Galw am symud arwydd Caerfyrddin a 'gostiodd £340,000'

  • Cyhoeddwyd
arwydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae galwadau am symud yr arwydd gan ei fod yn "aneffeithiol ac o bosib yn achosi perygl i yrwyr"

Mae ffrae wedi codi yng Nghaerfyrddin wedi i arwydd gael ei godi yn ymyl ffordd ddeuol brysur yn y dref.

Mae pobl leol wedi ymateb yn chwyrn i'r arwydd sydd â'r enwau Caerfyrddin/Carmarthen ar bwys yr A40 ar y ffordd i mewn i'r dref o'r gorllewin.

Mae nifer o sylwadau ar gyfryngau cymdeithasol yn ei ddisgrifio fel "gwastraff arian", yn "hurt" gyda nifer yn dadlau ei fod wedi ei osod mewn man peryglus wrth ystyried fod cynifer o ddamweiniau ar y ffordd ddeuol.

Fe gostiodd yr arwydd "y swm rhyfeddol o £344,000" yn ôl yr undeb Unison, sy'n codi cwestiynau ynghylch blaenoriaethau Cyngor Sir Gâr.

Mae Maer Caerfyrddin, Gareth John, a'r cynghorydd lleol Alun Lenny yn galw ar brif weithredwr ac arweinydd y cyngor i gynnal ymchwiliad i'r modd y comisiynwyd yr arwydd, ac i ystyried ei symud i safle mwy diogel.

Cafodd yr arwydd ei gomisiynu sawl blwyddyn yn ôl a'i baratoi gan ymgynghorwyr ar ran fforwm y dref, sy'n cynrychioli nifer o fusnesau.

'Y nod oedd denu ymwelwyr'

Mewn datganiad, dywedodd Maer y dref y Cynghorydd Gareth John a'r Cynghorydd Alun Lenny mai bwriad yr arwydd oedd denu ymwelwyr i'r dref, gan bod nifer yn gyrru heibio tref Caerfyrddin heb oedi.

Mae'n nhw'n pwysleisio nad arian trethdalwyr sydd wedi ei wario ar yr arwydd, ond bod yr arian wedi dod o gronfa Cynllun Datblygu Gwledig Llywodraeth Cymru.

"Dyw'r arwydd ddim wedi cyrraedd y disgwyliadau," meddai'r cynghorwyr, "a dyw hi ddim yn bosib ei ddarllen yn iawn gan ei fod yn baralel i'r A40.

"Yn ein barn ni, mae'r arwydd yn aneffeithiol ac o bosib yn achosi perygl i yrwyr. Am y rhesymau hyn, ry'n ni'n galw ar brif weithredwr ac arweinydd y cyngor sir i gynnal ymchwiliad i'r modd y comisiynwyd yr arwydd."

Dyma'r enghraifft ddiweddaraf o'r cyngor yn gwneud penderfyniad "hurt", yn ôl ysgrifennydd cangen Sir Gaerfyrddin o'r undeb Unison, Mark Evans, gan gyfeirio at "ffolineb" cynllun gwella cylchfannau yn Llanelli "ar gost aruthrol".

Mae yntau hefyd yn dadlau bod lleoliad yr arwydd yng Nghaerfyddin "yn hollol beryglus ac yn risg iechyd a diogelwch o fodurwyr".

Dywedodd: "Ein prif gonsyrn arall yw blaenoriaethau annoeth y cyngor a bod arweinwyr ddim yn dysgu o gamgymeriadau blaenorol."

Ychwanegodd bod gwario "£344,000, neu o leiaf cyfran helaeth [o'r swm hwnnw]... yn sarhad" ar weithwyr sydd wedi "cadw gwasanaethau cyngor hanfodol i fynd yn ystod y pandemig... pan fo'r [cyngor[ wedi torri gwasanaethau ac amodau gwaith mewn ffordd mor eithafol".

Mae BBC Cymru wedi gofyn am ymateb penaethiaid Cyngor Sir Gâr.

Pynciau cysylltiedig