AS Delyn yn wynebu cael ei atal am dorri côd San Steffan

  • Cyhoeddwyd
Rob RobertsFfynhonnell y llun, Tŷ'r Cyffredin

Mae Aelod Seneddol Ceidwadol yn wynebu cael ei atal o'r senedd am chwe wythnos ar ôl i banel annibynnol ganfod ei fod wedi torri polisi aflonyddu rhywiol.

Mae dyn a oedd yn arfer gweithio i Rob Roberts wedi dweud wrth BBC Cymru bod AS Delyn wedi gwneud nifer o sylwadau amhriodol a gofyn iddo "fod yn llai deniadol".

Bydd yn rhaid i Dŷ'r Cyffredin nawr benderfynu os ydyn nhw'n cefnogi cosb y panel annibynnol.

Fe apeliodd Rob Roberts yn erbyn ei gosb, ond cafodd yr apêl ei wrthod ar 17 Mai.

Mae'r Blaid Lafur wedi dweud y dylai Mr Roberts "ymddiswyddo o'i sedd ar unwaith".

Mae llefarydd swyddogol ar ran 10 Downing Street wedi dweud bod chwip y blaid Geidwadol wedi'i dynnu oddi ar Mr Roberts.

Yn dilyn y dyfarniad, mae Mr Roberts wedi ymddiheuro, a chydnabod bod ei ymddygiad yn "gwbl anaddas" ac na ddylai wedi digwydd.

'Camymddwyn yn sylweddol'

Daw dyfarniad y panel annibynnol ar ôl i'r Blaid Geidwadol gau eu hymchwiliad nhw i'r mater, gan ddweud fod AS Delyn wedi "derbyn cerydd cryf" ond y byddai'n parhau fel aelod Ceidwadol.

Yn ei gyfweliad cyntaf, mae cyn-weithiwr Mr Roberts yn dweud ei fod yn "anghyfforddus", "wedi'i ysgwyd" ac "wedi'i ddychryn" gan ymddygiad yr Aelod Seneddol.

Ym Mehefin 2020, fe benderfynodd y cyn-weithiwr wneud cwyn o aflonyddu rhywiol i Gynllun Cwynion Annibynnol y Senedd.

Dyma un o'r achosion cyntaf i gael ei ddyfarnu gan y panel, gafodd ei sefydlu i edrych ar achosion o fwlio ac aflonyddu fis Tachwedd diwethaf.

Dywedodd cadeirydd y panel annibynnol, Syr Stephen Irwin, fod y "camymddwyn yn sylweddol".

"Mae'n amlwg fod Mr Roberts AS mewn sefyllfa rymus iawn fel cyflogwr, mewn perthynas â'r achwynwr," meddai.

"Ein casgliad ni yw bod chwe wythnos o waharddiad o wasanaeth y Tŷ yn gywir ac yn gymesur."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Dechreuodd y dyn ifanc, sydd am aros yn anhysbys, weithio i Mr Roberts ar ddechrau 2020.

Mae'n dweud bod yr Aelod Seneddol wedi gwneud ei sylwadau amhriodol cyntaf 10 diwrnod yn ddiweddarach, â'r ddau mewn car gyda'i gilydd ar ymweliad etholaethol, pan ddywedodd Mr Roberts: "Dwi'n dy ffeindio di'n ddeniadol iawn, a dwi angen i ti wneud dy hun yn llai deniadol yn y swyddfa gan ei fod yn anodd iawn i mi."

Dywedodd y cyn-aelod o staff bod y sylw wedi gwneud iddo deimlo'n "anghyfforddus iawn" ond ei fod "wedi ei ddiystyru" gan fod yr AS "yn ymddiheuro".

Y penwythnos hwnnw, cafodd Mr Roberts swper gyda ffrind i'r dyn, a "gofynnodd am ganiatâd" i ofyn i'w aelod o staff fynd allan gyda Mr Roberts, neu i gael "trio eto gydag o".

Er i'r ffrind ei annog yn gryf rhag gwneud hynny, y bore wedyn welodd yr aelod staff bod "cyfarfod un i un wedi'i drefnu gyda Rob" yn ei ddyddiadur.

Yn y cyfarfod hwnnw, dywedodd Mr Roberts wrth y dyn ifanc ei fod eisiau "mynd â phethau ymhellach a petai ti eisiau gwneud hynny hefyd y byddai'n fy ngwneud i'n hapus iawn".

Dywedodd y dyn wrth BBC Cymru ei fod yn "teimlo'n anghyfforddus iawn, wedi fy synnu ac wedi fy nychryn".

"Fe drïais i fod yn neis a dweud 'dwi wir yn eich licio chi fel bos, ond dwi'n meddwl ei fod yn well i'n perthynas ni yn aros yn broffesiynol," meddai.

'Cenfigen'

Dros y dyddiau nesaf, roedd Mr Roberts yn "ymddwyn yn genfigennus," medd y dyn.

"Pan ro'n i'n cael cinio gyda phobl, byddai'n gofyn pwy oedden nhw, oedden nhw'n ferch neu'n fachgen?

"Byddwn i'n trefnu cael diod gyda ffrindiau fin nos neu swper gyda fy chwaer a byddai'n dweud 'pam wyt ti'n mynd am ddiod efo nhw ac nid fi?'"

Dywedodd hefyd bod yr Aelod Seneddol wedi gwneud sylwadau amhriodol wrth gyfeirio at ei rywioldeb.

Ar ôl iddo ddweud ei fod yn rhy brysur i fynd am ddiod gyda Mr Roberts, dywedodd ei fod wedi "rhoi drinks yn y dyddiadur ar gyfer y dydd Mawrth canlynol, y tu allan i fy oriau gwaith, heb roi unrhyw rybudd i mi".

"Dyna'r pwynt feddyliais i: 'alla'i ddim dod i'r gwaith bellach'. Dydy o ddim yn ymddygiad derbyniol, fy ngorfodi i dreulio amser gydag o, a gydag alcohol."

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Rob Roberts ei ethol fel AS Delyn yn etholiad cyffredinol 2019

Dywedodd y cyn-aelod o staff ei fod "mewn niwl cyson. Roedd rhaid i mi ffeindio esgusodion i adael yr ystafell. Roeddwn i'n anghyfforddus drwy'r amser."

Dywedodd bod rhaid iddo benderfynu "i adael fy swydd neu beidio" a bod ganddo "lot o benderfyniadau anodd i'w gwneud" pan aeth ati i godi'r mater gyda swyddogion y Blaid Geidwadol.

"'Da chi'n labelu eich hun fel rhywun sy'n achosi trwbl gyda phobl yn uchel fyny yn y blaid, a 'da chi ddim yn gwybod sut mae'r blaid yn mynd i ymateb.

"Mae 'na reswm pam bod cyn lleied o gwynion fel hyn yn cael eu gwneud - yr ofn sydd gan bobl ynglŷn â beth sy'n mynd i ddigwydd i'w gyrfa.

"Doedd gen i ddim llawer o sicrwydd gwaith ac roedd y pandemig rownd y gornel."

Yn y pendraw fe symudodd y dyn i rôl arall yn y Senedd, cyn gadael y sefydliad yn llwyr.

"Ces i fy rhoi mewn sefyllfa ble roedd rhaid i mi adael fy swydd - dyliwn i ddim fod wedi cael fy rhoi yn y sefyllfa yna," meddai.

Cysylltodd y dyn â'r Cynllun Cwynion Annibynol ym mis Mawrth y llynedd, gan fwrw 'mlaen gyda chwyn swyddogol ym mis Mehefin, ar ôl dod yn ymwybodol o honiadau eraill yn erbyn Mr Roberts - a'r rheiny hyd yn oed wedi i'w blaid siarad gyda Mr Roberts am ei ymddygiad.

Honiadau eraill

Daw'r dyfarniad wedi i BBC Cymru adrodd ar honiadau eraill, cwbl ar wahân, o ymddygiad amhriodol gan y gwleidydd fis Gorffennaf y llynedd.

Mewn cyfres o negeseuon a anfonwyd gan Mr Roberts, a ddaeth i law BBC Cymru, roedd y gwleidydd yn cynnig "ychydig o hwyl heb ddisgwyliadau" i ddynes 21 oed oedd yn hefyd gweithio yn y senedd.

Fe anfonodd cyfres o negeseuon tebyg ati, er iddi ddweud wrtho ei bod yn dioddef gyda'i iechyd meddwl.

Dywedodd y ddynes wrth BBC Cymru fod y negeseuon wedi gwneud iddi deimlo'n "fregus iawn".

Disgrifiad o’r llun,

Cyfres o negeseuon Rob Roberts at y fenyw 21 oed, a ddaeth i law BBC Cymru

Mae BBC Cymru yn deall bod Mr Roberts wedi cael gwybod ar 29 Mawrth eleni bod y panel yn bwriadu ei gosbi, ond ei fod wedi apelio'r dyfarniad mis yn ddiweddarach - apêl a gafodd ei wrthod.

Mae ei gyn-weithiwr yn dweud bod Mr Roberts hefyd wedi ei feirniadu wrth y panel oedd ymchwilio annibynnol, gan gyfeirio ato "fel rhywun oedd 'eisiau sylw', yn dweud 'fy mod yn ceisio dinistrio ei fywyd a'i yrfa. Mae o'n victim-shaming'."

"Un o'r rhesymau dros wneud hyn, a gorfod gadael y senedd, yw oherwydd fy mod i eisiau sicrhau nad yw hyn yn digwydd i bobl eraill."

Wrth ymateb i gasgliadau'r panel heddiw, dywedodd y cyn-weithiwr ei bod hi'n "rhyddhad bod yr adroddiad wedi canfod bod Rob Roberts wedi torri'r polisïau sydd yn eu lle i warchod staff rhag camymddwyn rhywiol, a hynny mewn ffordd faleisus a difrifol, ac rwy'n croesawu argymhelliad y panel i'w wahardd o'r Tŷ.

"Mae hwn wedi bod yn broses hir ac rwy'n ddiolchgar i'r Comisiynydd, yr ymchwilydd a'r aelodau o'r paneli amrywiol am y ffordd ystyriol yr aethon nhw i'r afael â ffeithiau'r achos hwn.

"Rwy'n gobeithio y bydd Tŷ'r Cyffredin nawr yn adlewyrchu ar y casgliadau yn yr adroddiad ac yn gweithredu'n sydyn i gynnal y gwaharddiad.

"Dwi'n falch ei fod yn dangos bod y broses gwynion yn gweithio, a dwi'n gobeithio y bydd yn rhoi hyder i erial."

Y panel annibynnol

Ym Mehefin y llynedd fe bleidleisiodd Aelodau Seneddol o blaid ffurfio panel annibynnol o arbenigwyr er mwyn delio a bwlio ac aflonyddu yn eu herbyn gwleidyddion.

Mae'r panel yn gwbl annibynnol oddi wrth Aelodau Seneddol, a'r cosbau llymaf yn cynnwys atal neu ddiarddel Aelodau Seneddol - ond yn ddibynnol ar bleidlais yn Nhŷ'r Cyffredin i'w cymeradwyo nhw.

Mae'r cosbau llai llym yn gallu cael eu gweithredu heb gymeradwyaeth Aelodau Seneddol.

Ond nid yw cosbau'r Panel Annibynnol yn mynd mor bell â grymoedd y Pwyllgor Safonau Seneddol.

Os yw'r Pwyllgor Safonau yn atal Aelod am 10 diwrnod mae'n arwain yn awtomatig at ddeiseb adalw, sy'n gallu arwain at isetholiad.

Nid yw gwaharddiad sylweddol gan y Panel Annibynnol - er yn delio â'r cwynion mwyaf difrifol o fwlio ac aflonyddu yn San Steffan - yn arwain yn awtomatig at yr un canlyniad.

Beth mae Mr Roberts wedi'i ddweud?

Mewn datganiad yn dilyn y dyfarniad, dywedodd Mr Roberts bod hanner cyntaf 2020 yn "arbennig o heriol" iddo ar ôl penderfynu gadael ei wraig, a chyhoeddi ei fod yn hoyw.

Dywedodd ei fod wedi "gobeithio cychwyn perthynas bersonol" gyda'r aelod o staff dan sylw, ond ei fod yn deall bod hynny'n "gwbl anaddas" ac na ddylai wedi digwydd.

"Mi wnes i ymddiheuro ar y pryd ac mi ydw i'n ymddiheuro eto i'r achwynydd, ond hefyd i fy nghyd-weithwyr, fy nheulu a fwy na dim fy etholwyr."

Ychwanegodd y byddai'n "parhau i wneud fy ngorau dros fy etholaeth" fel AS, swydd sy'n "fraint fwyaf fy mywyd" meddai Mr Roberts.

Dyw'r Aelod Seneddol ddim wedi gwneud sylw am y negeseuon a anfonwyd i'r ddynes ifanc.

Beth mae'r blaid wedi dweud?

Dywedodd llefarydd ar ran y blaid Geidwadol: "Hoffem ymddiheuro i'r unigolyn dan sylw am y driniaeth amhriodol a diwarant a gawson nhw gan rhywun oedd mewn safle o awdurdod.

"Does dim lle i'r ymddygiad y gwnaethon nhw ddioddef, ac rydym yn canmol eu dewrder wrth ddod ymlaen.

"Yng ngoleuni canlyniad yr ymchwiliad safonau, mae chwip y blaid Geidwadol wedi ei thynnu oddi wrth Rob Roberts AS."

Mae'r Blaid Geidwadol eisoes wedi cynnal a chau eu hymchwiliad eu hunain i Rob Roberts ar ôl i BBC Cymru gyhoeddi cyfres o negeseuon rhywiol a anfonwyd at ddynes oedd yn gweithio yn y Senedd ac ar ôl i Mr Roberts gyfaddef iddo ofyn i weithiwr arall yn Nhŷ'r Cyffredin i fynd allan ag ef.

Mae'r blaid yn honni na chysylltwyd â'r un o'r ddau aelod o staff hyn fel rhan o'u hymchwiliad, am nad oedd cwynion a wnaed i'r blaid wedi dod yn uniongyrchol gan yr unigolion dan sylw, ond wedi dod trwy drydydd parti.

Yn gynharach eleni daeth yr ymchwiliad i ben yn dweud bod Rob Roberts wedi derbyn "cerydd cryf" am ei ymddygiad "annerbyniol", ond y byddai'n parhau yn Aelod Seneddol Ceidwadol.

'Dylai ymddiswyddo ar unwaith'

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Anneliese Dodds, AS Llafur, wedi galw ar Mr Roberts i ymddiswyddo

Dywedodd Anneliese Dodds AS, cadeirydd y Blaid Lafur: "Mae'r adroddiad yn cadarnhau'n llawn yr honiadau aflonyddu rhywiol a wnaed yn erbyn Rob Roberts AS.

"Dylai felly ymddiswyddo o'i sedd ar unwaith.

"Mae'r ffaith nad yw camdriniaeth mor ddifrifol a phrofedig yn arwain yn awtomatig at alw Aelod Seneddol yn ôl yn hurt ac yn anghyfiawn.

"Ni all y Llywodraeth Geidwadol ddawnsio o amgylch bylchau mewn deddfwriaeth os yw o ddifrif ynghylch cynnal safonau mewn bywyd cyhoeddus.

"Dyna pam rydyn ni'n disgwyl i'r Llywodraeth weithredu ar unwaith - bydd Llafur yn cefnogi ymdrechion i basio deddfwriaeth neu fesurau brys i gywiro'r sefyllfa hon."