Cynnydd 25% mewn negeseuon twyllodrus yn y pandemig

  • Cyhoeddwyd
Person yn edrych ar ffôn symudol gyda cherdyn yn ei law arallFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae adroddiadau o dwyll yng Nghymru wedi cynyddu 25% ers dechrau'r pandemig, yn ôl data newydd.

Yn ôl ffigyrau Action Fraud roedd cyfanswm o 18,061 o adroddiadau o dwyll yng Nghymru o fis Ebrill 2020 i fis Mawrth 2021, i fyny o'r 14,277 yn y flwyddyn flaenorol.

Mae BBC Cymru wedi siarad â rhai sy'n dweud eu bod nhw wedi sylwi ar gynnydd yn y nifer o alwadau o rifau ffôn sydd gyda bron union yr un rhif a'u rhifau ffôn nhw.

Mae Safonau Masnach Cymru wedi rhybuddio pobl i beidio clicio ar linciau mewn negeseuon testun.

Y mathau mwyaf cyffredin o dwyll a gafodd eu hadrodd yng Nghymru oedd siopa ar-lein a thwyll ocsiwn, twyll talu ffi o flaen llaw a thwyll gwasanaeth meddalwedd cyfrifiadurol.

Dros Gymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, roedd 389,328 o adroddiadau o dwyll, gan olygu cyfanswm colledion o £1.7bn.

I bob 100,000 o bobl, roedd 575 o adroddiadau o dwyll yng Nghymru, o'i gymharu â 650 o adroddiadau am bob 100,000 yn y dair gwlad.

Dywedodd elusen Cymorth i Ddioddefwyr ei bod wedi derbyn ar gyfartaledd 716 o ymgynghoriadau twyll yn ystod tri mis cyntaf 2021, o'i gymharu â 371 yn ystod yr un cyfnod yn 2020.

Yn ogystal dywedodd yr elusen bod 7,617 o ymgynghoriadau twyll yng Nghymru rhwng Ebrill 2020 a Mawrth 2021, o'i gymharu ag ond 4,536 dros y 12 mis cyn hynny - cynnydd o bron 70%.

'Cynnydd amlwg' galwadau ffôn twyllodrus

Mae nifer o bobl wedi dweud wrth BBC Cymru eu bod nhw wedi profi cynnydd yn y nifer o alwadau ffôn twyllodrus maen nhw wedi eu derbyn dros y misoedd diwethaf.

Dywedodd Lloyd Warburton, myfyriwr o Aberystwyth, ei fod wedi derbyn nifer o alwadau o rifau ffôn nad oedd yn eu hadnabod, ond oedd â rhifau tebyg iawn i'w rif ffon ef.

Ffynhonnell y llun, Lloyd Warburton
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Lloyd Warburton bod yna "gynnydd nodedig" yn y galwadau yn ddiweddar

Dywedodd: "Dwi ddim yn cael lot o alwadau sgamio. Maen nhw'n tueddu i ddod mewn clystyrau.

"O'n i'n arfer cael nhw eitha' lot, ond wedyn stopion nhw am rai blynyddoedd. Mae yna gynnydd nodedig wedi bod, byswn i'n dweud, dros y naw mis diwethaf.

"Dwi'n cael pob math o bethau. Y rhifau sy'n ffugio bod yn bobl eraill yw'r mwyaf cyffredin, ond dwi'n derbyn negeseuon testun yn eitha' aml yn hawlio bod yna barsel yn aros i fi i gasglu, pan maen nhw'n amlwg o ffôn symudol rhywun."

'Dim cyd-ddigwyddiad'

Dywedodd Peter Irvine, myfyriwr ym Mhrifysgol Caerfaddon, sydd o Aberaeron yng Ngheredigion, ei fod wedi sylwi ar rywbeth tebyg yn gynt eleni.

"Derbyniais i'r alwad gyntaf ar 15 Chwefror y flwyddyn hon, o'n i'n meddwl bod e'n od bod gan y rhif ffôn yr un chwe rif cyntaf a fy rhif i. Atebais ac roedd e'n hollol dawel, ac yna gafodd y ffôn ei roi lawr ar ôl," meddai.

Dywedodd Mr Irvine ei fod wedi derbyn galwad arall yn hwyrach y mis yna, o rif ffôn gyda'r un saith digid cyntaf a'i rif ffôn ef ac mae wedi cael wyth mwy o'r galwadau yma yn ystod y gwanwyn.

"Mae ganddyn nhw i gyd yr un chwech neu saith digid sy'n cyfateb i'n rhif i, felly dwi ddim yn meddwl ei fod yn gyd-ddigwyddiad erbyn hyn," meddai.

Sut mae osgoi galwadau a negeseuon twyll?

Dywedodd Alison Farrar, o Safonau Masnach Cymru, bod yna neges destun twyllodrus newydd yn cylchredeg sy'n ymwneud â'r cyfrifiad, a rhybuddiodd bobl i beidio clicio ar unrhyw linciau ynddo.

"Mae galwadau a negeseuon sgamio i ffonau symudol yn broblem ddifrifol, does dim byd tebyg i blociwr galwadau ar gyfer ffonau symudol er mwyn atal nhw rhag dod drwyddo," meddai.

"Mae rhai o'r negeseuon yma'n realistig iawn. Cofiwch, na fyddai unrhyw asiantaeth lywodraethol yn anfon hysbysiad yn gofyn am arian trwy neges destun neu neges ffôn wedi ei recordio.

"Os ydy cwmni yn anfon chi linc ar neges destun i glicio, anwybyddwch hi. Os rydych yn ansicr oherwydd bod gennych chi gyfrif gyda'r cwmni yna, cysylltwch â'r cwmni'n uniongyrchol a pheidiwch ddefnyddio'r linc a ddarparwyd."

Dywedodd heddluoedd Cymru y dylai unrhyw negeseuon testun twyllodrus gael eu hanfon ymlaen at y canolfan ddiogelwch seibr ar 7726, a dylai e-byst gael eu hanfon ymlaen at report@phishing.gov.uk.

Pynciau cysylltiedig