Rhaid hybu 'Brand Cymru' wrth farchnata bwyd wedi Brexit
- Cyhoeddwyd
Rhaid blaenoriaethu'r Ddraig Goch dros Jac yr Undeb ar allforion bwyd a diod o Gymru ar ôl Brexit, yn ôl arweinwyr y diwydiant amaeth.
Rhybuddiodd Hybu Cig Cymru (HCC) y gallai brandio Prydeinig ar gynnyrch fel cig oen ac eidion fod yn anfantais mewn marchnadoedd allweddol.
Mynnodd yr undebau amaeth bod 'na "botensial arbennig i ddatblygu 'Brand Cymru'".
Ond dadlau y dylai'r ddwy faner gael eu defnyddio i farchnata cynnyrch o Gymru i'w lawn botensial dramor mae'r Ceidwadwyr Cymreig.
Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai brandio bwyd Cymru fel cynnyrch cynaliadwy yn hollbwysig wedi Brexit.
Dywedodd Defra y byddai cynnyrch unigryw fel cig oen Cymreig yn cadw ei statws wedi Brexit, ac y byddai modd ychwanegu labeli fel y Ddraig Goch.
Roedd gwerth allforion bwyd a diod o Gymru dros hanner biliwn o bunnoedd am y tro cyntaf yn 2017 - gyda 77.3% yn mynd i'r Undeb Ewropeaidd.
Mae traean o gig oen Cymru a 97% o gregyn môr yn cael eu hanfon i'r cyfandir neu ymhellach i wledydd fel De Corea drwy gytundebau masnach yr UE.
Ar ôl Brexit, mae Llywodraeth y DU yn bwriadu datblygu polisi masnach annibynnol, gyda chyrff amaeth a bwyd yn lobïo'n galed ynglŷn â sut ddylai eu cynnyrch gael ei farchnata.
Mae cynlluniau ar y gweill hefyd i greu system Brydeinig i warchod enwau bwyd penodol fel cig oen Cymreig, Halen Môn a ham Caerfyrddin - yn lle'r ddynodiaeth presennol y maen nhw wedi'i dderbyn o'r UE.
'Food is Great'
Cododd ffrae yn ystod Sioe Frenhinol Cymru ym mis Gorffennaf ar ôl i weinidogion yn San Steffan noddi'r neuadd fwyd, gan olygu bod y slogan 'Food is Great' a baner jac yr undeb ar arwyddion a deunydd marchnata.
Arweiniodd at drafodaethau rhwng trefnwyr y sioe a Llywodraeth Cymru, gyda'r Gweinidog Amgylchedd Lesley Griffiths yn mynnu nad oedd hi am weld "Jac yr Undeb... ar ein ffenest siop fawr i'r byd".
Dywedodd Gwyn Howells, Prif Weithredwr HCC, fod y brand Prydeinig "ddim yn gryf iawn" mewn marchnadoedd allweddol i ffermwyr Cymru.
"Mae'n rhaid i ni flaenoriaethu'r ddraig goch - mae'n llawer mwy na logo," meddai.
"Mae'n cynrychioli addewid o ble mae'r bwyd wedi dod - tirlun Cymru a'r dulliau traddodiadol o gynhyrchu i'r safonau uchaf - sy'n cynyddu'r pris."
Gan gyfeirio at ymchwil diweddar gan y Bwrdd Datblygu Amaeth a Garddwriaeth (AHDB), fe ddywedodd y byddai gorfodi brandio Prydeinig ar gig coch o Gymru "yn sicr yn anfantais".
Awgrymodd yr arolwg o 4,503 o gwsmeriaid rhyngwladol bod canfyddiad pobl o fwyd Prydeinig yn fwy negyddol na chadarnhaol yn Ffrainc, yr Almaen, Japan, yr Unol Daleithiau a Chanada.
Honnodd Mr Howells bod "y cynnig Cymreig" yn fwy adnabyddus ac "yn derbyn llawer fwy o groeso" yn y marchnadoedd yma.
Er hynny, yn India, China, Saudia Arabia a'r Emiradau Arabeg Unedig - lle'r oedd adborth arolwg AHDB yn fwy cadarnhaol - dywedodd bod 'na le o bosib i ddefnyddio jac yr undeb ar y cyd â'r ddraig goch i geisio sicrhau mynediad i gynhyrchwyr o Gymru i'r marchnadoedd hynny.
Yn ôl cyfarwyddwr NFU Cymru John Mercer mae gan Gymru "stori ffantastig i'w hadrodd", gan annog gweinidogion i ystyried yn ofalus pa frandio fyddai'n apelio at wahanol farchnadoedd.
Ychwanegodd Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru Glyn Roberts bod yr undeb wedi dweud wrth Lywodraeth y DU 12 mis yn ôl y byddai "brandio cynnyrch o Gymru gyda jac yr undeb yn cael effaith negyddol yn y mwyafrif o'r marchnadoedd allforio wnaeth AHDB eu hastudio".
'Hybu hunaniaeth'
Dywedodd y cyn-brif weinidog a chyn-weinidog amaeth yn Llywodraeth Cymru, Carwyn Jones, y gallai labelu cig o Gymru â brandio Prydeinig ostwng ei werth a'i bris.
"Mae'n allweddol ein bod ni'n parhau i werthu Cymru i'r byd - ac mae bwyd a diod yn rhan hollbwysig o hynny am ei fod yn hybu hunaniaeth.
"Rhaid i ni beidio â gweld yr hunaniaeth yna yn cael ei lyncu."
Ond gweld hi'n wahanol mae Andrew RT Davies, llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar yr amgylchedd a materion gwledig.
Dylai Cymru fod yn "cofleidio'r ddau frand" meddai, gan ddisgrifio sylwadau Ms Griffiths yn dilyn ffrae'r Sioe Frenhinol fel rhai "chwithig".
"Rhaid i ni wrando ar yr arbenigwyr mewn marchnata - mae gennym ni gyfle da iawn i ddefnyddio dau blatfform o ran hybu ein cynnyrch - ddylen ni ddim troi cefn ar un ohonyn nhw.
"Pam na allwn ni farchnata cynnyrch o Gymru i'w lawn botensial - os oes modd ategu jac yr undeb at y ddraig goch yna dyna ddyliwn ni wneud."
'Heriau a chyfleoedd'
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod diwydiant bwyd a diod Cymru wedi profi "llwyddiant ysgubol" yn y gorffennol a bod "Brexit yn rhoi heriau a chyfleoedd i'r diwydiant".
Ychwanegodd y llefarydd: "Mae gwaith wedi dechrau i ddatblygu ein brand yn y sector.
"Rydyn ni'n credu y bydd yn flaenoriaeth i frandio bwyd a diod o Gymru fel cynnyrch sydd wir yn gynaliadwy ar ôl Brexit..."
Mae Defra wedi dweud bod cynlluniau wedi eu hamlinellu ar gyfer bwyd a diod wedi Brexit, ac y byddai cynnyrch fel cig oen Cymreig a Halen Môn yn cael yr un statws gwarchodedig.
Dywedodd y llefarydd y "gallai cynhyrchwyr roi labeli ychwanegol, fel y Ddraig Goch, os ydynt yn dewis".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Ionawr 2019
- Cyhoeddwyd9 Hydref 2018
- Cyhoeddwyd1 Hydref 2018
- Cyhoeddwyd23 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd5 Ionawr 2018