Dyn wedi marw wrth geisio achub ci o dwll ym Mhowys

  • Cyhoeddwyd
PontypriddFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Cynhaliwyd y cwest yn Llys y Crwner, Pontypridd

Mae cwest wedi clywed sut y bu farw ffermwr o'r canolbarth ar ôl cael ei gladdu o dan bridd tra'n ceisio achub ei gi.

Roedd Gary Davies yn 36 oed ac yn dod o Sant Harmon ger Rhaeadr ym Mhowys.

Bu farw ym mis Ionawr mewn cae ger y dref wrth geisio achub ei gi o dwll yn y ddaear.

Roedd Mr Davies yn briod ac yn dad i dri o blant, ac roedd allan am dro gyda'i gyfnither Clare Burns a ffrindiau eraill ar 13 Ionawr eleni pan aeth ei ddaeargi yn sownd o dan y ddaear.

Mewn datganiad fe ddywedodd Ms Burns wrth y cwest eu bod wedi galw ffermwr lleol - Raymond Rees - am help, a'i fod wedi dod â'i JCB er mwyn gwneud y twnnel yn fwy gan agor twll mawr yn y cae.

'Tynnu llun'

Dywedodd Ms Burns wrth y cwest ym Mhontypridd fod Mr Davies wedi neidio i mewn i'r twll i geisio cael y ci allan, a'i fod yn gorwedd ar ei fol ar y ddaear yn ceisio ymestyn i mewn i'r twnnel i nôl y ci pan gwympodd y twnnel.

Ychwanegodd fod Mr Davies wedi gofyn iddi dynnu llun ohono yn y twll eiliadau cyn iddo ymestyn am y ci.

Dywedodd Ms Burns fod Mr Davies yn sownd o dan y pridd am oddeutu 20 munud cyn i'w ffrindiau lwyddo i'w dynnu oddi yno.

Roedden nhw wedi galw'r gwasanaethau brys ac wedi ceisio adfer Mr Davies.

Aeth y Sarjant Vicky Lloyd o Heddlu Dyfed-Powys i'r safle ac fe ddywedodd hi wrth y cwest, tra'u bod yn aros am yr ambiwlans awyr i gludo Mr Davies i'r ysbyty, bod y ci wedi dod i'r golwg gydag ychydig o waed ar ei drwyn ond dim anafiadau amlwg eraill.

'Dyn tawel a swil'

Roedd Mr Davies yn dad i dri o blant ac roedd wedi bod yn briod ers 2011.

Roedd yn gweithio gyda'i dad a'i frawd ar y fferm deuluol ym mhentre' Sant Harmon ger Rhaeadr.

Dwedodd Emma - ei wraig - wrth y cwest ei fod yn "ddyn tawel a swil" a bod pawb yn gweld ei golled yn fawr.

Bu farw yn Ysbyty'r Frenhines Elizabeth yn Birmingham ar ôl treulio tridiau ar beiriant cynnal bywyd - roedd un o'i ysgyfaint wedi dadchwyddo ac roedd wedi cael niwed i'w ymennydd oherwydd diffyg ocsigen.

Fe gofnododd y crwner cynorthwyol Rachel Knight bod marwolaeth Mr Davies yn ganlyniad i ddamwain ac anffawd.

Pynciau cysylltiedig