Achos yfed alcohol yn y Senedd 'yn ddifrifol iawn'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Alun Davies, Paul Davies, Darren Millar and Nick Ramsay
Disgrifiad o’r llun,

Y pedwar Aelod o'r Senedd sydd dan y lach - (ch-dd) Alun Davies, Paul Davies, Darren Millar a Nick Ramsay

Mae cyn-oruchwylydd safonau cyhoeddus yn dweud fod achos y pedwar gwleidydd a yfodd alcohol ar dir y Senedd er bod gwaharddiad alcohol mewn grym i atal lledaeniad coronafeirws yn "fater difrifol iawn".

Yfodd y pedwar Aelod o'r Senedd yn adeilad Tŷ Hywel bedwar diwrnod wedi i'r gwaharddiad ddod i rym ym mis Rhagfyr.

Yn ôl Syr Alistair Graham, cadeirydd pwyllgor safonau cyhoeddus San Steffan rhwng 2003 a 2007, mae angen "ymchwiliad buan" i'r achos.

Mae arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd, Paul Davies, ei brif chwip, Darren Millar a'r Aelod o'r Senedd Llafur Alun Davies wedi ymddiheuro ond yn gwadu torri'r rheolau coronafeirws.

Mae Mr Ramsay wedi gwadu ei fod yn rhan o'r digwyddiad, er iddo fynd i'r bwyty yn y Senedd ar ben ei hun ar y noson honno.

Dywedodd datganiad ar ei ran ei fod wedi gadael am "tua 20:00", ac er bod eraill wedi dod i mewn tra ei fod yna, nid oedd yn "gyfarfod yr oedd Mr Ramsay yn rhan ohono".

'Pobl yn casáu rhagrith pobl mewn swyddi uchel'

Dywedodd Syr Alistair wrth raglen Wales Live: "Rwy'n meddwl fod hwn yn fater difrifol iawn oherwydd mae Cymru mewn argyfwng, mae gweddill y Deyrnas Unedig mewn argyfwng.

"Y neges i ni oll yw y bydd dilyn y rheolau'n arbed bywydau.

"Felly, os oes gyda ni wleidyddion, y mae disgwyl iddyn nhw ddangos arweiniad yn y materion hyn, yn torri'r rheolau naill ai'n llythrennol neu o ran ysbryd, yna does dim byd y mae'r cyhoedd yn ei gasáu fwy na rhagrith pobl mewn swyddi uchel.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

"Y peth pwysig yw cael ymchwiliad buan fel bod yr holl ffeithiau gyda ni y gellir gwneud penderfyniadau ar eu sail.

"Honnir eu bod wedi gadael eu cyfarfod am ddau o'r gloch y bore, sy'n ymddangos yn eithaf rhyfedd, yn achos cyfarfod gwaith mor hir, yn ôl eu disgrifiad... rhaid i'r cyhoedd wybod beth yn union ddigwyddodd."

Ychwanegodd Syr Alistair y byddai'n "disgwyl fel arfer" i'r aelodau dan sylw gael eu hatal o'u grwpiau pleidiol yn y Senedd.

Mae'r Blaid Lafur wedi atal Alun Davies rhag "breintiau aelodaeth Grŵp Llafur y Senedd tra bod ymchwiliad yn digwydd i'r digwyddiad honedig hwn", ond nid yw'r aelodau Ceidwadol wedi colli chwip y blaid.