Ailethol Mark Drakeford yn Brif Weinidog, Elin Jones yn Llywydd y Senedd
- Cyhoeddwyd
Mae'r Senedd wedi ailymgynnull brynhawn Mercher am y tro cyntaf ers yr etholiad.
Mae Elin Jones wedi cael ei hailethol yn Llywydd, er i'r AS Ceidwadol, Russell George ei herio.
Enillodd Ms Jones y bleidlais o 35-25.
AS Aberafan, David Rees yw'r Dirprwy Lywydd ar ôl trechu ei gyd aelod Llafur, AS Caerffili, Hefin David.
Cafodd arweinydd Llafur Cymru, Mark Drakeford, ei enwebu ar gyfer rôl y prif weinidog, ar ôl i'w blaid ennill 30 o'r 60 sedd ym Mae Caerdydd, a hynny'n ddi-wrthwynebiad.
Bydd gofyn i'r Frenhines gymeradwyo'r enwebiad cyn i Mr Drakeford gael ei ailbenodi'n swyddogol i'r swydd.
Yn unol â chyfyngiadau Covid-19, bydd 20 aelod yn cael eistedd yn y siambr gyda'r 40 sy'n weddill yn cymryd rhan drwy gyswllt fideo o'u swyddfeydd yn yr adeilad drws nesaf.
I 19 o'r aelodau newydd a etholwyd yr wythnos diwethaf, dyma fydd eu blas cyntaf o waith y Senedd.
Mae'r Llywydd yn gweithredu fel pennaeth y Senedd, gan gadeirio cyfarfodydd yn y siambr.
Wedi pleidlais ddirgel, cafodd Elin Jones, fu'n Llywydd drwy gydol tymor diwethaf y Senedd, ei hethol, o 35 pleidlais i 25, ar ôl cael ei henwebu gan yr Aelod Llafur, Lynne Neagle, a'i chyd-aelod Plaid Cymru, Sian Gwenllian.
Dywedodd AS Ceredigion ei bod eisiau "cryfhau'r craffu ar y llywodraeth" a sicrhau cyfleoedd gwell i aelodau o bob plaid gyfrannu o'r meinciau cefn.
Ychwanegodd bod y chweched Senedd "yn teimlo'n gryf ac yn gadarn, gyda phawb sydd wedi eu hethol yn cefnogi bodolaeth ein senedd genedlaethol", a bod mwyafrif yr aelodau'n dymuno mwy o rymoedd i'r Senedd.
Cafodd Russell George ei enwebu gan ei gyd-aelod Ceidwadol Laura Jones a'r AS Llafur, Alun Davies.
Gan gyfeirio at y ffaith nad fu'r un Llywydd Ceidwadol yn hanes datganoli yng Nghymru, dywedodd: "Rhaid i'r Senedd yma fod yn fwy cynhwysol, yn enwedig gan mai ni yw'r brif wrthblaid amlwg yn y siambr hon."
Gan addo i drin aelodau'n "gyfartal ac yn deg", a chynnal "annibyniaeth egnïol wrth ddelio gyda materion", dywedodd y byddai'n parchu safbwyntiau aelodau ar newidiadau etholiadol.
Ychwanegodd: "Ni wnaf atal newid, ond ni fyddaf 'ychwaith yn gyrru'r newid hwnnw."
Cafodd David Rees ei ethol yn Ddirprwy Lywydd o 35 pleidlais i 24.
Cafodd ei enwebu gan ei gyd aelod Llafur, Joyce Watson a'r Aelod Plaid Cymru, Llyr Gruffydd, a dywedodd ei fod eisiau gwella'r senedd "i sicrhau y gallai graffu ar y llywodraeth yn effeithiol".
Ychwanegodd: "Gall sicrhau ei bod yn herio'r llywodraeth pan mae'n cael pethau'n anghywir, a'i chanmol pan maen nhw'n cael pethau'n gywir."
Roedd Mr David, a gafodd ei enwebu gan yr AS Llafur Dawn Bowden a'r Ceidwadwr Laura Jones wedi awgrymu taw ef oedd â'r cyfle "gorau" i gael consensws ynghylch diwygio'r Senedd, gan gyfeirio at adroddiad sy'n galw am gael mwy o aelodau.
"Yr unig ffordd rydym am gael yr adroddiad yna'n ôl ar yr agenda yw i ni gynnal y drafodaeth ar draws y siambr, a gwneud hynny mewn ffordd sy'n cynnwys pob grŵp," meddai.
Pwysleisiodd hefyd bod "rhaid i bob un llais yn y siambr yma gael ei glywed".
Roedd Alun Davies o'r Blaid Lafur wedi datgan awydd i geisio am rôl y dirprwy lywydd, ac roedd John Griffiths a Joyce Watson hefyd wedi eu crybwyll fel ymgeiswyr posib.
Mae arweinydd y grŵp Ceidwadol, Andrew RT Davies, wedi dweud y byddai cael Llywydd neu Ddirprwy Lywydd o'r Ceidwadwyr yn "ffordd synhwyrol" i adeiladu consensws.
Mae gofyn i'r naill swydd neu'r llall fod yn aelod o'r blaid sy'n llywodraethu.
Bydd ei blaid yn dal 16 sedd yn y Senedd newydd, ar ôl ennill pum sedd ychwanegol yn yr etholiad o'i gymharu â chanlyniad 2016.
Enillodd Plaid Cymru un sedd ychwanegol yr wythnos ddiwethaf o'i gymharu â 2016, gan ddod â chyfanswm newydd y blaid i 13.
Bydd y sedd olaf yn perthyn i arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, Jane Dodds.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Mai 2021
- Cyhoeddwyd11 Mai 2021
- Cyhoeddwyd10 Mai 2021