Ymgyrch ailagor rheilffordd Llangollen yn codi stêm

  • Cyhoeddwyd
Some of the carriages being auctioned
Disgrifiad o’r llun,

Roedd cerbydau ac injan ddisel ymhlith yr eitemau i gael eu gwerthu

Fe allai llwyddiant arwerthiant gafodd ei gynnal ar-lein olygu posibilrwydd y bydd gwasanaethau trên stêm yn ailddechrau yn Llangollen fis Awst, yn ôl cadeirydd Ymddiriedolaeth Rheilffordd Llangollen.

Bydd yr arian yn mynd tuag at dalu dyledion cwmni Llangollen Railway PLC.

Oherwydd ei ddyledion fe gafodd y cwmni ei roi yn nwylo'r gweinyddwyr yn gynharach eleni.

Roedd cerbyd ac injan ddisel ymhlith yr eitemau i gael eu gwerthu yn yr arwerthiant ddydd Mercher.

Ymhlith y prynwyr oedd Ymddiriedolaeth Rheilffordd Llangollen sy'n gorff ar wahân i'r cwmni PLC.

Yr ymddiriedolaeth sydd â'r drwydded i gynnal gwasanaethau, ac sy'n gyfrifol am reoli'r lein ddeg milltir o hyd ynghyd â'r gorsafoedd rhwng Llangollen a Chorwen.

Ffynhonnell y llun, Rheilffordd Llangollen
Disgrifiad o’r llun,

Dechreuodd y gwaith o adfer y rheilffordd rhwng Llangollen a Chorwen yn 1975

Mae yna amcangyfrif fod y lein yn cyfrannu tua £8m i'r diwydiant twristiaeth yn y gogledd ddwyrain.

Dywed yr ymddiriedolaeth y bydd eu llwyddiant yn yr arwerthiant yn fodd o ailddechrau'r gwasanaeth.

"Roedd yr ymddiriedolaeth wedi paratoi rhestr o asedau pwysig byddai angen eu cadw yn Llangollen, a fyddai'n holl bwysig i allu ailagor y gwasanaeth," meddai Peter Edwards, cadeirydd yr ymddiriedolaeth.

Fe wnaeth yr ymddiriedolaeth wario dros £100,000 yn prynu "offer angenrheidiol".

"Mae'n debyg fod yr arwerthiant wedi codi tua £450,000 a bydd hynny dwi'n credu yn mynd ymhell i fodloni credydwyr.

Disgrifiad o’r llun,

Amcanbris y cerbydau oedd rhwng £20,000 a £25,000

"Ond bydd yn rhaid gweld adroddiad y gweinyddwyr, oherwydd yn amlwg mae yna ffioedd sylweddol fydd yn gorfod cael eu talu o'r arian yma.

"Fe wnaeth ein llwyddiant yr yn yr arwerthiant sicrhau ein bod gennym nawr yr offer peirianyddol pwysig sydd ei angen er mwyn gwneud y gwaith sy'n angenrheidiol i ailddechrau'r gwasanaeth," meddai Mr Edwards.

Disgrifiad o’r llun,

Gwirfoddolwyr sydd wedi bod yn bennaf gyfrifol am adfer y lein rhwng Llangollen a Chorwen

Dywedodd fod yna gamau eraill hefyd cyn gallu ailsefydlu'r gwasanaeth, gan gynnwys perswadio'r rheoleiddwyr eu bod yn gymwys i gynnal y gwasanaeth.

"Ond 'de ni ddim yn credu y bydd hynny yn rhy anodd," medd Mr Edwards.

"Mae gennym lefel o arbenigaeth uchel ac mae yna bobl yma sy'n gwybod beth maen nhw'n ei wneud.

"Mae'r holl beth yn gam mawr iawn ymlaen i ni allu ailddechrau'r gwasanaeth, ac rydym yn eithaf ffyddiog y bod posibilrwydd y bydd hynny'n digwydd erbyn mis Awst."

Pynciau cysylltiedig