Yr AS Darren Millar yn dychwelyd i'r fainc flaen
- Cyhoeddwyd
Mae Aelod o'r Senedd wedi cael ei ailbenodi i rôl mainc flaen y Ceidwadwyr Cymreig wedi iddo roi'r gorau i'r swydd yn dilyn y ffrae dros yfed alcohol.
Mae Grŵp y Ceidwadwyr Cymreig wedi cadarnhau bod Darren Millar wedi dychwelwyd i'w swydd fel prif chwip.
Roedd wedi ymddiswyddo o'i rôl wedi iddo ef a thri o ASau eraill gael eu dal yn yfed alcohol yn adeilad y Senedd ym mis Rhagfyr ond dyddiau ar ôl i'r gwaharddiad ar weini alcohol ddod i rym.
Gofynnwyd i Geidwadwyr Cymru am sylwadau.
Fe wnaeth pedwar AS yfed alcohol yn ystafell de Senedd Cymru ym mis Rhagfyr y llynedd - Darren Millar, Paul Davies, y cyn-AS Ceidwadol Nick Ramsay ac Alun Davies o'r blaid Lafur.
Ymchwiliadau i'r digwyddiad
Nid yw dau ymchwiliad i'r digwyddiad wedi adrodd yn gyhoeddus eto - un gan y comisiynydd safonau Douglas Bain, ac un arall gan y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir (SRS) - corff trwyddedu ar gyfer Cynghorau Caerdydd, Bro Morgannwg a Phen-y-bont ar Ogwr.
Deellir bod ymchwiliad yr SRS yn parhau.
Mae disgwyl i Mr Millar, AS Gorllewin Clwyd gael ei ailbenodi'n aelod o'r pwyllgor busnes ddydd Mercher - swydd yr oedd hefyd wedi ymddiswyddo ohoni ar y pryd.
Mae aelodau o'r pwyllgor busnes - corff trawsbleidiol pwysig sy'n cytuno ar lawer o weithgareddau gwleidyddol y Senedd - yn denu cyflog ychwanegol o £9,154, gan ddod â chyflog Aelod Seneddol i £76,803.
Fe wnaeth Mr Millar roi'r gorau i fainc flaen y Ceidwadwyr ar yr un pryd ag yr ymddiswyddodd Paul Davies fel arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd.
Yn ei le yntau daeth Andrew RT Davies, a arweiniodd y blaid drwy etholiad y Senedd lle cynyddodd y blaid ei nifer o seddi.
Mae Mr Millar, Paul Davies ac Alun Davies i gyd wedi ymddiheuro am y digwyddiad.
Dywedodd Mr Millar ar adeg ei ymddiswyddiad: "Er fy mod yn cael fy nghynghori na 'nes i dorri rheolau coronafeirws, mae'n ddrwg iawn gen i am fy ymddygiad, yn enwedig o ystyried effaith y cyfyngiadau anodd y mae pobl a busnesau yn eu goddef.
"Am y rheswm yma, ac o gofio bod Paul Davies wedi ymddiswyddo fel arweinydd Grŵp Ceidwadwyr Cymru yn y Senedd, rwyf wedi penderfynu camu i lawr o fy rôl fainc flaen yn Senedd Cymru."
Dywedodd llefarydd ar ran Comisiynydd Safonau'r Senedd: "Mae adran 16 o Fesur Comisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2009 yn gwahardd y comisiynydd rhag datgelu unrhyw wybodaeth am unrhyw gŵyn a allai fod wedi dod i law neu beidio."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Ebrill 2021
- Cyhoeddwyd23 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd20 Ionawr 2021