Gwyddonwyr Aberystwyth i arwain prosiect cnwd biomas
- Cyhoeddwyd
Mae gwyddonwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth i chwarae prif ran mewn consortiwm sydd wedi ei ddewis i ddatblygu cnwd biomas newydd i geisio lleihau nwyon tŷ gwydr o'r amgylchedd.
Bydd gwyddonwyr IBERS (Athrofa y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig) yn Aberystwyth yn rhan o gynllun gwerth dros £30m dros gyfnod o bedair blynedd a hanner.
Mae'r prosiect hefyd yn ymwneud â cheisio adfer tir mawn fel rhan o'r ymdrechion i leihau nwyon tŷ gwydr.
Byddant yn gweithio ar y cyd gyda phartneriaid eraill gan gynnwys gwyddonwyr o Fangor a phrifysgolion Aberdeen a Chaerloyw.
Maent â diddordeb arbennig mewn datblygu cnydau bio-ynni fel helyg a Miscanthus.
Mae nifer o orsafoedd pŵer ym Mhrydain bellach wedi troi at losgi cnydau bio-ynni.
Gan fod y cnydau yn tynnu carbon deuocsid o'r amgylchedd, maent yn cael eu gweld fel modd carbon isel o greu trydan.
Dywedodd Athro Iain Donnison, pennaeth IBERS: "Bydd y prosiect yma, rydym yn cael yr anrhydedd o arwain, yn gwneud cyfraniad pwysig i gyrraedd targedau newid hinsawdd sydd mor bwysig i amddiffyn dyfodol ein planed."
Fe fydd canlyniadau'r gwaith ymchwil yn cael ei ddefnyddio i gynghori penderfyniadau'r llywodraeth yn y tymor hir ar y dechnoleg sydd ar gael i fynd i'r afael a newid hinsawdd.
Byddant hefyd yn cael eu defnyddio i leihau allyriadau CO2 er mwyn cwrdd â tharged o allyriadau carbon net sero erbyn 2050.
Bydd rhan o'r gwaith yn golygu cydweithio gyda Chanolfan Ecoleg a Hydroleg y DU ym Mangor ar brosiect adfer tir mawn.
Dywedodd Dr Mariecia Fraser o Brifysgol Aberystwyth: "Yn eu cyngor mwyaf diweddar i Lywodraeth Cymru, fe wnaeth y Pwyllgor Newid Hinsawdd awgrymu y dylai 40,000 hectar o fawn yng Nghymru cael ei adfer erbyn 2050 fel rhan o gyfraniad Cymru i fynd i'r afael a newid hinsawdd."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd18 Tachwedd 2020