Rheoliadau newydd i fynd i'r afael â llygredd amaethyddol
- Cyhoeddwyd
Mae rheoliadau newydd wedi cael eu cyflwyno i fynd i'r afael ag effaith "sylweddol a pharhaus" llygredd amaethyddol.
Dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd nad oes digon wedi'i wneud i fynd i'r afael â'r mater gan y diwydiant amaethyddol ei hun.
Mae'n golygu y bydd ffermydd yn wynebu rheolau llymach ynghylch taenu a storio slyri a gwrtaith er mwyn osgoi ei olchi i afonydd.
Ond mae undebau amaeth wedi beirniadu'r rheoliadau fel rhai "draconaidd", sydd ddim yn ateb pryderon ac anghenion ffermwyr Cymru.
'Tri digwyddiad pob wythnos'
Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn trafod cyflwyno rheoliadau ers blynyddoedd.
Mae'n dweud bod gormod o afonydd yn cael eu llygru a bod llygredd yn cael effaith barhaus ar iechyd ac ansawdd afonydd, llynnoedd a nentydd.
Roedd tri digwyddiad llygredd fferm pob wythnos ar gyfartaledd yn ystod y tair blynedd ddiwethaf.
Yn y gorffennol, mae'r Gweinidog Amgylchedd wedi disgrifio'r sefyllfa fel un "annifyr" i Gymru.
Dywedodd fod rheoliadau bellach wedi'u cyflwyno yn dilyn diffyg cynnydd gan y diwydiant.
"Rwyf wedi rhoi pob cyfle i'r diwydiant newid ei ymddygiad drwy gamau gwirfoddol," meddai Ms Griffiths.
"Mae rhywfaint o gynnydd wedi bod dros y pedair blynedd ddiwethaf ond nid yw'n ddigon o ystyried graddfa a chyfradd y broblem a'r ymrwymiad i newid sydd ei angen.
"Mae'r rheoliadau yr wyf yn eu cyflwyno yn gosod llinell sylfaen glir a chyson, gan sicrhau bod ein holl ffermwyr yn deall beth sydd angen iddynt ei wneud i ymuno â'r rheiny sydd eisoes yn gwarchod ein hamgylchedd cyfoethog ac yn rheoli tail fel maethyn gwerthfawr yn hytrach na gwastraff."
Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod y bydd angen amser a chefnogaeth ar rai ffermwyr wella, tra bydd eraill yn gweld llai o effaith.
Bydd cyfnodau trawsnewid er mwyn "lleihau'r gofynion uniongyrchol" ar y diwydiant amaethyddol.
Fe fydd hyn yn galluogi ffermwyr i fodloni'r gofynion cychwynnol a fydd yn cael eu cyflwyno o 1 Ebrill.
Yn ôl Ms Griffiths dyw'r rheoliadau "ddim yn ormodol" ac maent yn cymharu â'r rheiny sydd mewn grym ar draws y DU ac Ewrop.
Roedd arweinwyr ffermio wedi rhybuddio o'r blaen y gallai'r costau sy'n gysylltiedig â gweithredu'r newidiadau roi rhai allan o fusnes, ond dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai cyllid ar gael.
Hyd yn hyn, dywedodd ei fod wedi darparu £22m i gefnogi buddsoddiadau sy'n mynd i'r afael â llygredd dŵr.
Bydd £1.5m ychwanegol o gyllid yn cael ei ddarparu yn 2021 i helpu ffermwyr wella ansawdd dŵr.
'Gwneud datganoli yn jôc'
Dywedodd llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, Glyn Roberts bod datganoli a Brexit yn golygu y byddai Llywodraeth Cymru wedi gallu dylunio "system unigryw fyddai'n targedu'r problemau ond nid yn costio cannoedd o filiynau o bunnoedd i'r diwydiant amaeth".
Ond yn hytrach, mae Llywodraeth Cymru wedi "cymryd rheoliadau oddi ar y silff a'u gweithredu ar gyfer Cymru gyfan", meddai.
Ychwanegodd: "Mae'r cyhoeddiad yma yn gwneud datganoli yn jôc, gan fradychu'r syniad o wneud penderfyniadau'n seiliedig ar dystiolaeth."
Dywedodd NFU Cymru ei fod wedi "syfrdanu" gan y cyhoeddiad, gan ddisgrifio'r pecyn sydd ar gael i gefnogi ffermwyr fel "truenus o annigonol".
Ond mae'r Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt wedi croesawu'r rheoliadau, gan ddweud bod y diwydiant hyd yn hyn wedi methu â rhwystro'r broblem.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Ebrill 2020
- Cyhoeddwyd16 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd13 Gorffennaf 2019