Newid statws iaith Ysgol Bro Hyddgen gam yn nes
- Cyhoeddwyd
Mae'r cynlluniau i newid Ysgol Bro Hyddgen ym Machynlleth o ysgol ddwy ffrwd i ysgol cyfrwng Cymraeg gam yn nes wedi i gabinet Cyngor Powys gyhoeddi ddydd Mawrth hysbysiad statudol i newid iaith yr ysgol yn ffurfiol.
Bydd y newid arfaethedig yn cael ei gyflwyno cam wrth gam, blwyddyn i flwyddyn, gan ddechrau gyda Dosbarth Derbyn yr ysgol ym mis Medi 2022.
Daeth y cyfnod ymgynghori i ben ddiwedd Ionawr a nodir bod rhai wedi lleisio pryderon.
Y nod yw sicrhau fod pob disgybl yn dod yn gwbl ddwyieithog yn y Gymraeg a'r Saesneg.
Dywed llefarydd ar ran y cyngor bod y cynnig yn helpu i "gyflawni un o nodau ei Strategaeth ar gyfer Trawsnewid Addysg 2020-2030, sef gwella mynediad i ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg ar draws pob cyfnod allweddol".
Help i nod 2050
Dywedodd y Cynghorydd Phyl Davies, Aelod Cabinet ar faterion Addysg ac Eiddo: "Trwy symud Ysgol Bro Hyddgen ar hyd y continwwm iaith, bydd yn ein helpu ni gwrdd â'r nodau a'r amcanion yn ein Strategaeth ar gyfer Trawsnewid Addysg ym Mhowys.
"Bydd hefyd yn sicrhau bod pob disgybl sy'n mynychu'r ysgol yn cael cyfle i ddod yn gwbl ddwyieithog, yn rhugl yn y Gymraeg a'r Saesneg, ac felly'n cyfrannu at ddyhead Llywodraeth Cymru i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
"Er i nifer ddatgan cefnogaeth i'r cynnig, cafwyd hefyd pryderon. Os bydd y cynnig yn cael ei weithredu, byddwn yn gweithio gyda'r ysgol i sicrhau fod darpariaeth Ysgol Bro Hyddgen yn parhau i ateb anghenion dysgwyr ardal Machynlleth."
Dywed y cyngor y bydd cymorth ychwanegol yn cael ei ddarparu i ddisgyblion i wella'u sgiliau yn y Gymraeg, gan gynnwys cyfleoedd am addysg drochi, sydd wedi bod yn llwyddiannus iawn mewn siroedd eraill.
"Rydym yn datblygu campws cymunedol newydd gwych i Ysgol Bro Hyddgen a chymuned Bro Ddyfi a fydd yn ddatblygiad blaenllaw nid yn unig i'r ardal, ond hefyd i'r sir ac i Gymru," ychwanegodd y Cynghorydd Davies.
Bydd yr hysbysiadau statudol yn cael eu cyhoeddi'n fuan ac yn yr hydref, bydd y cabinet yn ystyried adroddiad pellach sy'n crynhoi'r gwrthwynebiadau a ddaeth i law.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd9 Ionawr 2020