Eluned Morgan yn Weinidog Iechyd wrth i Drakeford newid ei dîm
- Cyhoeddwyd
Mae Eluned Morgan wedi ei phenodi'n Weinidog Iechyd Cymru, gyda Vaughan Gething yn symud i fod yn gyfrifol am yr economi.
Jeremy Miles fydd Gweinidog Addysg a'r Gymraeg, gan gymryd lle Kirsty Williams.
Mae Ken Skates yn dychwelyd i'r meinciau cefn, ar ôl gadael ei rôl fel Gweinidog Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru.
Mae Mark Drakeford wedi enwi ei gabinet newydd ar ôl i'w blaid ennill 30 o'r 60 sedd yn Etholiad Senedd Cymru yr wythnos ddiwethaf.
Newid hinsawdd 'wrth wraidd' llywodraeth
Dywed y Prif Weinidog y bydd newid hinsawdd, swyddi gwyrdd newydd ac adfer o'r pandemig "wrth wraidd" y Llywodraeth Lafur Cymru newydd.
Bydd y weinyddiaeth newid hinsawdd newydd yn dod â phortffolios yr amgylchedd, ynni, tai, cynllunio a thrafnidiaeth at ei gilydd, dan arweiniad Julie James.
Lee Waters fydd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd.
Bydd Dawn Bowden yn ymuno â'r llywodraeth fel Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon ym mhortffolio'r economi. Hi hefyd fydd y prif chwip.
Lesley Griffiths fydd y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd.
Mae naw allan o'r 14 aelod cabinet newydd yn fenywod.
Y cabinet newydd yn llawn:
Mark Drakeford - Y Prif Weinidog
Mick Antoniw - Darpar Gwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad
Rebecca Evans - Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Vaughan Gething - Gweinidog yr Economi
Dawn Bowden - Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a'r Prif Chwip
Lesley Griffiths - Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd
Jane Hutt - Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
Hannah Blythyn - Y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol
Julie James - Y Gweinidog Newid Hinsawdd
Lee Waters - Y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd
Jeremy Miles - Gweinidog y Gymraeg ac Addysg
Eluned Morgan - Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Julie Morgan - Y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol
Lynne Neagle - Y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant
Dywed Mr Drakeford fod Ken Skates yn dychwelyd i'r meinciau cefn i "ganolbwyntio ar gryfhau Llafur Cymru yn y gogledd".
Dywed Mr Skates ei fod wedi gofyn i gael gadael y llywodraeth "er mwyn canolbwyntio ar ei etholaeth", De Clwyd.
"Ar ôl wyth mlynedd mewn llywodraeth, nawr yw'r amser iawn," meddai.
Ychwanegodd y Prif Weinidog: "Mae Ken wedi bod yn gaffaeliad mawr yn y cabinet ac wedi darparu llais ar gyfer y gogledd.
"Bydd e'n parhau i godi llais dros y gogledd a Llafur Cymru ond mewn rôl wahanol. Byddwn ni'n gweld eisiau ei egni a'i angerdd.
"Daw Vaughan yn Weinidog yr Economi ar adeg dyngedfennol - nid argyfwng iechyd y cyhoedd yn unig yw'r pandemig, mae hefyd yn argyfwng economaidd."
'Tîm dawnus ac ymroddedig'
Eluned Morgan fydd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, gan ganolbwyntio'n benodol ar adferiad y GIG a'r ymateb i'r pandemig.
Lynne Neagle fydd y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant. Lynne yw cyn-gadeirydd Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd sydd wedi hyrwyddo iechyd meddwl plant a phobl ifanc.
Bydd Julie Morgan yn parhau yn ei rôl fel y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol.
Bydd Mick Antoniw yn dychwelyd i'r Cabinet fel y darpar Gwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad.
Jane Hutt fydd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a Hannah Blythyn fydd y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol.
Bydd Rebecca Evans yn cadw swydd y Gweinidog Cyllid ond mae maes llywodraeth leol wedi'i ychwanegu at ei phortffolio.
Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford: "Bydd heriau o'n blaenau - mae'r pandemig yn argyfwng iechyd y cyhoedd ac yn argyfwng economaidd a fydd yn effeithio ar ein bywydau ymhell i'r dyfodol - ond mae'r tîm hwn yn un dawnus ac ymroddedig sy'n benderfynol o wneud gwahaniaeth cadarnhaol er lles Cymru.
"Byddwn ni'n rhoi pob gewyn ar waith i greu Cymru gryfach, tecach a gwyrddach, lle nad oes neb yn cael ei ddal yn ôl na'i adael ar ôl."
Dadansoddiad gohebydd amgylchedd BBC Cymru, Steffan Messenger:
Mae tymor nesa'r Senedd yn ein tywys ni i ganol "degawd dyngedfennol", i ddyfynnu'r corff sy'n cynghori llywodraethau'r DU ar newid hinsawdd.
Erbyn 2030 mae angen i Gymru fod wedi cael gwared ar ddau draean o'i hallyriadau tŷ gwydr.
Ac os oes gobaith o roi stop ar ein cyfraniad at gynhesu byd eang erbyn 2050, rhaid i'r gwaith o weddnewid ein heconomi a'n ffordd o fyw yn llwyr ddechrau o ddifri'.
Mae'n dasg anferthol a dylid gweld y swyddi gweinidogol newydd yma bellach fel rhai o'r mwyaf pwysig a dylanwadol o fewn i Lywodraeth Cymru.
Ond wrth gwrs bydd raid i bob adran a gweinidog ystyried sut y gallan nhw ymateb i'r her, gyda Chymru'n dechrau profi rhai o sgil-effeithiau bygythiol newid hinsawdd yn barod.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Mai 2021
- Cyhoeddwyd12 Mai 2021