Anghyfiawnder is-bostfeistr yn 'hunllef' i deulu o Fôn
- Cyhoeddwyd
Mae gwraig is-bostfeistr o Fôn a gafodd ei garcharu ar gam wedi siarad am y tro cyntaf am ei phrofiad o weld ei gŵr yn mynd i'r carchar, gan wybod ei fod yn ddieuog.
Dywed Eira Thomas, o Gaerwen, bod y teulu wedi bod drwy hunllef oherwydd y ffordd mae Swyddfa'r Post wedi trin ei gŵr, Noel.
Llwyddodd Mr Thomas i adfer ei enw da ar ôl achos yn y Llys Apêl yn Llundain bythefnos yn ôl.
"Roedden nhw'n gwybod bod o ddim 'di cymryd y pres. Oedd ganddon ni gar second hand," meddai Mrs Thomas.
"Byswn i ddim yn gweithio iddyn nhw eto ar ôl y ffordd ma nhw 'di drin o - byswn i ddim."
Cafodd Noel Thomas, cyn-gynghorydd Plaid Cymru, ei garcharu yn 2006 am gadw cyfrifon ffug fel is-bostfeistr yng Ngaerwen.
Mynnodd ei fod yn ddieuog o'r cychwyn, gan honni mai nam ar system gyfrifiadurol Swyddfa'r Post, Horizon, oedd ar fai.
Roedd yn meddwl mai ef oedd yr unig un nes i raglen materion cyfoes y BBC, Taro Naw, ymchwilio yn 2009 a dod ar draws 30 o bobl eraill oedd yn dweud union yr un peth.
Daeth sylw gan raglenni Saesneg adnabyddus yn ddiweddarach, gan gynnwys Panorama yn 2015.
Ar ôl blynyddoedd o frwydro roedd llawenydd y tu allan i'r Llys Apêl yn Llundain bythefnos yn ôl pan gafodd euogfarnau'n erbyn Mr Thomas a 38 o is-bostfeistri eraill eu dileu.
"Mae hi wedi bod yn 16 mlynedd, ac am y pedair blynedd gyntaf ro'n i'n meddwl mai fi oedd yr unig un," meddai Mr Thomas tu allan i'r llys ar ôl clywed y dyfarniad.
Roedd nifer wedi eu carcharu ar gam, dwsinau wedi colli eu bywoliaeth, a dros 700 wedi cael eu herlyn gan Swyddfa'r Post rhwng 2000 a 2014.
Dyma'r achos mwyaf o anghyfiawnder yn hanes Prydain ac mae disgwyl y bydd rhagor yn clirio eu henwau mewn amser, ond ni fydd yn cael gwared ar y creithiau sydd ganddyn nhw ers 15 mlynedd.
"'Naeth Sian y ferch ffonio o'r achos llys [cyntaf yng Nghaernarfon] a dyma dd'wedodd hi - 'di dad ddim yn dod adre'. O'n i'm yn dallt be' o'dd hi'n feddwl," meddai Mrs Thomas.
Doedd neb wedi disgwyl y byddai Mr Thomas yn cael ei ddedfrydu i naw mis dan glo.
Roedd wedi cael ei berswadio i dderbyn "deal" gan ei gyn-gyflogwyr i bledio'n euog i gadw cyfrifon ffug a pheidio rhoi bai ar system Horizon er mwyn osgoi mynd i'r carchar am ddwyn.
"Pan aeth o i jêl oedd y pwynt isa'. Oeddan nhw yn ei ddangos o ar y teledu yn mynd i'r fan fawr 'na. Mi griais i' mhen i ffwrdd," meddai Mrs Thomas.
"O'n i'n meddwl 'Ti ddim i fod yn fa'na Noel bach, ti fod adre efo ni'."
'Disgyn o dop yr ysgol i'r gwaelod'
Roedd bod yng Ngharchar Kirkham ger Preston dros y Nadolig a'i ben-blwydd yn 60 oed yn ddigon drwg, ond dod adref ar ôl cwblhau ei ddedfryd i wynebu'r bywyd gwahanol oedd o'i flaen o oedd y peth anoddaf, meddai Mr Thomas.
"Oeddach chi 'di disgyn o dop yr ysgol i'r gwaelod," meddai.
"'O'n i'n ennill £30,000 fel is-bostfeistr a rhwng £11,000 a £15,000 fel cynghorydd. Oeddach chi yn colli hwnna i gyd.
"Oeddach chi'n colli eich parch, a natur pobl oedd 'ma hwnna 'di dwyn'.
"Mi gefais i fo ar ôl dod adre o jêl a mynd i Asda rhyw ddiwrnod a rhywun yn gweiddi dros y lle, 'gwatchwch, mae'r lleidr 'di cyrraedd'."
Mae Eira a Noel Thomas yn briod ers 52 o flynyddoedd. Llynedd fe gollon nhw eu mab hynaf, Arfon, yn 51 oed, ar ôl salwch byr.
"Posti oeddan ni yn ei alw fo, am bo' fi 'di bod yn y post," meddai Mr Thomas.
"Mi fyswn i 'di licio ei weld o efo fi yn Llundain, bysan ni wedi bod yn siŵr o ffeindio rhywle i ddathlu, achos fydda Posti yn licio ei beint."
'Oll dwi isio ydy fy mhres yn ôl'
Mae Noel Thomas bellach yn 74 ac yn dal i weithio mewn canolfan arddio leol - wedi gorfod gwneud ar hyd y blynyddoedd ar ôl colli ei fywoliaeth.
Mae Swyddfa'r Post wedi cael gorchymyn i dalu £58m o iawndal ond dim ond £12m sydd ar ôl i'w rannu rhwng 550 ohonyn nhw ar ôl talu'r costau cyfreithiol. A fydd iawndal yn gysur?
"Na, fydd dim really yn gysur. Yr unig beth dwi 'di ofyn amdano o'r dechrau ydy fy mhres yn ôl," meddai Mr Thomas.
"Dwi' di neud y sym lawer gwaith, ag mi golles i tua chwarter miliwn - fy mhensiwn a ballu - ac felly cael fy mhres yn ôl ydy'r peth cynta'.
"Os daw 'na fwy, nai ddim ei wrthod o. Mae gen i dri o blant ifanc yn y teulu a 'da ni newydd ddod yn hen daid a nain ac felly dwi'n gobeithio 'neith o helpu'r rheiny."
Ac felly gorfoledd ar y naill law - a newid byd ar y llall - i'w ferch Sian hefyd, sydd wedi bod wrth ei ochr o'r cychwyn cyntaf.
"Nes i roi fy mywyd ar hold mewn ffordd i drio cael cyfiawnder iddo fo, gwerthu fy nhŷ a symud i mewn atyn nhw i gefnogi nhw a dwi yma byth," meddai Siân.
"Dwi 'di bod yn ysgrifenyddes i dad ar hyd y blynyddoedd, yn helpu efo pethau fel Zoom a ballu achos 'di o ddim yn dallt nhw.
"Dwi'n gobeithio gawn nhw iechyd rŵan, mae ganddyn nhw lot o gariad, a dwi isio iddyn nhw gael llonydd."
Maen nhw'n bwriadu dathlu gyda'u teulu estynedig a chyfeillion pan fydd yn ddiogel iddyn nhw gymysgu yn rhydd - gyda'r gwir wedi ei gydnabod yn gyhoeddus o'r diwedd - ei fod yn ddieuog o unrhyw drosedd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Ebrill 2021
- Cyhoeddwyd2 Hydref 2020
- Cyhoeddwyd15 Mawrth 2019