Owain Fôn Williams: Nerfusrwydd chwaraewyr wrth ddisgwyl am yr alwad i'r Euros

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Roedd Owain Fôn Williams yn rhan o garfan Cymru yn Euro 2016

Mae 30 Mai yn ddyddiad mae pob cefnogwr Cymru yn edrych ymlaen amdano - dyddiad cyhoeddi carfan Pencampwriaeth Euro 2020.

Wrth i reolwr dros dro Cymru, Robert Page, baratoi i enwi'r 26 fydd yn mynd i'r gystadleuaeth mae'n gyfnod eithriadol o nerfus i'r chwaraewyr, wrth iddyn nhw ddisgwyl am yr alwad i gynrychioli eu gwlad.

Un fuodd yn yr union sefyllfa nôl yn 2016 yw golwr Dunfermline, Owain Fôn Williams, sydd hefyd wedi arlunio sawl digwyddiad cofiadwy yn y bencampwriaeth.

Yn ystod ymgyrch Euro 2020 fe fydd Owain yn sgrifennu blog i BBC Cymru Fyw.

Cyn hynny, mae'n disgrifio'r wefr o gael ei alw i'r garfan, y berthynas arbennig rhwng y chwaraewyr a'r gwahaniaeth rhwng y garfan yn 2016 a'r bechgyn ifanc sy'n rhan o'r garfan bresennol.

Aros i glywed

"Mi o'n i wastad yn nerfus cyn cyhoeddiad unrhyw garfan am fy mod i mor desperate i fod yn rhan ohoni," meddai Owain.

Buan iawn daeth yr alwad i'r golwr oedd ar y pryd yn chwarae i glwb Inverness yn yr Alban i ymuno â'r 22 chwaraewyr arall ar yr awyren i Ffrainc.

"Cyn cyhoeddiad Ffrainc, doeddwn i ddim eisiau colli cyfle," meddai.

"Yr unig beth oeddwn i'n gallu ei wneud yn bersonol oedd chwarae ar fy ngorau a sicrhau fy mod yn chwarae pob dydd Sadwrn.

"Dwi'n cofio cael fy ngalw i fyny i'r Ewros. E-bost ges i, ac fe gafodd fy nghlwb, Inverness, wybod hefyd.

"Roedd 'na garfan ym mis Mawrth yn erbyn Gogledd Iwerddon a dyna'r garfan cyn cyhoeddi'r un derfynol ar gyfer yr Ewros.

"Roeddwn yn y garfan yna, felly roeddwn yn gwybod fy mod ar y ffordd iawn i fod yng ngharfan yr Ewros.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Owain wedi arlunio sawl digwyddiad cofiadwy o'r bencampwriaeth yn 2016

"Cyn cyhoeddi'r garfan derfynol fe wnaeth Chris Coleman benderfynu mynd a ni allan i Bortiwgal i ymarfer. Roedd 'na bedwar goli yna, ond roeddwn i wedi bod yn rhan o bob carfan i fyny at y pwynt yna.

"Doeddet ti byth yn garantîd o fod yn y garfan am y rheswm fod cymaint o chwaraewyr da.

"Unwaith oeddet ti'n cael yr e-bost yna neu'r clwb yn deud dy fod wedi cael dy alw fyny i chwarae i Gymru, dyna'r adeg lle oedd o'n relief mawr.

"Ond roedd o fel 'na drwy gyfnod y gemau rhagbrofol. Ond mwya'n byd o'r squads oeddet ti fewn gore'n byd oedd dy siawns o fod yn y garfan i fynd i Ffrainc."

'Agosatrwydd y chwaraewyr'

Un peth amlwg iawn yn ystod ymgyrch 2016 Cymru oedd yr agosatrwydd rhwng y chwaraewyr, ac yn ôl Owain roedd gan y rheolwr ar y pryd, Chris Coleman rôl bwysig iawn i chwarae yn hynny.

"Mae popeth yn wahanol tro 'ma. Pan oedd Chris Coleman in charge roedd pob dim yn weddol debyg drwy gydol pob carfan.

"Roedd na ryw ddau neu dri fewn ac allan, ond yn y cyfnod yna o ddwy flynedd doedd 'na ddim lot o newidiadau.

Owain Fôn Williams a Wayne Hennessey
Stu Forster
...fe wneith y crop yma ddod o hyd i'w ffordd eu hunain hefyd.
Owan Fôn Williams

"Roedd y criw yna o chwaraewyr a staff yn union yr un fath.

"Efo hynny rwyt ti'n cael yr agosatrwydd oddi ar y cae, ac ar y cae ti'n cael y ffydd yna.

"Rŵan y cyfan sydd rhaid iddyn nhw 'neud ydi sicrhau eu bod wedi chwarae ar dop ei gêm yn ddiweddar ac i beidio trio chwarae catch up.

"Mae angen bod yn y swing o bethau a chwarae'n dda rŵan."

Nôl ym mis Tachwedd, wedi absenoldeb o bron i bum mlynedd, yn annisgwyl, fe gafodd Owain ei alw eto i ymuno gyda charfan Cymru.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'n amhosib cymharu'r garfan bresenol gyda'r criw oedd yn Ffrainc yn 2016 medd Owain

Dyma oedd y tro cyntaf iddo weld datblygiad y criw ifanc sydd bellach yn rhan o'r garfan, a hefyd gweld rhai o'i hen ffrindiau fel Bale, Ramsey, Allen a Gunter a oedd yn rhan allweddol o'r daith yn 2016.

"Roedd Cymru mewn lle gwahanol bryd hynny i ble maen nhw rŵan am wahanol resymau," meddai.

"Pan es i'n ôl roedd y garfan yn lot ieuengach na fi. Nôl yn Ffrainc roedden ni gyd o gwmpas yr un oedran, rhwng 25 a 31, dyma ble oedden ni i gyd yn ein prime.

"Dyna ble mae Cymru ar hyn o bryd, fe wnaethon ni ein ffordd ein hunain, ac fe neith y crop yma ddod o hyd i'w ffordd eu hunain hefyd.

"Ond mae un peth yn sicr, fe fyddan nhw i gyd yn nerfus rŵan efo cyn lleied o amser ar ôl cyn cyhoeddi'r garfan.

"Wrth gwrs mae 'na rai yn sicr o'u lle, a rhai eraill sydd ar y cyrion yn ysu i wneud argraff yn yr amser prin sydd ar ôl."

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig