Ynni gwyrdd: Hen ardaloedd diwydiannol 'i elwa'

  • Cyhoeddwyd
AllyriadauFfynhonnell y llun, PA

Mae ardaloedd diwydiannol o Gymru sydd wedi dioddef o ddirywiad dros y blynyddoedd ar fin elwa o gynllun hir ddisgwyliedig i geisio mynd i'r afael â newid hinsawdd, medd Llywodraeth y DU.

Y nod yw creu 250,000 o swyddi gwyrdd ledled y DU wrth dorri ar allyriadau.

Mae Port Talbot yn cael ei enwi fel un o'r canolfannau pwysig ar gyfer llwyddiant y cynllun.

Mae cyllid hefyd yn cael ei addo ar gyfer datblygu cynlluniau newydd ar gyfer adweithyddion niwclear bach.

Mae'r cwmni y tu ôl i'r cynlluniau - Rolls Royce - wedi dweud wrth BBC Cymru ei bod yn debyg mai Trawsfynydd fyddai'r safle cyntaf ar gyfer adeiladau atomfa o'r fath.

Mae disgwyl i fanylion llawn Cynllun Hinsawdd Boris Johsnon i gael eu datgelu ddydd Mercher.

Dywed Llywodraeth y DU fod y cynlluniau hefyd yn cynnwys cyllid ar gyfer datblygu cynhyrchu batris ar gyfer ceir trydan ar raddfa eang - gan gynnwys lleoliad yng ngogledd Cymru.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd atomfa niwclear Trawsfynydd ei hagor yn 1958 ac roedd hi'n cynhyrchu trydan nes 1991.

Bydd gwaharddiad ar werthu ceir a faniau petrol a disel newydd yn cael ei symud i 2030, ddegawd yn gynt na'r disgwyl.

Dywedodd Ysgrifennydd Cymru Simon Hart bod y DU "mewn lle da iawn i yrru ymlaen a datgarboneiddio ynni, diwydiant, a chartrefi ac i fod yn ganolbwynt ar gyfer arloesed mewn technolegau gwyrdd".

Mae'r llywodraeth yn dweud ei bod eisiau i'r DU arwain y byd wrth storio carbon - hynny yw datblygu technolegau i ddal allyriadau o ddiwydiant a'u claddu dan ddaear neu eu troi'n gemegau defnyddiol.

Ond ar hyn o bryd mae'n waith arbrofol iawn sydd heb lwyddo i greu'r argraff yr oedd rhai wedi dymuno flynyddoedd yn ôl.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywed y llywodraeth fod Port Talbot yn un o bedwar canolfan posib ar gyfer technoleg storio carbon

Mae'r Prif Weinidog yn dweud ei fod yn bwriadu gwario £200m ar ben £800m sydd eisoes wedi'i glustnodi i greu canolfannau fydd yn canolbwyntio ar ddatblygu'r dechnoleg.

Mae pedwar "clwstwr" wedi'u haddo cyn 2030.

Byddai Port Talbot - tre'r gwaith dur enwog - yn un ardal sy'n debygol o elwa - yn ogystal â Grangemouth, Glannau Mersey, Teeside a Humber.

Yn ôl y corff sy'n cynghori'r llywodraeth - y Pwyllgor Newid Hinsawdd - fe allai technoleg storio carbon chwarae rôl bwysig yng Nghymru gan fod ganddi fwy na'i siâr o allyriadau o sectorau sy'n 'anodd i'w lleihau' - fel diwydiant trwm.

Ffynhonnell y llun, BOWL

O ran ynni niwclear - mae'r cyhoeddiad yn addo £525m o gyllid - gan gynnwys i ddatblygu'r genhedlaeth nesaf o adweithyddion bychain.

Mae consortiwm sy'n cael ei arwain gan Rolls Royce wedi cyhoeddi cynlluniau i adeiladu 16 o'r pwerdai bach ar draws y DU, gyda Thrawsfynydd yn cael ei ystyried fel lleoliad ffafriol.

Mae £240m hefyd yn cael ei gyhoeddi ar gyfer datblygu safleoedd cynhyrchu hydrogen - ac er nad yw'n glir ble fydd y rhain yn cael eu lleoli - mae arbenigwyr ar y diwydiant wedi dadlau ers tro bod gan Gymru lawer o botensial.

Mae'r cyhoeddiad yn ailadrodd uchelgais y Prif Weinidog i gynhyrchu digon o ynni gwynt oddi ar yr arfordir i gyflenwi pob tŷ yn y DU, er bod cyllid yn y maes hwn yn ymddangos fel petai'n mynd at yr Alban a gogledd ddwyrain Lloegr am y tro.