranca-Davies ei ail-ethol gyda 12,868 (52.5%) o'r bleidlais.

Luke Fletcher o Blaid Cymru oedd yn yr ail safle gyda 4,703 (19.2% o'r bleidlais).

Pen-y-bont ar Ogwr

Sarah Murphy - Llafur

Gyda'r cyn-Brif Weinidog, Carwyn Jones yn penderfynu gadael y Senedd roedd Pen-y-bont am gael aelod newydd i'r Senedd. Ond Llafur enillodd unwaith eto, a hynny'n gymharol gyfforddus.

Cafodd Sarah Murphy 12,388 o'r pleidleisiau gyda Rachel Nugent-Finn o'r Ceidwadwyr yn dod yn ail gyda 8,324 pleidlais.

Pontypridd

Mick Antoniw - Llafur

Enillodd Mick Antoniw gyda 11,511 pleidlais - 42% o'r bleidlais gyfan.

Plaid Cymru ddaeth yn ail gyda 6,183 pleidlais, a'r Ceidwadwyr yn drydydd gyda 5,658.

Preseli Penfro

Paul Davies - Ceidwadwyr

Cafodd cyn-arweinydd y Torïaid yn y Senedd ei ail-ethol.

Fe enillodd 12,295 o'r pleidleisiau, gyda mwyafrif o 1,400. Collodd yr awenau fel arweinwyr y grŵp Ceidwadol yn y Senedd ym mis Ionawr 2021 wedi i nifer o aelodau gael eu cyhuddo o yfed alcohol yn y Senedd yn groes i ganllawiau Covid.

Rhondda

Elizabeth "Buffy" Williams

Fe ddisodlodd Buffy Williams gyn-arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, mewn canlyniad a oedd yn sioc i'r mwyafrif. Nid yn unig ei bod wedi ennill, ond wedi ennill gyda mwyafrif o 5,497.

Cafodd Buffy Williams 12,832 o bleidleisiau (54%), gyda Leanne Wood yn ail gyda 7,335 (31%). Roedd Leanne Wood i lawr bron 20% o'i chanlyniad pum mlynedd yn ôl.

Ffynhonnell y llun, Matthew Horwood
Disgrifiad o’r llun,

Buffy Williams, AS newydd y Rhondda

Torfaen

Lynn Neagle

Mae Lynn Neagle yn un o'r rhai prin oedd yn Aelod nôl yn 1999. Cynyddodd ei chyfran o'r bleidlais o 6% gyda chyfanswm o 11,572 (28%).

Wrecsam

Lesley Griffiths - Llafur

Roedd hon yn sedd yr oedd y Ceidwadwyr yn ei thargedu, ond fe ddaliodd Lesley Griffiths ymlaen gyda mwyafrif o 1,350. Yn yr ail safle oedd y Ceidwadwr, Jeremy Kent.

Ynys Môn

Rhun ap Iorwerth - Plaid Cymru

Enillodd Rhun ap Iorwerth gan gynyddu ei bleidlais i 55.91%.

Fe wnaeth y Ceidwadwyr a Llafur gynyddu eu pleidlais hwythau hefyd, gyda'r bleidlais Geidwadol yn codi o 11.54% yn 2016 i 20.51 eleni.

Enwebiadau rhanbarthol

Canolbarth a Gorllewin Cymru

Eluned Morgan - Llafur

Joyce Watson - Llafur

Cefin Campbell - Plaid Cymru

Jane Dodds - Democratiaid Rhyddfrydol

Disgrifiad o’r llun,

Fel yn 2016, dim ond un AS sydd gan y Democratiaid Rhyddfrydol yn y Senedd eleni - Jane Dodds, arweinydd y blaid yng Nghymru

Gogledd Cymru

Carolyn Thomas - Llafur

Llŷr Gruffydd - Plaid Cymru

Mark Isherwood - Ceidwadwyr

Sam Rowlands - Ceidwadwyr

Canol De Cymru

Rhys ab Owen - Plaid Cymru

Heledd Fychan - Plaid Cymru

Andrew RT Davies - Ceidwadwyr

Joel James - Ceidwadwyr

Ffynhonnell y llun, Matthew Horwood
Disgrifiad o’r llun,

Andrew RT Davies. Cafodd y Ceidwadwyr y nifer fwyaf o Aelodau erioed mewn etholiad i'r Senedd, gan ennill 16 sedd

Dwyrain De Cymru

Delyth Jewell - Plaid Cymru

Peredur Owen Griffiths - Plaid Cymru

Laura Anne Jones - Ceidwadwyr

Natasha Ashgar - Ceidwadwyr

Gorllewin De Cymru

Sioned Williams - Plaid Cymru

Luke Fletcher - Plaid Cymru

Tom Giffard - Ceidwadwyr

Altaf Hussain - Ceidwadwyr

Hefyd o ddiddordeb: