Euro 2020: Penodi Page i roi 'eglurder' i dîm Cymru

  • Cyhoeddwyd
Robert PageFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Mae Robert Page yn credu y bydd ei benodi'n rheolwr Cymru ar gyfer pencampwriaeth Euro 2020, sy'n dechrau fis nesaf, yn rhoi "eglurder" i'w garfan.

Page fydd prif hyfforddwr y tîm cenedlaethol wedi i'r rheolwr Ryan Giggs gael ei gyhuddo o ymosod ar ddwy fenyw ac o reoli ymddygiad ei gyn-gariad drwy orfodaeth.

Page oedd cymhorthydd Giggs cyn dirprwyo drosto wrth i Gymru baratoi ar gyfer Euro 2020 a dechrau'r ymgyrch i gyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd 2022.

"Mae'r amgylchiadau'n anodd," medd Page. "Does dim cuddiad rhag hynny... ond dyna'r sefyllfa ac rydym yn delio ag e yn y ffordd orau bosib."

'Canolbwyntio ar y job o'n blaenau'

Ychwanegodd bod aelodau'r garfan, wrth hyfforddi a chwarae gyda'i gilydd ers i'r cyhuddiadau ddod i'r amlwg, "wedi ymateb mewn ffordd bositif, a heb eu heffeithio ganddo o gwbl".

"Dilyniant yw'r hyn y mae'r chwaraewyr yn ei ddymuno. Diolch i'r drefn, rydym yn glir o ran beth sydd am ddigwydd, sef fi, y chwaraewyr a phawb sydd ynghlwm â'r tîm.

"Gallwn ni ganolbwyntio ar y job o'n blaenau, sef cynllunio a pharatoi tîm sy'n barod i gystadlu yn yr Euros".

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Gwadodd Ryan Giggs y cyhuddiadau yn ei erbyn mewn gwrandawiad yn Llys Ynadon Manceinion ddiwedd Ebrill

Fe gadwodd Page mewn cysylltiad gyda Giggs wrth ddirprwyo drosto, gan drafod materion tactegol a dewis chwaraewyr.

Ond gan na fydd Giggs â rhan mwyach ym mhencampwriaeth Euro 2020, Page fydd â'r gair olaf, gyda chefnogaeth ei gyd-hyfforddwyr Albert Stuivenberg a Kit Symons, y pennaeth perfformiad Tony Strudwick a hyfforddwr y golwyr, Tony Roberts.

Dywed Page bod Giggs wedi dweud "bydd e wastad yna petawn i angen cyngor neu olwg wahanol ar bethau".

"Mae'n wych clywed hynny ond yn y pen draw, bydd yr holl benderfyniadau o hyn ymlaen yn rhai fi, Albert, Tony Strudwick, Tony Roberts a'r gweddill fel grŵp."

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Is-hyfforddwr Arsenal, Albert Stuivenberg (chwith) fydd yn cynorthwyo Robert Page ym mhencampwriaeth Euro 2020

"Mae wedi bod yn anodd ond mae'r sefyllfa'n glir nawr - i'r chwaraewyr, cefnogwyr a Chymdeithas Bêl-droed Cymru.

"O safbwynt y staff, ry'n ni'n canolbwyntio'n gyfan gwbl ar yr hyn sydd o'n blaenau a ry'n ni oll yn edrych ymlaen ato."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Sgoriodd Harry Wilson wrth i Wlad Belg guro Cymru ar ddechrau ymgyrch rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd 2022

Bydd angen i Page ddewis carfan Cymru ar gyfer Euro 2020 erbyn 1 Mehefin.

Mae Uefa'n caniatáu hyd at 26 o chwaraewyr yn lle'r 23 arferol i leihau'r pwysau ar chwaraewyr wedi i'r pandemig fyrhau tymhorau clybiau pêl-droed. Ond 23 o chwaraewyr yn unig fydd ymhob carfan ar ddiwrnod gemau.

Mae amddiffynnwr Tottenham, Ben Davies a chwaraewr canol cae Stoke, Joe Allen ymhlith chwaraewyr Cymru sy'n gwella o anafiadau.

Mae Page yn disgwyl i'r ddau fod yn holliach erbyn gêm agoriadol Cymru yn erbyn Y Swistir yn Baku ar 12 Mehefin, ac yn croesawu gallu enwi carfan fwy na'r arfer.

"Mae sawl gêm eto i fynd [o fewn y tymor domestig] a dwi'n dal fy anadl," meddai. "Dwi eisiau i bawb ddod drwyddi'n ddi-anaf.

"Mae wedi bod yn dymor heriol i'r chwaraewyr... mae'n rhoi cwpwl o wythnosau a gemau yn ychwanegol i'w cael nhw'n ôl yn holliach."

Dadansoddiad gohebydd chwaraeon BBC Cymru, Dafydd Pritchard

Mae wedi bod yn gyfnod ansicr i Gymdeithas Bêl-droed Cymru, felly mae sylwadau Robert Page yn symbolaidd o awydd pawb sy'n gysylltiedig â thîm Cymru i ganolbwyntio ar yr haf pwysig sydd o'u blaenau.

Er bod Ryan Giggs yn absennol, mae presenoldeb Page yn sicrhau rhywfaint o gysondeb. Roedd Page yn is-hyfforddwr dan Giggs, ac mae cyn-amddiffynnwr rhyngwladol Cymru wedi dangos fod ganddo'r gallu i gymryd yr awenau.

Pan roedd Page wrth y llyw dros dro ym mis Mawrth a mis Tachwedd, enillodd Cymru pedair o'u chwe gêm, a daeth yr unig golled yn erbyn Gwlad Belg, y tîm ar frig rhestr detholion y byd.

Mae chwaraewyr Cymru yn hoff o Page ac yn ei alw'n 'Pagey' - ond maen nhw hefyd yn ei barchu.

Ar ôl iddo ddangos dros y chwe mis diwethaf ei fod yn ddirprwy dibynadwy, gobaith Cymru'r haf yma yw y bydd Page yn blodeuo i fod yn rheolwr ysbrydoledig.