2 filiwn o bobl wedi eu brechu yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Mae Cymru wedi cyrraedd carreg filltir pellach yn y frwydr yn erbyn pandemig Covid-19 wrth i'r ffigyrau diweddaraf ddangos bod dros ddwy filiwn o bobl bellach wedi derbyn o leiaf un dos o'r brechlyn.
Yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru cafodd un farwolaeth ychwanegol ei chofnodi yn y 24 awr hyd at 09:00 fore Gwener, 15 Mai a 54 achos positif newydd.
Daw hynny â chyfanswm y marwolaethau i 5,559 a 212,149 o achosion.
Mae 2,019,160 o bobl yng Nghymru wedi derbyn eu dos cyntaf o frechlyn Covid, gyda 915,674 wedi derbyn y cwrs llawn o ddau frechiad.
Mae hynny'n golygu bod 80% o holl oedolion Cymru wedi derbyn o leiaf un dos, gyda un o bob tri hefyd wedi derbyn ail ddos gan gwblhau'r cwrs yn llawn.
Yn ôl Llywodraeth Cymru mae Cymru ar y trywydd iawn i gynnig brechiad i bob oedolyn erbyn diwedd mis Gorffennaf.
Dywedodd Gweinidog Iechyd newydd Cymru, Eluned Morgan: "Mae hwn yn gyflawniad gwych mewn cyn lleied o amser."
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
"Rwy'n hynod falch ac yn ddiolchgar i'r miloedd o bobl - staff y GIG, personél milwrol a gwirfoddolwyr - sydd wedi gweithio mor galed ledled y wlad i gyrraedd y garreg filltir hon," meddai.
"Mae brechu yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i gwrs y pandemig hwn. Mae pob dos sy'n cael ei ddosbarthu yn fuddugoliaeth fach yn erbyn y feirws ofnadwy hwn."
Dywedodd Dr Gill Richardson, Dirprwy Brif Swyddog Meddygol Cymru ar gyfer Brechlynnau: "Rydym yn parhau i arwain ymdrechion y DU i frechu cymaint o'r boblogaeth mor gyflym ac mor ddiogel â phosibl i helpu i ddod â'r pandemig hwn i ben.
"Rwy'n falch o'n holl dimau brechu ledled Cymru, y mae eu gwaith caled a'u hymroddiad wedi golygu bod 95% o'r rhai yn y grwpiau mwyaf agored i niwed wedi cael eu dos cyntaf o leiaf, ac rydym bellach yn gwneud cynnydd mawr drwy'r grwpiau oedran iau.
"Mae'r nifer sy'n derbyn wedi bod yn llawer uwch na'r hyn a ragwelwyd ond mae'n bwysig iawn eich bod chi'n mynd am eich apwyntiad - p'un ai'ch dos cyntaf neu'r ail ddos.
"Mae pob brechiad yn cyfrif. "
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Mai 2021
- Cyhoeddwyd12 Mai 2021
- Cyhoeddwyd6 Ebrill 2021