Cynghorwyr Môn i gydnabod cyfraniad Noel Thomas
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-bostfeistr a gollodd ei sedd ar Gyngor Môn ar ôl cael ei garcharu ar gam yn sgandal Horizon y Swyddfa Post wedi ei wahodd i seremoni arbennig yn y cyngor sir er mwyn i gynghorwyr allu "cydnabod ei wasanaeth ffyddlon".
Yn 2006 roedd Noel Thomas yn gynghorydd sir Plaid Cymru ac yn gyfrifol am y Swyddfa Post yng Ngaerwen.
Cafodd ei garcharu am naw mis ar ôl cael ei gyhuddo ar gam o fod yn gyfrifol am ddiflaniad £48,000 o gyfri'r Swyddfa'r Post
Roedd Mr Thomas, sydd erbyn hyn yn 74, ymhlith nifer fawr o is-bostfeistri gafodd eu cyhuddo ar gam o dwyll, dwyn neu o gadw cyfrifon diffygiol.
Y gwirionedd oedd bod Horizon, trefn cadw cyfrifon Swyddfa'r Post, yn ddiffygiol.
Fis diwethaf fe wnaeth y Llys Apêl yn Llundain ddileu'r dedfrydau yn erbyn Mr Thomas a 38 o bostfeistri eraill.
Mae disgwyl canlyniad ymchwiliad gan Lywodraeth San Steffan gyhoeddi eu casgliadau i'r sgandal yn ystod yr haf.
Gyda dros 700 o bobl wedi cael eu herlyn o ganlyniad i Horizon rhwng 2000 a 2014, mae'r erlyniadau wedi eu disgrifio fel y camweinyddiad o gyfiawnder mwyaf erioed yn hanes Prydain.
Fe wnaeth Mr Thomas ymddiswyddo o grŵp Plaid Cymru ar y cyngor ac yn ddiweddarach, a chafodd ei ddiarddel fel cynghorydd ar ôl iddo gael ei garcharu.
Nawr mae cynghorwyr Ynys Môn wedi penderfynu bod yn rhaid cydnabod "y camweinyddiad o gyfiawnder ofnadwy a ddigwyddodd".
Mae'r cynghorydd Bob Parry wedi cyflwyno cynnig gerbron y cyngor llawn yn dweud: "Fe wnaeth Noel ddioddef oherwydd system gyfrifiadurol ddiffygiol, ond ar ôl brwydr hir o'r diwedd mae cyfiawnder wedi bod yn drech.
"Roedd Noel yn gynghorydd poblogaidd ac yn golled i'w gymuded, ac alla'i ddim dychmygu pa mor anodd oedd hyn i'w deulu.
"Byddaf byth yn anghofio'r llun yna ohono yn cael ei roi mewn cefn fan yr heddlu, ond fe wnaeth pobl Gaerwen ei gefnogi drwy'r cyfan.
"Mae'n arferol wrth i gynghorwyr ymddeol i roi anrheg iddynt a dwi'n credu byddai hyn yn addas yn yr achos yma, a dwi'n annog chi i gefnogi hyn."
'Dangos parch'
Dywedodd y cynghorydd Aled Morris Jones wrth gyfeirio at y ffaith i Mr Thomas gael ei ethol gyntaf yn 1986: "Mae'r teulu wedi bod drwy uffern dros y blynyddoedd.
"Gall dim math o iawndal wneud yn iawn am yr anghyfiawnder ond mae'n beth iawn ein bod ni fel cyngor yn dangos ein cefnogaeth a'n parch i Noel a'i deulu."
Cafodd cynnig y Cynghorydd Parry ei gefnogi'n unfrydol.
Fe fydd Mr Thomas yn cael gwahoddiad i fynychu'r cyfarfod nesaf o'r cyngor llawn fel bod modd "cynnal pleidlais ffurfiol o ddiolch am ei waith ffyddlon fel cynghorydd sir".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Ebrill 2021
- Cyhoeddwyd23 Ebrill 2021
- Cyhoeddwyd6 Mai 2021