Abertawe'n cyrraedd rownd derfynol y gemau ail gyfle
- Cyhoeddwyd
Mae Abertawe wedi sicrhau lle yn rownd derfynol gemau ail gyfle'r Bencampwriaeth ar ôl trechu Barnsley dros ddau gymal y rownd gynderfynol.
1-1 oedd y sgôr ar ddiwedd gêm gyffrous nos Sadwrn - y gyntaf o flaen torf yn Stadiwm Liberty ers dechrau'r pandemig.
Ond yr Elyrch sy'n mynd drwodd - 2-1 - wedi'r fuddugoliaeth yn y cymal cyntaf oddi cartref nos Lun.
Brentford fydd eu gwrthwynebwyr yn rownd derfynol y gemau ail gyfle yn Stadiwm Wembley ddydd Sadwrn, 29 Mai.
Fe gurodd Brentford Bournemouth 3-1 yn y gêm gynnar ddydd Sadwrn - 3-2 dros y ddau gymal - mewn gêm a welodd amddiffynnwr Cymru, Chris Mepham yn cael cerdyn coch am drosedd broffesiynol.
Doedd yna ddim cymaint o ddrama yn yr ail gymal rhwng Abertawe a Barnsley, ond roedd yn gêm llawn tyndra.
Sgoriodd Matt Grimes chwip o gôl o ymyl y cwrt cosbi i roi'r Elyrch ar y blaen yn yr hanner cyntaf.
Unionodd Barnsley y sgôr yn haeddiannol ar ôl yr egwyl wrth i Cauley Woodrow ergydio'n rymus ar ôl gwrth-ymosodiad chwim.
Rhoddodd yr ymwelwyr Abertawe dan bwysau trwm gyda pherfformiad corfforol, uniongyrchol ond roedd yr Elyrch yn gadarn, a'u hamddiffynwyr ifanc Ben Cabango a Marc Guehi oedd sêr y gêm unwaith eto.
Y nod nawrfydd curo Brentford a dychwelyd i Uwch Gynghrair Lloegr am y tro cyntaf ers 2018.
Bydd Abertawe yn awyddus i dalu'r pwyth yn ôl yn erbyn Brentford ar ôl colli yn erbyn y tîm o Lundain yn rownd gynderfynol y gemau ail gyfle tymor ddiwethaf.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Mai 2021
- Cyhoeddwyd17 Mai 2021