Cwpan yr Enfys: Scarlets 28 - 29 Gleision

  • Cyhoeddwyd
Jarrod Evans a'i gais agoriadol i'r GleisionFfynhonnell y llun, Asiantaeth lluniau Huw Evans
Disgrifiad o’r llun,

Jarrod Evans a'i gais agoriadol i'r Gleision

Roedd cic gosb hwyr i faswr Cymru, Jarrod Evans, yn ddigon i sicrhau'r fuddugoliaeth i'r Gleision ar Barc y Scarlets brynhawn Sadwrn yng nghystadleuaeth newydd Cwpan yr Enfys.

Cafodd y maswr 14 pwynt i gyd, gyda chais yr un hefyd i Cory Hill, Hallam Amos a Josh Turnbull.

Roedd Scarlets wedi brwydro yn ôl o 26-9 gyda dau gais gan y mewnwr Dan Blacker ac un gan Angus O'Brien.

Ond cafodd ymgais Leigh Halfpenny i drosi ei darfu, ac fe brofodd hynny'n hollbwysig i'r sgôr terfynol.

Roedd y Gleision eisoes wedi curo'r Scarlets ddwywaith y tymor hwn yng nghynghrair y Pro14 dros Scarlets cyn y llwyddiant brynhawn Sadwrn.

Pynciau cysylltiedig