Eryri y lle gwlypaf yn y DU ddydd Gwener

  • Cyhoeddwyd
Llandochau
Disgrifiad o’r llun,

Roedd coeden wedi disgyn ar gar yn Llandochau, Bro Morgwnnwg, dros nos

Eryri oedd y lle gwlypaf yn y Deyrnas Unedig ddydd Gwener, wrth i bron i ddau ddwsin o rybuddion llifogydd gael eu rhoi ar waith yn dilyn glaw trwm.

Cofnodwyd gwyntoedd o 71mya (115km yr awr) hefyd yng Nghapel Curig, lle disgynnodd mwy na 4 modfedd (106mm) o law mewn 36 awr.

Roedd rhybudd tywydd ar gyfer gwynt a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Dywydd ar waith tan 21:00 ddydd Gwener.

Roedd cyfyngiadau teithio ar sawl pont wrth i wyntoedd cryfion a glaw daro rhannau helaeth o Gymru.

Bu cannoedd o gartrefi heb gyflenwad trydan ers prynhawn Iau, gan gynnwys dros 1,000 yn Rhondda Cynon Taf.

Bu'r M48, yr hen Bont Hafren, ynghau i'r ddau gyfeirid tra bo Pont Britannia rhwng Gwynedd a Môn wedi bod ar gau i feiciau modur, carafanau a cherbydau tal eraill.

Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth y to chwythu oddi ar gartref Phillip Dyke, Gaelle Stephan a'u plentyn 11 mis oed

Dywedodd Gwylwyr y Glannau Porthcawl bod yr orsaf dywydd yno wedi cofnodi gwyntoedd o hyd at 70mya dros nos, tra bod hyrddiadau o hyd at 71mya wedi'u cofnodi yng Nghapel Curig, Sir Conwy.

Ym Mhen-y-bont ar Ogwr cafodd y to ei chwythu oddi ar gartref Phillip Dyke, Gaelle Stephan a'u plentyn 11 mis oed yng nghanol y tywydd garw.

Dywedodd Mr Dyke wrth BBC Cymru ei fod yn credu bod rhywbeth yn rhydd am ei bod yn clywed sŵn taro y tu allan.

"Fe wnaethon ni alw'r gwasanaeth tân, ac o fewn rhyw awr fe wnaeth y to hedfan heibio i'n ffenest a glanio ar y stryd," meddai.

Ychwanegodd Ms Stephan ei bod "methu credu" wrth iddi ei weld yn digwydd.

"Roedd fel rhywbeth chi'n ei weld mewn ffilm," meddai.

Ffynhonnell y llun, Adam Preddy
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y to ei chwythu ar hyd Stryd y Parc ym Mhen-y-bont ar Ogwr

Dywedodd Western Power fod eiddo mewn ardaloedd o Ben-y-bont ar Ogwr, Caerffili, Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin hefyd wedi colli eu cyflenwadau trydan am gyfnodau.

Roedd 1,051 o gartrefi rhwng Nantgarw a Phontypridd wedi'u heffeithio, a 331 o dai ym Mhenclawdd ar benrhyn Gŵyr.

Bu 298 o gartrefi heb gyflenwad yng ngogledd Caerdydd, a 193 yn Rhydaman, Sir Gâr, ond dywedodd Western Power bod pŵer wedi'i adfer bellach i'r mwyafrif o'r llefydd hynny.

Bu'n rhaid i syrffiwr gael ei hachub ar fad achub ar ôl mynd i drafferthion oddi ar arfordir Ynys Môn nos Iau.

Mae nifer o wasanaethau trên wedi cael eu heffeithio hefyd, gyda rhai llinellau ar gau am fod y traciau wedi'u rhwystro.

Pynciau cysylltiedig