Owain Fôn Williams yn arlunio i godi arian i'w glwb

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Owain Fôn Williams yn sgwrsio gyda Catrin Heledd

Ag yntau yn methu ag arddangos ei ddoniau ar gae pêl-droed ar hyn o bryd, mae'r chwaraewr rhyngwladol Owain Fôn Williams wedi mynd ati unwaith eto i roi brwsh ar ganfas i greu.

Nid dim ond lladd amser mae'r golwr 33 oed - mae e wedi penderfynu troi at ei dalent er mwyn codi arian yn ystod argyfwng coronafeirws.

Mae Williams, sy'n wreiddiol o Benygroes ger Caernarfon, ar fenthyg gyda chlwb Dunfermline Athletic yn Yr Alban ar hyn o bryd.

Fe gafodd pêl-droed ei ohirio yn y wlad ar 13 Mawrth ac o ganlyniad, lansiwyd apêl gan gefnogwyr Dunfermline i geisio codi £40,000 er mwyn rhoi hwb i goffrau'r clwb.

'Haeddu ei gyflog'

"Nes i ddechrau meddwl, wel sut fedra i gyfrannu at hyn, beth alla i wneud? Ma' nhw 'di helpu fi ers i fi ymuno fis Ionawr," meddai Williams wrth raglen Dros Ginio BBC Radio Cymru.

"Dwi 'di dod yn ffrindiau mawr efo sawl un yna - yn chwaraewyr ac yn staff.

"Ma' lot o'r staff 'di bod 'na ers blynyddoedd - ma' un dyn yn arbennig 'di bod yna ers 20 mlynedd neu fwy. Mae o'n g'neud bod dim - mae o'n coginio, yn golchi cit, yn golchi lloriau.

"Ma' 'na bobl fel 'na yn bob man - yn y clybiau pêl-droed, rygbi neu griced. Mae o'n haeddu ei gyflog."

LlunFfynhonnell y llun, Owain Fôn Williams
Disgrifiad o’r llun,

Gwaith diweddaraf Owain Fôn Williams

Mae'r apêl eisoes wedi codi dros £30,000. Gobaith Owain yw y bydd ei waith diweddara' yn hwb sylweddol i'r clwb gyrraedd y nod.

"Dwi 'di mynd ati i 'neud llun o gefnogwyr yn cerdded i mewn i'r cae ffwtbol yn Dunfermline - dwi am roi o i'r clwb er mwyn ocsiwn neu ryw fath o raffl i hel pres er mwyn ychwanegu at y targed."

Mwy am coronafeirws
Mwy am coronafeirws

Mae Owain yn hen gyfarwydd ag arlunio, wrth gwrs.

Wedi llwyddiant Cymru ym Mhencampwriaeth Euro 2016 fe aeth ati i roi ar gof a chadw rai o uchafbwyntiau'r gystadleuaeth gydag arddangosfa arbennig o'i waith yn cael ei chynnal yn ei filltir sgwâr.

Mae'r digwyddiad hanesyddol i'r crysau cochion yn dal i'w ysbrydoli.

"Pan gafon ni ein hel adra yn ddiweddar, o'n i'n deud wrtho fi fy hun: 'Be' dwi'n mynd i'w beintio nesa? A bob tro pan dwi'n meddwl am rwbath i beintio, dwi'n cael fy nhynnu i wneud rwbath am yr Ewros!"

'Neidio ar y cyfle'

Dyw Owain ddim wedi bod yn rhan o garfan Ryan Giggs ers iddo gymryd yr awenau yn 2018, ond dyw e ddim wedi'r rhoi'r gorau i'r freuddwyd o fyw Ewros arall.

"Mi fasa fo'n sbesial. Bob tro o'n i'n cael bod yng ngharfan Cymru o'dd o'n rhywbeth i drysori drwy'r amser.

"Taswn i'n cael y ffasiwn gyfle eto, faswn i'n neidio at y cyfle - baswn i'n rhoi fy ngheiniog ola' i gael gwneud a dweud y gwir.

OFW a WHFfynhonnell y llun, Stu Forster
Disgrifiad o’r llun,

Enillodd Owain Fôn Williams (chwith) ei unig gap dros ei wlad yn erbyn yr Iseldiroedd yn 2015

"Does 'na ddim diwrnod yn mynd heibio heb fod rhywun yn gofyn i fi am yr Ewros a bydda i wastad yn ateb gyda gwên ar fy wyneb, achos o'dd o jyst yn freuddwyd i bawb.

"Os na fydda i yn y garfan, mi fydda i yna yn y dorf - ond basa hi'n grêt bod yna fel chwaraewr - ond jyst i weld Cymru mewn twrnament o'r fath eto mae'n freuddwyd i ni gyd!

"A dwi'n siŵr wnawn ni gyd werthfawrogi fo 'chydig bach yn fwy flwyddyn nesa' rŵan."

Hefyd gan y BBC