Ymosodiad Cei Connah: Ymchwiliad llofruddiaeth

  • Cyhoeddwyd
Heddlu yn nhafarndy'r Old Quay House ddydd Sul
Disgrifiad o’r llun,

Roedd swyddogion heddlu'n parhau i ymchwilio i'r achos yn yr ardal ddydd Sul

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn cynnal ymchwiliad llofruddiaeth wedi ymosodiad yng Nghei Connah ddydd Sadwrn.

Maen nhw wedi cadarnhau bod dyn lleol 31 oed, Dean Michael Bennett, wedi marw yn sgil y digwyddiad yn ardal Ffordd y Doc.

Cafodd yr heddlu eu galw am 17:03 gan y gwasanaeth ambiwlans wedi adroddiadau bod dyn wedi cael ei drywanu yn ardal Ffordd y Doc.

Cafodd Mr Bennett ei gludo mewn ambiwlans awyr i Ysbyty Aintree yn Lerpwl ond fe gadarnhawyd ei fod wedi marw yn fuan wedi iddo gyrraedd.

Dywed yr heddlu bod tri pherson yn y ddalfa wedi eu harestion ar amheuaeth o lofruddiaeth - dynes 46 oed, dyn 35 oed a merch 16 oed.

"Rydym yn cydymdeimlo o'r galon gyda theulu a ffrindiau Dean ar yr adeg eithriadol anodd yma," meddai'r Ditectif Prifarolygydd Sion Williams.

"Rydym yn deall bod digwyddiad difrifol fel hyn wedi achosi llawer o bryder yn y gymuned leol a hoffwn roi sicrwydd i drigolion ein bod yn gwneud popeth posib i gadarnhau beth wnaeth ddigwydd."

"Mae swyddogion ar batrôl yn yr ardal ac mae cordon yr heddlu'n parhau yn ei le."

Mae'r llu'n apelio am wybodaeth gan unrhyw un a welodd y digwyddiad neu oedd yn ardal Ffordd y Doc ychydig cyn 17:00 ddydd Sadwrn.

Pynciau cysylltiedig