Fandaliaeth a sbwriel yn 'peryglu' ecoleg traeth
- Cyhoeddwyd
Mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi apelio ar bobl i ymddwyn yn gyfrifol ac i barchu cefn gwlad ar ôl cynnydd digynsail mewn fandaliaeth, gwersylla dros nos ac ysbwriel ar draeth anghysbell yn Sir Gaerfyrddin.
Yn ôl yr Ymddiriedolaeth, mae Morfa Bychan ger Pentywyn, sydd yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, yn cael ei beryglu gan wersylla anghyfreithlon, gwaredu ysbwriel a gwastraff dynol sydd yn bygwth bywyd gwyllt a phlanhigion.
Maen nhw'n apelio ar y cyhoedd i beidio â pharcio dros nos ar y safle, cyn penwythnos Gŵyl y Banc.
Mae'r glwyd rhwng y maes pacio a'r traeth fel arfer ar glo, ond mae wedi cael ei difrodi sawl gwaith yn ystod y flwyddyn ddiwethaf gan wersyllwyr anghyfreithlon sydd wedi defnyddio offer arbennig i gael mynediad.
Mae parcmyn ac Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru wedi gorfod ymdrin gydag ysbwriel, carthion dynol a hen offer barbeciw sydd wedi eu gadael gan ymwelwyr. Mae clwydi a pholion wedi cael eu torri a'u defnyddio ar gyfer tanau ac mae pentyrrau o ysbwriel wedi cael eu gadael ar ôl partïon dros nos.
Mae'r Ymddiriedolaeth yn bryderus bod ecoleg y safle yn y fantol oherwydd ymddygiad anghyfrifol.
"Mae'n dorcalonnus," medd Stuart McDonnell, sy'n barcmon gyda'r Ymddiriedolaeth. "Mae'r Ymddiriedolaeth yn gyfrifol am 157 milltir o'r arfordir ac un o bob wyth ardal o ddiddordeb gwyddonol arbennig yng Nghymru.
"Mae yna berygl bod yr ymddygiad yma yn dinistrio cynefin unigryw. Mae Bae Caerfyrddin yn le arbennig ac mae'r traeth yn enghraifft brin o gynefin sydd wedi goroesi.
"Does gan y bobl yma ddim parch ar gyfer y tir a'r bywyd gwyllt. Y bygythiad mwyaf yw'r perygl i'r ardal o ddiddordeb gwyddonol arbennig. Dyw hi ddim yn bleserus iawn i glirio'r llanast.
"Mae'r broblem wedi bod yn cynyddu yn raddol dros y pum mlynedd diwethaf. Mae yna leiafrif o bobl sydd ddim yn parchu cefn gwlad."
Hen drampolîn a charafán
Mae'r Ymddiriedolaeth yn gweithio mewn partneriaeth gydag asiantaethau lleol i dynnu sylw at y pryderon ac i annog pobl i ymddwyn yn gyfrifol. Maen nhw hefyd wedi cael cefnogaeth Simon Hart - yr AS lleol dros Orllewin Cymru a De Penfro ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru - sydd yn ymwelydd cyson â'r safle.
"Mae Morfa Bychan yn le arbennig iawn, yn le gwyllt dw'i wedi mwynhau fel ymwelydd ers degawdau," meddai.
"Rwy'n falch iawn fod pobl yn ymwybodol o'r safle ac yn mwyhau'r traeth, ond mae'n cael ei ddifrodi gan griw bychan hunanol.
"Mae coed wedi cael eu torri lawr gyda llifau cadwyn, mae beiciau cwad wedi cael eu gyrru yma a gwastraff dynol wedi cael ei adael ar y traeth.
"Mae trigolion lleol yn aml yn cywain 'sbwriel, ac mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn ei gasglu. Ychydig yn ôl, fe wnaethon ni gasglu hen drampolîn a charafán.
"Mi faswn i yn annog pobl i ddod yma i fwynhau'r traeth ond heb adael unrhyw beth ar ôl, ac heb ddifrodi unrhyw beth."
'Mae'n broblem fawr'
Mae safle Morfa Bychan yn un o nifer yng Nghymru ble mae yna gynnydd mewn fandaliaeth a pharcio anghyfreithlon.
Mae yna ddisgwyliad y bydd mwy o bobl yn treulio eu gwyliau yma eleni, ac wrth i'r tywydd wella, mae yna bryder y bydd mwy o safleoedd yn cael eu heffeithio.
Rebecca Williams yw Cyfarwyddwr Cadwraeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru.
"Mae'n broblem fawr ac ry'n ni yn poeni am y nifer o bobl sydd yn debygol o droi lan dros Ŵyl y Banc," meddai.
"Mae'r ardal yn un o ddiddordeb gwyddonol arbennig, sydd angen ei warchod. Mae angen sicrhau ein bod ni'n cadw'r niferoedd [o ymwelwyr] yn fach."
Parchu cefn gwlad
Meg Anthony yw Rheolwr Cyffredinol yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Sir Gaerfyrddin a Cheredigion.
"Rwy'n annog pobl i drin cefn gwlad gyda pharch, er lles byd natur a thrigolion eraill," meddai.
"Arhoswch mewn safleoedd gwersylla swyddogol. Cerwch ag unrhyw 'sbwriel adref gyda chi pan fyddwch chi yn ymweld, a pheidiwch â gadael carthion dynol ble nad oes yna dai bach.
"Mae ein parcmyn a gwirfoddolwyr yn ymweld â Morfa Bychan yn rheolaidd, ond mi faswn i yn croesawu unrhyw wybodaeth gan y gymuned leol am ymddygiad gwrth-gymdeithasol er mwyn medru datrys hyn gyda chymorth yr heddlu."
Mae'r Ymddiriedolaeth hefyd yn chwilio am wirfoddolwyr i warchod y glannau, ac i lanhau safleoedd fel Morfa Bychan.
Maen nhw'n dweud hefyd bod disgwyl i'r cyhoedd fod yn gyfrifol. Wrth i Ŵyl y Banc agosáu, mae'r cyhoedd yn cael eu hannog i gadw at y Cod Cefn Gwlad.
Mae hynny'n cynnwys gwersylla mewn mannau swyddogol yn unig, i gasglu 'sbwriel ac i amddiffyn tirwedd ac ecoleg rhai o fannau hyfrytaf Cymru.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Ebrill 2021
- Cyhoeddwyd29 Awst 2020
- Cyhoeddwyd7 Awst 2020