Canolfannau brechu Covid-19 yn 'ddiogel ac effeithlon'
- Cyhoeddwyd
Mae canolfannau brechu yng Nghymru wedi darparu amgylchedd "diogel ac effeithlon" ar gyfer rhoi brechlynnau Covid-19, yn ôl y corff arolygu gofal iechyd.
Ymwelodd Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) ag wyth canolfan frechu torfol i wirio safonau diogelwch.
Canfu "staff ymroddedig, sy'n gweithio'n galed" a dim ond mân welliannau a ofynnwyd mewn rhai meysydd.
Arolygwyd dros 500 o bobl a fynychodd apwyntiadau brechu, gyda'r rhan fwyaf yn dweud bod ganddynt brofiad "rhagorol".
Cynhaliodd AGIC gyfres o arolygiadau â phwyslais penodol ar wyth canolfan frechu dorfol ledled Cymru yn ystod mis Mawrth 2021.
'Trefniadau priodol'
Dywedodd ei adroddiad fod yr ymweliadau wedi'u cynllunio i asesu'r gwahanol drefniadau sydd ar waith, ac i "wirio sut mae'r risgiau i iechyd, diogelwch a lles pobl yn cael eu rheoli".
"Mae natur dros dro'r safleoedd, a'r nifer uchel o bobl sy'n cael eu trin, yn codi risgiau posibl mewn nifer o feysydd."
Er gwaethaf y risgiau posibl, dywedodd AGIC ei bod yn canfod bod "trefniadau priodol" wedi'u rhoi ar waith gan y gwahanol fyrddau iechyd, er gwaethaf y cyflymder a'r "amgylcheddau unigryw" a oedd yn cael eu defnyddio ar gyfer canolfannau brechu torfol.
Roedd y rhain yn cynnwys canolfan frechu a sefydlwyd yn y ganolfan fowlio dan do yn Aberpennar, ac ysbytai dros dro Ysbyty Enfys ym Mangor ac ar Lannau Dyfrdwy.
Roedd y gwelliannau a argymhellwyd yn cynnwys gwell cydymffurfiaeth â gweithdrefnau diogelwch tân a gwacáu, a gwirio offer dadebru yn fwy rheolaidd.
Roedd byrddau iechyd yn "brydlon ac effeithiol" wrth ddatrys y materion hyn, ychwanegodd yr adroddiad.
Dywedodd Alun Jones, prif weithredwr dros dro AGIC, wrth BBC Cymru: "Roedd yn gadarnhaol iawn gallu adrodd ein bod yn teimlo, yn ôl cydbwysedd y dystiolaeth yr ydym wedi'i gweld a'r ymweliadau yr ydym wedi'u gwneud, fod cleifion yn derbyn gofal diogel ac effeithlon yn ystod eu hymweliadau â chanolfannau brechu torfol.
"Hefyd, roedd gan y byrddau iechyd eu hunain drefniadau effeithiol iawn ar waith, yn gyffredinol, i oruchwylio'r canolfannau brechu torfol hynny er mwyn sicrhau eu bod yn gweithredu'n ddiogel ac yn effeithlon."
Defnyddir canfyddiadau'r adroddiad i lywio'r defnydd pellach o ganolfannau brechu torfol wrth i'r broses bresennol o gyflwyno'r brechlyn barhau, ac ar gyfer rhaglenni brechu Covid pellach."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Mai 2021
- Cyhoeddwyd12 Mai 2021
- Cyhoeddwyd7 Mai 2021