Hal Robson-Kanu ddim yng ngharfan ymarfer Cymru
- Cyhoeddwyd
Nid yw ymosodwr West Bromwich Albion, Hal Robson-Kanu, wedi ei gynnwys yng ngharfan ymarfer Cymru cyn Euro 2020.
Roedd Robson-Kanu yn un o ser cystadleuaeth 2016, ac mae wedi dychwelyd i'r tîm cenedlaethol yn ddiweddar ar ôl camu i ffwrdd yn 2018.
Mae rheolwr dros dro Cymru, Rob Page, yn cynnal gwersyll hyfforddi ym Mhortiwgal cyn enwi ei garfan derfynol ar gyfer y gystadleuaeth ddydd Sul.
Gan nad yw Robson-Kanu wedi teithio, mae'n edrych yn annhebygol y bydd yn cael ei gynnwys yn y garfan derfynol o 26.
Mae 'na enwau mawr arall sydd ddim wedi eu cynnwys, fel Daniel James, Connor Roberts a Ben Cabango - sydd dal gyda'u clybiau ar gyfer gemau olaf y tymor.
Mae'r gwersyll ymarfer yn baratoad ar gyfer gemau cyfeillgar yn erbyn Ffrainc ac Albania ddechrau Mehefin.
Carfan ymarfer Cymru: Wayne Hennessey, Danny Ward, Adam Davies, James Lawrence, Ben Davies, Joe Rodon, Chris Mepham, Chris Gunter, Rhys Norrington-Davies, Neco Williams, Joe Allen, Joe Morrell, Ethan Ampadu, Matthew Smith, Jonathan Williams, Kieffer Moore, Aaron Ramsey, Harry Wilson, Gareth Bale, David Brooks, Tyler Roberts, Tom Lawrence, Rabbi Matondo, Dylan Levitt, Tom Lockyer, Rubin Colwill, Mark Harris, George Thomas.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Mai 2021
- Cyhoeddwyd5 Mai 2021