Barbeciws a thorheulo ger tirlithriad Nefyn yn 'wirion bost'

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Dyma'r foment y digwyddodd tirlithriad ar draeth Nefyn

Mae'n fis ers i dirlithriad enfawr achosi anrhefn yn Nefyn, Pen Llŷn - ac mae'r pryderon am ddiogelwch yn parhau yno.

Mae cannoedd wedi heidio yno ers y digwyddiad i weld y difrod ac yn mentro'n agos iawn at y safle - rhai hyd yn oed wedi'u gweld yn torheulo neu gael barbeciws yno.

Mae'r sefyllfa wedi codi ofn ar y trigolion lleol, ac mae galw am wneud mwy i rybuddio pobl am y peryglon.

Un o'r trigolion lleol sy'n poeni ydy Joan Coppin.

"Dwi 'di gweld rhai yn cael barbeciw ar y creigiau ddyddiau 'nôl, pobl yn cerdded dros y peth," meddai.

"Dwi'n meddwl bod pobl yn wirion bost i wneud pethau felly.

"Mae o'n fwd, mae o'n glai, mae o'n dywod - pwy sy'n d'eud bod o ddim yn mynd i suddo? Pwy sy'n d'eud nad oes 'na fwy yn mynd i ddod?

"Mae 'na 19 o ddarnau o dir wedi disgyn ar hyd yr arfordir yma a ma' pobl yn dal i wneud petha' gwirion."

Ffynhonnell y llun, Christian Pilling
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd gerddi dau dŷ eu sgubo ymaith pan gwympodd darn enfawr o glogwyn uwchben traeth Nefyn ym mis Ebrill

Mae Mali Parry Jones yn byw ym Morfa Nefyn ac yn gwirfoddoli hefo'r RNLI ym Mhorthdinllaen.

"Mae o'n reit frawychus a bod yn onest, y bobl sy' wedi gosod eu tywelion ar lawr a phenderfynu treulio 'chydig oriau yno'n torheulo neu gael picnic," meddai.

"Mae o'n codi ofn braidd bod nhw mor agos i'r tirlithriad a heb lot o synnwyr cyffredin o feddwl y gall o ddigwydd eto.

"Yn amlwg mae wedi bod yn fis gymharol dawel - dydy'r tywydd ddim wedi bod yn wych dros y mis diwetha' sy' 'falla wedi helpu i gadw pobl draw.

Ffynhonnell y llun, Joan Coppin

"Ond 'da ni ar drothwy gwyliau Sulgwyn a'r gwyliau ha', fydd 'na gannoedd os nad miloedd yn heidio i'r traeth yma yn Nefyn fel gweddill Pen Llŷn.

"Felly ma' angen bod yn ofalus achos does 'na ddim rhybudd o fath yn y byd pan mae'r tirlithriadau 'ma yn digwydd. Mi alla' nhw ddigwydd unrhyw adeg o'r dydd a'r nos."

'Rhoi eu bywydau mewn peryg'

Yn ôl yr Ymgynghorydd Peirianneg Sifil Dewi Jones, y llanw ydy'r peryg mwya'.

"Tywod ydy mwyafrif yr ochr sy' 'ma - all rhywbeth ddigwydd ar ôl i lanw fod yn ei waelod o," meddai. "Hwnnw ydy sylfaen yr ochr i gyd.

"Mae'r arwyddion yno i bawb weld ac mae o'n lle sy'n ansefydlog. Yn sicr maen nhw'n rhoi eu bywyd mewn peryg os ydyn nhw'n mynd yno."

Mewn datganiad, dywedodd Cyngor Gwynedd: "Yn dilyn y tirlithriad ar draeth Nefyn y mis diwethaf, mae'r Cyngor wedi gosod nifer sylweddol o arwyddion yn rhybuddio'r cyhoedd am y perygl ac yn cynghori'r cyhoedd i gadw draw oddi wrth y clogwyni a'r domen glai a tywod y tirlithriad.

"Mae'r blaendraeth islaw Marc Dŵr Uchel Cymedrig yn berchen y Goron ac Asiant Y Goron sydd â chyfrifoldeb am y blaendraeth.

"Er hyn, mae Cyngor Gwynedd wedi gosod yr arwyddion er tynnu sylw at y perygl ac yn ddiweddar, yn sgil sylw gan gynghorydd lleol, wedi codi mwy o arwyddion yn agosach at y domen.

"Mae yna gyfrifoldeb ar y cyhoedd i dalu sylw at y cyfarwyddyd sydd ar yr arwyddion ac yn cadw draw o'r clogwyni."

Fe gysylltodd BBC Cymru gydag Ystâd y Goron ac maen nhw'n dadlau nad ydy'u perchnogaeth nhw'n ymestyn i'r traeth cyfan, dim ond y rhan rhwng llanw isel ac uchel.

Disgrifiad o’r llun,

"Fasa ni'n licio tasa rhywun yn cymryd rhyw fath o gyfrifoldeb," medd Catrin Roberts

Yn ôl Catrin Roberts o Gyngor Tref Nefyn, mae'r dryswch ynglŷn â phwy sy'n gyfrifol yn y pen draw am y traeth yn achosi rhagor o bryder.

"Mae 'na ddryswch ynglŷn â'r tir - mae o fel rhyw fath o dir neb pan mae'n dod i drio cael trefn ar y sefyllfa," meddai.

"Y Goron sy'n berchen ar y traeth - 'da ni wedi bod mewn cysylltiad efo nhw i drio cael trafodaethau ond hyd yn hyn 'does 'na ddim ymateb wedi dod.

"Fasa ni'n licio tasa rhywun yn cymryd rhyw fath o gyfrifoldeb - nid jyst gosod arwyddion i fyny, ond rhyw fath o arweiniad o ran be' ddylia ddigwydd.

"Mi gafodd 'na asesiad ei wneud yn 2001, yn dilyn tirlithriad angheuol. A ydy'n amser rŵan, 20 mlynedd yn ddiweddarach, i gynnal asesiad arall o'r sefyllfa i weld be' ydy natur y clogwyni erbyn hyn?

"Mae'n dirwedd cleiog, mae'n dirwedd meddal - mae o'n mynd i fod yn dal i lithro drwy'r amser. Ond fasa ni'n licio tasa rhywun yn cymryd mwy o berchnogaeth o'r sefyllfa."

Pynciau cysylltiedig